Mae dyfodol adeilad hanesyddol Sefydliad y Glowyr, Coed Duon wedi'i sicrhau, gyda diolch i gymorth ariannol gwerth £210,000.

Roedd y conglfaen diwylliannol yn wynebu ansicrwydd y llynedd pan ymgynghorodd y cyngor lleol, Caerffili, ar y posibilrwydd o roi'r gorau i ddefnyddio'r safle. Fodd bynnag, bydd y Sefydliad nawr yn parhau i fod yn weithredol tra bod ei gynaliadwyedd yn y dyfodol yn cael ei archwilio'n llawn.
Ymwelodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant, â'r Sefydliad ddoe i weld sut y bydd cyllid Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei sianelu drwy Gronfa Gwytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi'r lleoliad dros y misoedd nesaf.
Darparodd y Gronfa Gwytnwch £3.6 miliwn i 60 o sefydliadau celfyddydol ledled Cymru ddiwedd y llynedd. Mae'n rhan o fuddsoddiad ehangach yn y Gyllideb eleni, sy'n gynnydd o 8.5% i'r sector diwylliant o'i gymharu â'r llynedd.
Mae hyn ar ben cynnydd o £18.4 miliwn ar wariant cyfalaf, gan ddod â buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn asedau diwylliannol a threftadaeth i fwy na thair gwaith yr hyn ydoedd ddegawd yn ôl.
Dywedodd y Gweinidog:
Er fy mod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu ein hamgueddfeydd, ein theatrau a'n mannau diwylliannol, mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy.
Mae'r £210,000 ar gyfer Sefydliad y Glowyr, Coed Duon yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r Gronfa Gwytnwch yn ei chael. Rydym yn parhau i fod yn gadarn o ran ein hymrwymiad i sicrhau y gall sefydliadau diwylliannol fel Sefydliad y Glowyr barhau i ffynnu a gwasanaethu eu cymunedau.
Dywedodd Dr Bethan Ryland, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon:
Mae'r cyllid wedi bod yn gymorth hanfodol i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, gan fod o fudd i'r staff a'r gymuned ehangach.
Mae'r celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan hanfodol wrth wella bywydau a lles pobl, ac mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon yn ganolfan ddiwylliannol hanesyddol sy’n cael effaith sylweddol. Mae buddsoddiad parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau twf a chynaliadwyedd y celfyddydau a diwylliant ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol disglair i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliad, ac am y cyfle i siarad am y lleoliad eiconig hwn.