Mae Newhall Janitorial Ltd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio i leihau gwastraff plastig sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddeunydd pacio cynnyrch glanhau traddodiadol.
Yn hanesyddol, mae nwyddau glanhau wedi'u pecynnu mewn cynwysyddion plastig untro mawr, sy'n cyfrannu'n sylweddol at wastraff plastig. Nod yr awdurdod lleol oedd lleihau ei ôl troed carbon a chyrraedd targedau cynaliadwyedd lleol, gan ddod o hyd i ateb trwy fframwaith deunyddiau glanhau a gwasanaethau ymolchfa Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD).
Y problemau a nodwyd
- Gormod o Wastraff Plastig: Daw nwyddau glanhau traddodiadol mewn poteli plastig caled, gan gyfrannu at broblem gynyddol gwastraff plastig untro.
- Effaith Amgylcheddol: Mae gormod o becynnu plastig yn cyfrannu at wastraff tirlenwi ac yn cynyddu ôl troed carbon y nwyddau glanhau a gyflenwir.
- Prinder Opsiynau: Ychydig o ddewisiadau amgen hyfyw oedd ar gael yn y farchnad leol yn lle pecynnu plastig ar gyfer ein cyflenwadau glanhau.
Ateb
Trwy fframwaith Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru, trosglwyddodd CBSP i ateb arloesol ac eco-gyfeillgar: cynhyrchion glanhau mewn sachau bach bioddiraddadwy.
Roedd CBSP yn gallu dod o hyd i fformiwlâu cryno iawn oedd yn gofyn am becynnau llai. Roedd hyn yn lleihau gwastraff plastig ac yn gwneud storio a chludiant yn fwy effeithlon.
Lansiodd yr awdurdod lleol raglen beilot mewn rhai adeiladau cyngor, ysgolion a chyfleusterau i werthuso pa mor ymarferol fyddai newid i’r sachau bach hyn. Roedd y treial yn llwyddiannus ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno’r sachau bach yn ehangach ar draws y cyngor.
Y manteision a welwyd
- Lleihau Gwastraff Plastig: Arweiniodd y prosiect at ostyngiad o 900kg mewn gwastraff plastig, sy'n cyfateb i bwysau tri arth llawn dwf.
- Rheoli Gwastraff yn Effeithlon: Mae’r ffaith fod pwysau a maint y deunydd pacio yn llai wedi symleiddio’r broses o gael gwared ar y gwastraff, a lleihau allyriadau sy'n gysylltiedig â chludiant.
- Arbedion Ariannol: Arbedion yn y gost o gaffael cynnyrch a gwaredu gwastraff, ac effeithlonrwydd y gwaith oherwydd bod angen llai o le storio ar gyfer y sachau llai.
- Canfyddiad Cyhoeddus Cadarnhaol: Mae’r fenter wedi cael croeso gan staff ac aelodau’r cyhoedd, gan wella enw da CBSP fel awdurdod lleol cyfrifol a blaengar.
Mae'r fenter hon yn enghraifft o sut y gall caffael helpu busnesau ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i leihau gwastraff plastig a hyrwyddo cynaliadwyedd.
Rwy’n hynod falch gyda chanlyniadau’r ymarferiad hwn ac mai ni yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r dulliau glanhau cynaliadwy hyn yn llawn o fewn ein hadran.
Joanne Thomas, Rheolwr Cyfleusterau.
Dyddiad: Rhagfyr 2024
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru