Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Rydym wrthi’n caffael contract newydd ar gyfer gwasanaethau rheilffordd Cymru a’r Gororau a chyflenwi Metro De Cymru. Bydd hyn yn trawsnewid y modd yr ydym yn cynllunio ac yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru. Gwnes ymrwymiad fel rhan o’r gwaith hwn i leoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y cymoedd. Mae Tasglu newydd y Cymoedd a hefyd y fenter swyddi gwell yn nes at adre yn rhan o ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i leoli swyddi uchel eu gwerth a medrus yn y cymoedd.
Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar ei fod yn bwriadu cynnal prosiect adfywio ym Mhontypridd a fydd yn cynnwys creu cyfleuster amlbwrpas o’r radd flaenaf ar safle Cwm Taf ym Mhontypridd. Unwaith y bydd y gwaith caffael hwnnw ar ben byddwn yn lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru a hefyd ein Partner Gweithredu a Chyflenwi newydd yn y cyfleuster newydd ym Mhontypridd. Bydd hyn yn creu cannoedd o swyddi medrus sy’n talu cyflogau da o fewn yr ardal.
Trafnidiaeth Cymru yw ein cwmni dielw ac ef fydd wyneb y Metro a gwasanaeth rheilffordd ehangach Cymru a’r Gororau. Bydd y Partner Gweithredu a Chyflenwi yn gyfrifol am weithredu mewn modd diogel a dibynadwy ein gwasanaethau rheilffordd ar gyfer teithwyr. Bydd hefyd yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru â’r gwaith o ddatblygu’r Metro.
Un o nodau allweddol Metro De Cymru yw creu system drafnidiaeth newydd a fydd yn trawsnewid Llinellau’r Cymoedd, gan gynnig gwasanaeth cyflymach a mwy aml. Bydd y cysylltiadau gwell ym Mhontypridd yn golygu bod y dref o fewn cyrraedd i ddalgylch eang o weithwyr posibl ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, Gweithredwr a Phartner Cyflenwi’r Metro a sefydliadau partner, gan greu swyddi medrus sy’n cynnig cyflogau da yn yr ardal.
Trwy leoli Trafnidiaeth Cymru a’i bartneriaid yng nghanol y cymoedd rydym yn pwysleisio ein huchelgais i sicrhau y bydd y Metro yn hwb i waith adfywio’r rhanbarth ehangach.