Gan baratoi'r ffordd ar gyfer Rownd Derfynol WorldSkills UK yn ddiweddarach eleni, bydd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025 yn sbardun i bencampwyr y dyfodol.

Wrth i Gymru baratoi i gynnal rowndiau terfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni, mae cystadleuaeth sgiliau flaenllaw wedi cychwyn calendr cystadleuol 2025 gyda chanlyniadau rhagorol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru - sy'n cael ei rhedeg gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru - yn sbardun i gyfranogwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol fel WorldSkills UK ac International, ac EuroSkills.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect yn ceisio meithrin talent a hybu rhagoriaeth ar draws sectorau sgiliau trwy gydweithio â rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr.
Yn ystod y cystadlaethau - a gynhaliwyd rhwng 21 Ionawr a 13 Chwefror - gwelwyd dros 1,000 o gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru yn cystadlu ar draws 20 sector.
O blith yr holl dalent, cafodd 253 eu cydnabod fel y gorau yn eu maes gydag 86 medal aur, 81 arian ac 86 medal efydd wedi'u dyfarnu mewn seremoni yn Abertawe neithiwr (13 Mawrth). Cafodd 282 o gystadleuwyr eraill gydnabyddiaeth Canmoliaeth Uchel.
Roeddent yn arddangos eu harbenigedd mewn meysydd fel y celfyddydau coginio, datblygu gwefannau, peirianneg awyrennol ac ynni adnewyddadwy, ac mewn meysydd newydd hefyd gan gynnwys ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu ychwanegion.
Roedd Daisy Cullen, o Aberdulais, yn rhan o dîm a gipiodd fedal aur yn y categori Sgiliau Sero Net. Dywedodd:
Roeddwn i'n ansicr iawn am gystadlu ar y dechrau - rydw i wastad wedi bod yn angerddol am ynni gwyrdd, ond rydw i wedi cael trafferth gyda gorbryder yn y gorffennol felly roedd cynnig fy enw yn teimlo'n frawychus. Ond roeddwn i'n gwybod y byddai'n ffordd wych o godi fy hyder, ac yn dda ar gyfer fy CV a'm profiad cyffredinol felly penderfynais fynd amdani.
Mae ennill medal aur gyda fy nhîm yn golygu cymaint. Y fedal ddiwethaf i mi ei hennill oedd medal karate yn yr ysgol gynradd, a dwi wastad wedi teimlo'n genfigennus o'r bechgyn rygbi a phêl-droed â'u tlysau nhw. Mae ennill rhywbeth fel hyn, ar gyfer rhywbeth sy'n bwysig i fi, yn anhygoel. Rwy' mor falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd, beth bynnag fyddai'r canlyniad wedi bod.
Yn y seremoni yn Arena Abertawe, bu Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, yn helpu i ddosbarthu'r gwobrau i'r gorau ym mhob rhanbarth. Dywedodd:
Mae hyfforddiant galwedigaethol yn agos at fy nghalon ac mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc brofi eu hunain a datblygu eu sgiliau.
Mae helpu pobl ifanc i gael ddyfodol addawol yn flaenoriaeth i'n llywodraeth ac mae cystadlaethau fel hyn yn eu hannog i wthio ffiniau mewn modd adeiladol.
Wrth gyfarfod enillwyr medalau WorldSkills 2024, rwy' wedi gweld sut mae'r cystadlaethau hyn yn datblygu gyrfaoedd - rwy'n hyderus y bydd y dalent newydd hon yr un mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr a phob lwc i'r rhai sy'n cynrychioli Cymru yn genedlaethol a thu hwnt.
Bydd yn anrhydedd i Gymru gynnal WorldSkills UK fis Tachwedd eleni. Rwy'n edrych ymlaen at weld y dalent anhygoel yn cael ei arddangos.
Am ragor o wybodaeth am gystadlaethau sgiliau yn eich ardal chi, chwiliwch am 'Ysbrydoli Sgiliau Cymru'.