Neidio i'r prif gynnwy

Ystafelloedd dosbarth ac offer newydd a gwell ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd buddsoddiad gwerth £20 miliwn mewn ysgolion yn creu amgylcheddau dysgu cynhwysol megis ardaloedd tawel neu synhwyraidd, uwchraddio cyfleusterau i wella hygyrchedd, a galluogi ysgolion a lleoliadau eraill i brynu offer newydd.

Y llynedd, cefnogodd y cyllid 249 o ysgolion yng Nghymru i wella eu cyfleusterau i gefnogi dysgwyr ag ADY.

Yng Nghonwy, mae bron i £700,000 eisoes wedi helpu i drawsnewid ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys cyfleusterau arbenigol newydd yn Ysgol Craig y Don, ysgol gynradd yn Llandudno.

Maen nhw wedi cael £50,000 i wneud y canlynol:

  • uwchraddio eu cyfleusterau newid a chreu toiledau hygyrch newydd
  • gosod gwelyau newid ar gyfer dysgwyr sydd angen cymorth gyda gofal personol
  • creu gardd synhwyraidd ac ardal chwarae awyr agored, gyda gwaith yn dechrau'n fuan ar gampfa awyr agored
  • prynu offer dysgu

Bydd y newidiadau hyn yn hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd o fewn yr ysgol prif ffrwd. 
Wrth gwrdd â dysgwyr a staff ar ymweliad i weld y cyfleusterau newydd yn Ysgol Craig y Don, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd. Rydw i mor falch o weld yr effaith y mae'r cyfleusterau newydd yma yn Ysgol Craig y Don yn ei chael, nid yn unig ar ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ond hefyd ar gymuned yr ysgol gyfan.

Bydd yr £20 miliwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i filoedd o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ledled y wlad, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial llawn.

Bydd yr £20 miliwn yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol i gefnogi lleoliadau prif ffrwd. Mae dros £80 miliwn wedi'i ddarparu i'r sector dros y 3 blynedd diwethaf i drawsnewid mannau dysgu ar gyfer dysgwyr ag ADY.

Mae hyn yn ychwanegol at y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy sy'n buddsoddi £750 miliwn yn ystod y naw mlynedd nesaf i wella cyfleusterau presennol a chreu darpariaeth arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ADY.

Mae angen i bob prosiect sy'n cael ei ariannu drwy'r rhaglen ddangos sut y maen nhw'n diwallu anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.