Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i hyfforddi gweithlu GIG y dyfodol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod yn ymestyn y trefniadau presennol ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac yn cadw'r pecyn cymorth i fyfyrwyr sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd 2025-26.
Mae Bwrsariaeth GIG Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y pecyn cymorth ariannol a ddarperir ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd sy'n hyfforddi yng Nghymru, ac sy'n ymrwymo i weithio yn y GIG yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl ennill eu cymhwyster. Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys ffioedd dysgu ynghyd ag elfen tuag at gostau byw.
Cyflwynwyd Cynllun Bwrsariaeth y GIG yn 2017, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sydd wedi ei weinyddu ers ei sefydlu ym mis Hydref 2018. Rydym yn falch iawn bod Bwrsariaeth y GIG wedi helpu dros 15,300 o fyfyrwyr gofal iechyd i gwblhau eu hastudiaethau academaidd ac ymuno â gweithlu'r GIG.
Mae newidiadau a wnaed ym mlwyddyn academaidd 2024-25 wedi galluogi myfyrwyr llawn amser cymwys, sy'n byw yng Nghymru, i gael y swm llawn o gymorth cynhaliaeth yn ychwanegol at Fwrsariaeth y GIG.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â Bwrsariaeth GIG Cymru yn cael ei lansio yn nes ymlaen eleni. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y cymhellion a'r amodau sydd eu hangen i barhau i ddenu myfyrwyr i astudio a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio.
Trwy gyfuniad o fuddsoddi parhaus yn yr addysg a'r hyfforddiant proffesiynol a ddarperir ym maes gofal iechyd, a'r ddarpariaeth barhaus o gymorth ariannol i annog unigolion i ystyried gofal iechyd yng Nghymru fel gyrfa werth chweil, rydym yn parhau i ddangos ymrwymiad clir i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu'r GIG yn y dyfodol.