Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Bydd dydd Iau 8 Mai 2025 yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE). 80 mlynedd yn ôl, gwnaeth miliynau o bobl ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Roedd hon yn garreg filltir dyngedfennol tuag at roi diwedd ar yr ymladd – a orffennodd yn y diwedd ar 15 Awst 1945 yn y Dwyrain Pell gyda Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).
Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth, sy'n amlinellu'r cynlluniau ar gyfer nodi'r dyddiadau hanesyddol hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig eraill i sicrhau ein bod i gyd yn manteisio ar y cyfle hwn i gofio am y miliynau o ddynion a menywod dewr a aberthodd eu bywydau yn ein gwasanaethau arfog, yn ogystal â'r rhai a wasanaethodd ar y ffrynt gartref. Byddwn hefyd yn dathlu'r heddwch a'r rhyddid democrataidd y gwnaethant ymladd mor galed drostynt, ac yr ydym yn parhau i'w mwynhau heddiw, hyd yn oed yn yr amseroedd ansicr sydd ohoni.
Dydd Llun Gŵyl y Banc, 5 Mai, gall cymunedau ddod at ei gilydd a dathlu fel y gwnaeth pobl 80 mlynedd yn ôl, drwy gynnal partïon stryd a digwyddiadau cymunedol ac ymgynnull yn anffurfiol. Caiff y fenter hon ei chefnogi ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, gan y Together Coalition (Saesneg yn Unig). Mae gwefan, VE and VJ Day 80, benodedig hefyd wedi'i chreu i hyrwyddo a chefnogi digwyddiadau coffa.
Ar 6 Mai, bydd adeiladau hanesyddol ledled y DU yn cael eu goleuo.
Ar 7 Mai, byddaf yn arwain Gwasanaeth Cenedlaethol o Ddiolchgarwch yng Nghadeirlan Llandaf, a fydd yn cynnull ynghyd uwch arweinwyr milwrol, cymunedol, ffydd a gwleidyddol o Gymru ochr yn ochr â'n cyn-filwyr, Bechgyn Bevin, Merched y Tir a chynrychiolwyr eraill o'r ffrynt gartref i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth.
Rwy'n gwybod y bydd y digwyddiad hwn yn un y bydd Aelodau o bob plaid yn dymuno ei nodi. Ar Ddiwrnod VE ei hun, ochr yn ochr â Chofeb Genedlaethol y DU yn San Steffan, rydym yn gweithio gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gynlluniau ar gyfer digwyddiad pellach yn y Senedd i goffáu'r rhai a fu farw a dathlu nifer helaeth y cymunedau a oedd yn rhan o'r frwydr honno dros ryddid.
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer nodi Diwrnod VJ.