Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddyrannu £2.2 miliwn i'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl i gefnogi addasiadau tai ar gyfer pobl hŷn ac anabl, gan eu galluogi i fyw'n fwy annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cael cynnig yr arian grant i'w wario ar addasiadau tai yn eu rhanbarthau y flwyddyn ariannol hon.

Mae'r grant wedi'i gynllunio i helpu pobl hŷn ac anabl i wneud addasiadau angenrheidiol i'w cartrefi er mwyn gwella hygyrchedd a diogelwch.

Gellir teilwra addasiadau i ddiwallu anghenion penodol unigolyn i wella symudedd a mynediad trwy'r cartref, gan gynnwys addasiadau fel rheiliau cydio, lledu drysau a gosod rampiau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

Gall addasiadau i'r cartref fod yn achubiaeth i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ac rwy'n falch ein bod yn gallu darparu cyllid pellach i helpu mwy o bobl i fyw gyda mwy o annibyniaeth ac urddas.

Mae’r gwasanaethau hanfodol hyn yn cefnogi pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty pan fyddant yn ddigon iach i fynd adref ac felly yn helpu lleihau pwysau ar y GIG.

Cytunwyd hefyd ar £5.5 miliwn ychwanegol mewn buddsoddiad cyfalaf i gefnogi rhaglenni byw'n annibynnol yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddod â'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2025-26 i £25 miliwn. Mae cyllid refeniw hefyd wedi’i gynyddu i dros £6 miliwn.