Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi yn dathlu Diwrnod Pi, ddydd Gwener 14 Mawrth, drwy addurno symbol Pi enfawr ar y maes chwarae a chystadlu yn y gystadleuaeth cof Pi flynyddol (llwyddodd enillydd y llynedd i adrodd Pi i 120 digid o'r cof).

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn yr ysgol mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru yn cefnogi'r adran fathemateg gydag amrywiaeth o weithgareddau mathemateg cyffrous, gan ysbrydoli disgyblion a chodi safonau.

Mae clwb mathemateg amser cinio poblogaidd wedi'i sefydlu, gan roi cyfle i ddisgyblion archwilio mathemateg y tu allan i'r cwricwlwm arferol trwy ddatrys problemau, gwaith grŵp a gemau. Mae'r ysgol yn cynnal sesiynau pontio gyda disgyblion o'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo ac mae sesiynau mathemateg ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 ac 11.

Yn ogystal â'r disgyblion, mae'r athrawon mathemateg yn yr ysgol yn elwa drwy fynychu cynhadledd addysgu Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru yn rheolaidd i ddysgu am ddulliau arloesol o addysgu mathemateg. Mae aelodau staff nad ydyn nhw'n arbenigwyr mathemateg hefyd yn cael eu cefnogi gan y Rhaglen gyda hyfforddiant staff o ansawdd uchel. Mae hyn yn helpu gyda recriwtio athrawon, sy'n gallu bod yn broblem yn yr ardal.

Dim ond un enghraifft yw'r gwaith sy'n digwydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi o gynlluniau newydd ac estynedig sy'n digwydd ledled ysgolion Cymru i wella safonau mathemateg, helpu i ddatblygu sgiliau rhifedd a chynyddu hyder mewn mathemateg.

Dywedodd Paul Bedingfield, Pennaeth Mathemateg:

Mae'r Rhaglen wedi ein cefnogi ni bob cam o'r ffordd tuag at ein nod o gynnig cwricwlwm llawn a chyfoethog i bob disgybl sy'n astudio mathemateg yn Ysgol Uwchradd Caergybi.

Trwy hyfforddiant staff a sgyrsiau hyrwyddo'r Rhaglen, mae nifer y disgyblion sydd bellach yn astudio Mathemateg Ychwanegol ym mlynyddoedd 10 ac 11 wedi cynyddu, ac o ganlyniad rydyn ni bellach yn gobeithio cynnig cwrs Safon Uwch Mathemateg Bellach i ddisgyblion am y tro cyntaf o fis Medi 2025.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Cenedlaethol Pi, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

Rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar welliant parhaus mewn cyrhaeddiad mathemateg, ochr yn ochr â chodi safonau mewn sgiliau sylfaenol eraill fel llythrennedd. Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau i gynorthwyo disgyblion yn ystod pob cam o'u taith ddysgu mathemateg.

Yn 1706 cyflwynodd y mathemategydd William Jones, a oedd hefyd o Ynys Môn, y symbol Pi i'r byd. Rwy'n benderfynol o ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o fathemategwyr gan eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau, hyder ac angerdd am fathemateg.

Mae ein Cynllun Mathemateg a Rhifedd wedi nodi'r cymorth sydd ei angen ar ddysgwyr i feithrin eu sgiliau mathemateg a'u hyder mewn mathemateg. Mae contract ar gyfer datblygu cymorth dwys ar lefel genedlaethol ar gyfer mathemateg i ddysgwyr 3 i 16 oed wedi'i ddyfarnu i Brifysgol Abertawe yn dilyn proses gaffael gystadleuols.

Ers 2023, mae 146 o ysgolion uwchradd a mwy na 5,000 o ddysgwyr (gan gynnwys mwy na 2,300 o ferched) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cael eu darparu gan Raglen Gymorth Mathemateg Cymru.

Mae'r cynllun, sy'n cael ei reoli gan Brifysgol Abertawe ac yn cael ei gefnogi gan £450,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi elwa ar £60,000 yn ychwanegol eleni wrth i'r Rhaglen ehangu i gynnwys dosbarthiadau meistr ar gyfer dysgwyr oedran ysgol uwchradd.

Er mwyn gwerthuso'r gwelliant mewn mathemateg a rhifedd, bydd ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn Astudiaeth Tueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Rhyngwladol yn 2027. Bydd hyn yn darparu data manwl ar lefel genedlaethol ar gyflawniadau ein dysgwyr yn gynharach a bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi addysgu a dysgu.