Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Ysgrifennydd Gwladol Defra Llywodraeth y DU arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Yn unol ag Erthygl 2A (c)(ii) o Reoliad (EU) 2019/1021 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar Lygryddion Organig Parhaus (ail-lunio) ("Rheoliadau POPs") gofynnwyd am gytundeb gan y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Offeryn Statudol o'r enw Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 2) 2025 ("Rheoliadau Rhif 2") mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliadau Rhif 2 2025 yn diwygio'r tabl yn Rhan A o Atodiad I (sylweddau a restrir yn y Confensiwn ac yn y Protocol yn ogystal â sylweddau a restrir yn y Confensiwn yn unig) i'r Rheoliadau POPs ar gyfer Decloran Plws ac UV-328.

Defnyddir Decloran Plws fel ychwanegyn arafu fflamiau mewn gwahanol gynhyrchion mewn sawl sector. Mae Rheoliadau Rhif 2 yn darparu eithriadau cyfyngedig ar gyfer defnyddio Decloran Plws mewn amrywiol gymwysiadau: dyfeisiau a gosodiadau awyrofod, y gofod, amddiffyn, delweddu meddygol a radiotherapi, tan 26 Chwefror 2030. Maent hefyd yn darparu ar gyfer ei ddefnyddio mewn rhannau newydd a gwaith trwsio mewn perthynas â'r uchod os cafodd y cynnyrch ei weithgynhyrchu'n wreiddiol gyda Decloran Plws - tan 2044. Yn ogystal â hynny, caniateir defnyddio Decloran Plws ar gyfer trwsio dyfeisiau meddygol ac amnewid rhan o ddyfeisiau diagnostig in-vitro lle cafodd ei ddefnyddio yn y cynnyrch gwreiddiol o dan Reoliadau Rhif 2 tan ddiwedd oes defnyddiol yr eitem. 

Defnyddir UV-328 fel plastig atal UV (yn atal plastigau rhag diraddio dros amser yng ngolau'r haul), sydd eto'n cael ei ddefnyddio mewn sawl sector. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu eithriadau cyfyngedig ar gyfer cynhyrchu UV-328, ei osod ar y farchnad a'i ddefnyddio mewn rhannau o gymwysiadau awyrofod ar y tir, cymwysiadau amddiffyn, rhannau ar gyfer cerbydau modur ar y tir, cymwysiadau araenu diwydiannol, gwahanyddion mecanyddol mewn tiwbiau casglu gwaed, ffilm seliwlos Triacetayl mewn hidlwyr polareiddio, a phapur ffotograffig tan 26 Chwefror 2030. Ceir eithriadau ar gyfer rhannau newydd a thrwsio eitemau a weithgynhyrchwyd yn wreiddiol gyda UV-328 gan gynnwys eitemau i'w defnyddio at ddibenion meddygol, offerynnau ar gyfer dadansoddi, mesuriadau, rheoli a monitro. Ceir hefyd eithriadau ar gyfer profi cynhyrchu ac arolygiadau (tan ddim hwyrach na 2041), a rhannau newydd ar gyfer eitemau, ac ar gyfer eu trwsio, mewn cymwysiadau awyrofod ac amddiffyn lle cafodd ei ddefnyddio yn y cynnyrch gwreiddiol a weithgynhyrchwyd - tan 2044.

Egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru. Fodd bynnag, y tro hwn, rwy'n ystyried ei bod yn briodol i sylwedd y diwygiadau fod yn gymwys i Gymru. Yn fy marn i, nid deddfu ar wahân i Gymru fyddai'r ffordd fwyaf priodol o roi effaith i'r newidiadau sydd eu hangen, ac ni fyddai'n ddefnydd doeth o adnoddau Llywodraeth Cymru. Bydd gweithredu'n amserol yn atal tarfu ar gynhyrchu a chyflenwi yn y sectorau Awyrofod, Amddiffyn, Meddygol a Modurol.

Gosodwyd a gwnaed Rheoliadau Rhif 2 ar 11 Mawrth gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer y pwerau a roddwyd gan Erthyglau 15(1) ac 18(1) o'r Rheoliadau POPs ac maent yn dod i rym 21 diwrnod yn ddiweddarach, ar 1 Ebrill.