Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Ar 20 Hydref 2016, lansiodd y Prif Weinidog ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol yn targedu meddygon, gan gynnwys ymarferwyr cyffredinol, i gefnogi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i barhau ‘i fuddsoddi yn ein staff gofal iechyd drwy weithredu i ddenu a hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar draws Cymru'. Cafodd yr ymgyrch hon ei lansio ar y cyd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn Ffair Yrfaoedd y British Medical Journal (BMJ) yn Llundain ar 20-21 Hydref.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf ar y gweithlu a gyhoeddwyd ar 29 Mawrth, roedd cynnydd o 127 yn y cyfnod o 2006 i 2016 yn nifer yr ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru (ac eithrio cofrestrwyr, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a locymau). Mae'r ffigur hwn yn cynrychioli'r cynnydd da rydym yn ei wneud o ran staffio. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gellir bob amser gwneud mwy. Dyna pam rydym yn canolbwyntio yn ystod cam cyntaf ein hymgyrch ar farchnata Cymru fel lle deniadol i ymarferwyr cyffredinol a'u teuluoedd, i hyfforddi, byw a gweithio, drwy amlygu'r manteision a'r cyfleoedd a gynigir iddynt wrth ddilyn gyrfa feddygol yng Nghymru.
Un o brif elfennau'r ymgyrch oedd targedu meddygon sydd ar fin dewis ym mha faes y maent am ymgymryd â'u hyfforddiant arbenigol yn 2017. Fel rhan o'r cynnig Cymru a oedd yn sail i'r ymgyrch, bydd pob hyfforddai yn cael cyllid tuag at ffioedd ei arholiadau terfynol. Bydd hyfforddeion sy'n ymgymryd â'u hyfforddiant yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd â hanes o’i chael hi'n anodd recriwtio yn cael mwy o gymhelliad ariannol.
Mae'r ymgyrch a'r mentrau cysylltiedig eisoes wedi bod yn llwyddiannus, yn enwedig o ran yr effaith ar nifer y rheini sy'n dewis Cymru fel lle i ddechrau eu hyfforddiant. Yn ystod y ffenestr ar gyfer recriwtio i gylch 1 yr hyfforddiant arbenigol i ymarferwyr cyffredinol, roedd cynnydd o 19% yn y gyfradd ymgeisio o'i chymharu â'r un cyfnod yn 2016. Mae'r ffenestr honno wedi cau yn awr a gallaf gadarnhau bod y gyfradd lenwi ar gyfer lleoedd meddygon teulu ar ddiwedd cylch 1 yn 84%. Mae hyn yn cymharu â chyfradd lenwi o 68% yr adeg hon yn 2016.
Mae'r ail hysbyseb ar gyfer cylch 1 yn 2017 ar agor yn awr ac mae eisoes yn glir, drwy ymgymryd â mwy o weithgarwch mewn perthynas â'r ymgyrch hyd at yr adeg pan ddaw'r broses i ben ym mis Mai, gallwn ni gyflawni cyfradd lenwi uwch eto.
Bydd Cylch 2, i recriwtio ymarferwyr cyffredinol i ymgymryd â swydd ym mis Chwefror 2018, yn agor ym mis Awst 2017.
Ledled y DU, mae gan feddygon sy'n cael lle ar raglen hyfforddi ymarferwyr cyffredinol yn y DU hawl i ohirio dyddiad dechrau eu hyfforddiant am gyfnod hyd at 12 mis. Mae 21 o feddygon a gafodd eu recriwtio yng nghylch recriwtio 2016 naill ai wedi dechrau eu hyfforddiant ym mis Chwefror neu byddant yn ei ddechrau ym mis Awst 2017. Mae hyn yn ychwanegol at y rheini a fydd yn dechrau eu hyfforddiant fel rhan o ffenestr recriwtio 2017.
O'r ardaloedd hynny yng Nghymru a oedd yn rhan o'r cynllun cymhelliad ariannol, mae'r gyfradd lenwi eisoes yn 100% yng nghynlluniau hyfforddi ymarferwyr cyffredinol Sir Benfro, Gogledd-ddwyrain Cymru, a Gogledd-orllewin Cymru. Mae lle i gredu hefyd y bydd Ceredigion a Chanol Gogledd Cymru yn cynyddu eu cyfraddau llenwi ar ôl i'r ail hysbyseb ar gyfer cylch 1ddirwyn i ben.
Mae'r ymgyrch wedi defnyddio technegau marchnata digidol wedi'u targedu'n fanwl, hysbysebion yn y wasg arbenigol, marchnata drwy'r e-bost ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol; ac mae'r olaf o'r rhain wedi cyrraedd cynulleidfa o dros 3.7 miliwn. Mae astudiaethau achos sy'n destun ysbrydoliaeth, yn sôn am weithwyr proffesiynol sydd wedi symud i Gymru i ddilyn gyrfa feddygol, wedi bod yn gonglfaen i'r ymgyrch. Yn ogystal â hyn, mae'r marchnata digidol wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, gan gyrraedd yr India a Chanada. Mae'r wefan ar ei newydd wedd ar gyfer gyrfaoedd meddygol hefyd wedi cael ei gweld mwy na 56,000 o weithiau, sy'n gynnydd o 800% ar y chwe mis blaenorol.
Mae'r Un Man Cyswllt a gafodd ei lansio ochr yn ochr â'r ymgyrch yn datblygu ar swyddogaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel unig gyflogwr ymarferwyr cyffredinol drwy ddarparu cymorth lefel gyntaf i'r rheini sy'n ymateb i'r ymgyrch neu sy'n mynegi diddordeb mewn dychwelyd i weithio yn GIG Cymru. Mae'r Un Man Cyswllt hefyd yn darparu cymorth recriwtio i bractisau ymarferwyr cyffredinol annibynnol. Ar 24 Mawrth, roedd wedi ymgymryd â 378 o ymholiadau, a 173 ohonynt yn ymwneud ag ymarferwyr cyffredinol.
Mae'r ymgyrch wedi bod yn rhedeg am bum mis, ac rydym eisoes wedi cyflawni amryw o ganlyniadau cadarnhaol o'r ymholiadau sydd wedi'u cyflwyno i'r Un Man Cyswllt. Roedd y rhain yn cynnwys ceisiadau a wnaed ar gyfer hyfforddiant ymarferwyr cyffredinol, cyfnodau cynefino a chynlluniau diweddaru ar gyfer ymarferwyr cyffredinol.
Rwyf wedi bod yn glir mai ymgyrch farchnata hirdymor, a fydd yn cael ei chynnal dros gyfnod tymor y Cynulliad hwn yn gyfan fydd yr ymgyrch hon. Fodd bynnag, mae'r effaith sylweddol yr ydym wedi'i chael yn ystod y pum mis cyntaf yn argoeli'n dda wrth inni gyflawni yn unol â’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Bydd cam dau yr ymgyrch yn targedu nyrsys y sectorau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a chartrefi gofal a bydd yn cael ei lansio fis Mai. Bydd ymgyrchoedd yn y dyfodol yn targedu fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau fis Mai pan fydd gennym ddarlun cyflawn o'r sefyllfa o ran lleoedd hyfforddi i ymarferwyr cyffredinol ar gyfer 2017.