Mae bron i 500 o ysgolion yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Bwyta’r Llysiau i'w Llethu’, gan helpu mwy na 100,000 o blant i fwyta mwy o lysiau a gwneud dewisiadau iachach o ran bwyd.
Mae Bwyta’r Llysiau i'w Llethu gan Veg Power - gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru - yn gwneud bwyta llysiau yn hwyl ac yn annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd.
Mae ymchwil yn dangos nad yw plant yn bwyta digon o lysiau, gydag un o bob tri yn bwyta llai nag un dogn y dydd.
Profwyd bod yr ymgyrch yn cynyddu'r nifer o lysiau sy'n cael bwyta gan blant, hyd yn oed y rhai mwyaf amharod – dywedodd 67% bod yr ymgyrch wedi eu helpu i fwyta mwy o lysiau.
Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yng Nghaerdydd yn un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni ac mae plant wedi mwynhau dysgu am bwysigrwydd deiet cytbwys.
Cawsant gyfle hefyd i wneud pasta ffres, blasu bwydydd newydd a dysgu am sut i baratoi prydau iach diolch i brosiect peilot yr Awr Fwyd.
Mae prosiect yr Awr Fwyd yn neilltuo awr yn y dosbarth bob dydd i addysgu ac ysbrydoli plant am faeth, gyda dosbarthiadau ymarferol am sut i dyfu, coginio a pharatoi bwyd iach.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Rydyn ni eisiau i bob plentyn gael y dechrau gorau ac iachaf mewn bywyd, a deall pwysigrwydd deiet cytbwys.
Yn anffodus, mae faint o lysiau rydyn ni i gyd yn ei fwyta wedi gostwng dros y blynyddoedd. Gall deiet gwael roi plant dan anfantais a chynyddu'r risg o ordewdra.
Mae'n wych gweld cymaint o ysgolion yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hon, gan helpu plant i wneud dewisiadau iachach. Mae ymgyrch Bwyta’r Llysiau i'w Llethu a phrosiect peilot yr Awr Fwyd yn ffyrdd gwych o ysbrydoli plant i fwyta a choginio bwydydd iach.