Carwyn Jones, First Minister
Bydd yr Aelodau wedi nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dwy ddogfen yn ymwneud â safbwyntiau ynghylch Brexit sef “Future customs arrangements” a “Northern Ireland and Ireland”. Mae'r materion hyn yn bwysig iawn i Gymru ac rwyf am wneud sylwadau amdanynt o ran eu perthynas ag uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Y papur am Drefniadau Tollau yn y Dyfodol
Ychydig iawn o hyder neu sicrwydd y mae'r papur hwn yn ei roi ynghylch safbwynt negodi cadarn a chredadwy i’r DU. Mae'r ddau ddull posibl y mae’n eu hargymell yn gwbl anfoddhaol. Mae'r "trefniant tollau sydd wedi’i symleiddio’n arw" yn ffordd o guddio gwangalondid: gosod ffin tollau rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion am ddogfennaeth ychwanegol, rheolaethau ynghylch rheolau tarddiad a thariffau fydd o bosibl yn niweidio ein heconomi, yn hytrach na’r modd y mae’r rheolaethau hynny yn cael eu rhoi ar waith. Mae’r ail opsiwn - "partneriaeth tollau newydd gyda'r UE" - yn seiliedig ar ddim byd mwy nag optimistiaeth ddi-sail nad yw’n rhoi unrhyw ystyriaeth i gymhlethdodau’r byd go iawn, megis gofynion Rheolau Tarddiad yr UE. Er ei fod yn cynnig eglurhad, sy’n annhebygol iawn, ynglŷn â sut y gallai'r DU weithredu system 'rheolaeth ddeuol' ar gyfer mewnforion i'r DU sydd wedi’u bwriadu ar gyfer eu hallforio wedi hynny i'r UE, nid yw’n rhoi unrhyw syniad ynghylch sut y byddai mewnforion i'r DU o'r UE a allai fod wedi tarddu o drydedd wlad yn cael eu rheoli.
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi'i seilio'n gadarn ar y dystiolaeth o ran masnach ac yn cynrychioli sefyllfa negodi gynaliadwy ar gyfer y DU wrth gymryd buddiannau ein partner negodi i ystyriaeth. Rydym yn argymell parhau i gael mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl ac (oni bai a hyd nes y ceir tystiolaeth argyhoeddiadol bod y manteision o fod yn rhydd i gynnal polisi masnach annibynnol yn gorbwyso costau cyflwyno rhwystrau newydd i fasnachu gydag economïau’r UE) i gymryd rhan mewn Undeb Tollau gyda'r UE, gan gynnwys cynhyrchion amaethyddol a physgodfeydd sylfaenol. Lle mae’r safbwynt hwn yn cael ei fabwysiadu, mae’r angen am "drefniadau tollau sydd wedi’u symleiddio’n arw" - gyda'r holl gostau ychwanegol, y gwrthdaro, yr oedi a’r cymhlethdod i fusnes - yn diflannu. Yn wir, mae'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad mai'r unig ffordd o osgoi tarfu’n sylweddol ar ein perthynas fasnachu gyda'n cymdogion Ewropeaidd yn y tymor byr yw efelychu amodau’r Undeb Tollau yn ystod cyfnod pontio ar ôl Mawrth 2019 - safbwynt rydym yn ei groesawu - yn tanlinellu'r ffaith hon.
Y rhwystredigaeth arbennig sy'n deillio o ddogfen y DU yw ei bod yn amlinellu athroniaeth am fasnach y mae wedyn yn ei thanseilio yn ei chasgliadau. Mae'r papur yn cydnabod bod yr UE yn cyfrif am y gyfran fwyaf o fasnach y DU (mewnforion ac allforion gwerth £553 biliwn yn 2016) ac yna mae’n tanseilio’r busnes hwn drwy hyrwyddo dulliau dargyfeiriol yn hytrach na gwarchod ein masnach trwy gadw at gydgyfeirio. Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod cynnal masnach rydd gyda'r UE yn fanteisiol i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd ac ni chawsom ein perswadio gan unrhyw ddadleuon a gyflwynwyd i'r gwrthwyneb hyd yn hyn. Mae Llywodraeth y DU, ar y llaw arall, wedi penderfynu y dylai sefydlu polisi masnach ryngwladol annibynnol fod yn un o amcanion craidd ein hymagwedd tuag at Brexit, heb gyflwyno unrhyw dystiolaeth ynghylch pam na sut y gallai hyn fod o fudd i fusnes.
Mae economïau Cymru a'r DU wedi eu hintegreiddio'n agos i'r Farchnad Sengl ac mae pob dadansoddiad sydd ar gael yn dangos y bydd unrhyw gyfyngu mynediad at y Farchnad Sengl yn niweidiol, a pho fwyaf y cyfyngiad, y gwaethaf fydd y canlyniad o ran llai o dwf. Credwn fod mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl i nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn hanfodol ar gyfer buddiannau Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd yn y dyfodol, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu hyn fel y brif flaenoriaeth ar gyfer negodi gyda'r UE.
Y papur am Ogledd Iwerddon ac Iwerddon
Mae Cymru ac Iwerddon yn mwynhau cyfeillgarwch agos a chysylltiadau cymdogol sy’n cael eu cynnal gan fasnach sylweddol i'r ddau gyfeiriad ar draws Môr Iwerddon. Mae Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, ynghyd â phorthladdoedd eraill, yn ddibynnol iawn ar y llifoedd masnach hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid Cytundeb Gwener y Groglith, yr Ardal Deithio Gyffredin a'r manteision i'r ddwy ochr a ddeilliodd o gydweithio agos drwy'r UE. Yn benodol, rydym yn cytuno y dylai'r ffin ar y tir yn Iwerddon barhau i fod yn un feddal. Yn unol â'n safbwynt a ddisgrifir uchod, y ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy gadw mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl ac Undeb Tollau â'r UE. O gyflawni hyn, byddai'r cwestiynau am reoli ffiniau tir a morol y DU yn llawer llai ac, yn holl bwysig, gallai busnes barhau i fasnachu mewn ffordd sydd bron yr un fath â’r sefyllfa ar hyn o bryd, heb gostau na gwrthdaro ychwanegol.
Rydym yn cytuno â phapur y DU na ddylid cyflwyno unrhyw wrthdaro mewn masnach rhwng rhannau o'r DU - byddai'n afresymol ymdrin â materion yn ymwneud â’r ffin yn Iwerddon ar y sail honno. Yn yr un modd rydym yn dadlau bod yn rhaid i fasnach rhwng Iwerddon a'r DU yn y dyfodol ddigwydd ar sail gyfartal i bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Byddem yn gwrthwynebu unrhyw awgrymiadau a fyddai’n rhoi porthladdoedd Cymru dan anfantais o gymharu ag unrhyw ran arall o'r DU. Byddai unrhyw ysgogiad artiffisial a fyddai’n annog nwyddau fyddai’n cael eu cludo o Iwerddon i ddargyfeirio oddi wrth borthladdoedd deheuol (Dulyn neu Rosslare, er enghraifft) er mwyn croesi’r tir i'r gogledd yn cael ei ystyried gennym fel rhai annheg a gwrth-gystadleuol.
Mae'r holl dystiolaeth yn cryfhau cred Llywodraeth Cymru mai cadw mynediad at y Farchnad Sengl a chymryd rhan mewn Undeb Tollau fyddai er budd pennaf i Gymru, y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, Iwerddon a’n holl gymdogion Ewropeaidd.
Yn olaf, mae cynnwys y ddau bapur a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn peri pryder, ond mae'r broses a ddefnyddiodd Llywodraeth y DU i’w mabwysiadu yn creu gofid hefyd. Er gwaethaf ymrwymiadau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion fis Hydref diwethaf y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio sicrhau cytundeb y Gweinyddiaethau Datganoledig wrth baratoi ar gyfer negodiadau gyda'r UE, ni fu unrhyw ymgynghori â Llywodraeth Cymru am eu cynnwys, ac ychydig iawn o rybudd ymlaen llaw a gafwyd am eu cyhoeddi. Byddwn yn gobeithio y gallai pob Aelod Cynulliad uno i fynegi pryder am y modd diystyriol y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â'r Gweinyddiaethau a'r sefydliadau Datganoledig, a’u methiant i gydnabod bod yn rhaid i'r Deyrnas Unedig gyfan gytuno ynghylch safbwyntiau sylfaenol am y dyfodol y byddwn yn ei rannu.