Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw marchnadoedd deinamig?

1. Mae marchnad ddeinamig o dan Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn rhestr o gyflenwyr cymwys sy'n cael cymryd rhan mewn prosesau caffael yn y dyfodol. Mae cyflenwr yn gyflenwr cymwys pan fydd wedi bodloni'r 'amodau ar gyfer bod yn aelod' o'r farchnad ddeinamig (gweler paragraff 15 isod). Gellir rhannu marchnad ddeinamig yn gategorïau (y cyfeirir atynt fel 'rhannau' yn y Ddeddf), gyda chyflenwyr ond yn gymwys i gymryd rhan yn y rhannau y maent wedi cymhwyso ar eu cyfer. Yn y canllaw hwn, mae cyfeiriadau at farchnad ddeinamig yn cynnwys cyfeiriadau at ran o farchnad ddeinamig.

2. Rhaid i farchnad deinamig fod yn agored i gyflenwyr newydd allu ymuno â hi. Mae marchnadoedd deinamig ar gael i brynu pob math o nwyddau, gwasanaethau neu waith, ac eithrio'r rhai a brynir o dan gontractau consesiwn, oni bai bod y contract consesiwn yn gontract cyfleustodau hefyd.

3. Mae pob awdurdod contractio'n cael sefydlu a defnyddio marchnadoedd deinamig, ac mae cyfleustodau yn cael sefydlu a defnyddio marchnadoedd deinamig ar gyfer cyfleustodau. Mae marchnadoedd deinamig cyfleustodau yn farchnadoedd deinamig gafodd eu sefydlu'n unswydd gan gyfleustodau i ddyfarnu contractau cyfleustodau. Felly ni chaiff awdurdod cyhoeddus sefydlu marchnad ddeinamig cyfleustodau at ei ddefnydd ei hun os nad yw'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith a ddarperir o dan y farchnad ddeinamig yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddiben gweithgaredd cyfleustodau.

4. Ar wahân i ddyfarnu contractau cyfleustodau a chaniatáu dyfarnu contractau consesiwn sy'n gontractau cyfleustodau, y prif wahaniaeth rhwng marchnadoedd deinamig cyfleustodau a marchnadoedd deinamig safonol yw pan fyddant wedi'u sefydlu o dan adran 39 o'r Ddeddf (hysbysiadau marchnad deinamig), drwy hysbysiad marchnad deinamig cyfleustodau cymwys (gweler y wybodaeth ychwanegol sy'n ofynnol yn rheoliad 26(i) Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 ("y Rheoliadau")). Dyma sut mae marchnadoedd deinamig cyfleustodau a sefydlwyd o dan adran 39 yn wahanol:

  1. mae cynnwys yr hysbysiad sy'n sefydlu marchnad ddeinamig cyfleustodau cymwys (QUDM) ychydig yn wahanol i'r hysbysiad sy'n sefydlu marchnad ddeinamig safonol
  2. mae'r hysbysiad tendro sy'n gwahodd cyflenwyr i dendro o dan farchnad ddeinamig cyfleustodau cymwys yn wahanol i'r hysbysiad tendro o dan farchnad ddeinamig safonol, a
  3. pan gychwynnir proses gaffael o dan farchnad ddeinamig cyfleustodau a sefydlwyd trwy hysbysiad marchnad deinamig cyfleustodau cymwys, dim ond aelodau'r farchnad ddeinamig neu'r rheini sy'n rhan ohoni fydd yn cael hysbysiad tendro. Cofiwch bod awdurdod contractio yn cael rhoi hysbysiad tendro hefyd i gyflenwyr sydd wedi gwneud cais i fod yn aelod o'r farchnad, neu i fod yn rhan ohoni, ond nad yw eto wedi'i derbyn na'i gwrthod. Gweler adran 40 o'r Ddeddf (Hysbysiadau marchnad deinamig cyfleustodau cymwys: dim dyletswydd i gyhoeddi hysbysiad tendro).

5. Nid yw'r canllaw hwn yn ymdrin â phopeth ynghylch marchnadoedd deinamig cyfleustodau. Am ragor o wybodaeth, darllenwch y canllaw ar gyfleustodau.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu marchnadoedd deinamig?

6. Mae adrannau 34-40 o'r Ddeddf yn ymdrin â dyfarnu contractau gan gyfeirio at farchnadoedd deinamig. Maent yn nodi materion fel y rheolau ar gyfer sefydlu marchnad ddeinamig, y drefn i'w dilyn wrth ddyfarnu contract o dan farchnad ddeinamig, a'r rheolau ynghylch ffioedd mewn cysylltiad â marchnadoedd deinamig. Daw marchnadoedd deinamig o dan ddarpariaethau ehangach yn y Ddeddf hefyd, megis adran 12 (caffaeliad a gwmpesir: amcanion) ac adran 14 (datganiad polisi caffael Cymru (WPPS)). O fewn y paramedrau hyn, mae gan awdurdodau contractio hyblygrwydd o ran pennu sut i weithredu marchnad ddeinamig.

Beth sydd wedi newid?

7. Mae'r Ddeddf yn disodli systemau prynu deinamig a systemau cymwyso a rhoi un 'offeryn masnachol' newydd yn eu lle, o'r enw y farchnad ddeinamig.

8. Mae gan farchnadoedd deinamig lawer o'r un nodweddion â'r systemau prynu deinamig a'r systemau cymhwyso cyfredol, ond maen nhw wedi cael eu datblygu er mwyn ateb anghenion awdurdodau contractio a chyfleustodau yn well ac i fod yn gliriach.

9. Mae'r drefn newydd wedi ehangu'r hyn y gellid ei brynu o dan system brynu ddeinamig y ddeddfwriaeth flaenorol er mwyn gallu prynu mwy na'r hyn sydd ar gael yn gyffredinol ar y farchnad ac a ddefnyddir yn gyffredin. Bydd awdurdodau contractio nawr yn cael caffael unrhyw beth trwy farchnad ddeinamig.

Pwyntiau allweddol a bwriad y polisi

10. Mae Adran 34 yn caniatáu i awdurdodau contractio ddyfarnu contract o dan 'farchnad ddeinamig' briodol, ar yr amod y dilynir trefn hyblyg a chystadleuol. (Mae marchnad ddeinamig briodol yn un sy'n cwmpasu'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith y mae'r awdurdod contractio am dymuno eu prynu.) Mae hyn yn golygu na ellir defnyddio'r weithdrefn agored na'r dyfarniad uniongyrchol i ddyfarnu contract o dan farchnad ddeinamig, er yn achos dyfarniad uniongyrchol, nid oes gwaharddiad ar ddyfarnu contract i gyflenwr sydd ar farchnad ddeinamig, nid yw'r contract yn cael ei ddyfarnu trwy gyfeirio at y farchnad. Nid yw cael eich derbyn yn aelod o farchnad ddeinamig, (yn wahanol i ddyfarnu fframwaith) yn gyfystyr â dyfarnu contract cyhoeddus.

11. Wrth gaffael contract o dan farchnad ddeinamig sefydledig, rhaid i awdurdod contractio eithrio cyflenwyr nad ydynt yn aelodau o'r farchnad ddeinamig rhag cymryd rhan na symud yn eu blaenau yn y weithdrefn hyblyg gystadleuol ac ni ddylai ddyfarnu contract i gyflenwr nad yw'n aelod o'r farchnad ddeinamig berthnasol. Fodd bynnag, os yw cyflenwr wedi cyflwyno cais i gymryd rhan neu dendr ar gyfer caffael o dan farchnad ddeinamig, ond nad yw'n aelod o'r farchnad berthnasol, gall gyflwyno cais i fod yn aelod o'r farchnad. Rhaid i'r awdurdod contractio ystyried y cais hwn cyn eithrio'r cyflenwr neu ddiystyru'r cais neu'r tendr am nad yw'r cyflenwr yn aelod o'r farchnad ddeinamig. Byddai hynny'n caniatáu i gyflenwyr nad ydynt yn aelodau o'r farchnad ddeinamig adeg cyhoeddi'r hysbysiad tendro gymryd rhan yn y broses gaffael honno o hyd os bydd eu cais i fod yn aelod o'r farchnad ddeinamig yn llwyddiannus. Nid oes rhaid cadw at y rhwymedigaeth i ystyried y cais am aelodaeth os oes amgylchiadau eithriadol yn deillio o'r ffaith bod caffaeliad penodol yn gymhleth gan olygu nad oes gan yr awdurdod contractio ddigon o amser i ystyried y cais cyn y dyddiad cau perthnasol.

12. Er mwyn rheoli'n effeithiol y gofyn i ystyried ceisiadau am fod yn aelod, efallai y bydd awdurdodau contractio am ddatgan yn hysbysiad y farchnad ddeinamig, yn y dogfennau sy'n sefydlu'r farchnad ddeinamig, yn yr hysbysiad tendro neu yn y dogfennau tendro cysylltiedig ar gyfer y caffaeliad perthnasol (yn ôl y gofyn o dan yr amgylchiadau), ddyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno cais i ymuno â'r farchnad ddeinamig i sicrhau bod digon o amser i'w hystyried cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau neu dendrau.

13. Mae adran 34(7) yn darparu nad oes modd dyfarnu contractau consesiwn, heblaw am y rhai sydd hefyd yn gontractau cyfleustodau, o dan farchnadoedd dynamig.

Sefydlu marchnadoedd deinamig a'u haelodau

14. Nid yw'r dogfennau sy'n sefydlu (neu'n newid) marchnad ddeinamig yn gontract at ddibenion y Ddeddf. Mae hyn yn golygu nad yw'r rheolau yn y Ddeddf ynghylch dyfarnu (neu newid ) contractau yn gymwys wrth sefydlu (neu newid) marchnad ddeinamig, er bod rhaid cadw at rwymedigaethau eraill, fel y rhai yn Rhan 2 o'r Ddeddf.

15. Mae'r amodau ar gyfer bod yn aelod o farchnad ddeinamig yn debyg i'r amodau ar gyfer cymryd rhan a ddefnyddir wrth ddyfarnu contract cyhoeddus (gweler adran 22 o'r Ddeddf (Amodau Cyfranogi) a chanllaw ar yr amodau cymryd rhan). Fel yr amodau cymryd rhan, rhaid i amodau ymaelodi fod yn ffordd gymesur o asesu gallu cyfreithiol, ariannol neu dechnegol cyflenwyr i gyflawni contractau.

16. Fel gyda'r amodau cymryd rhan, mae'r Ddeddf yn nodi rheolau ar gyfer gosod amodau ar gyfer bod yn aelod o farchnad ddeinamig. Bydd hynny'n sicrhau na roddir mantais neu anfantais annheg i gyflenwyr mewn perthynas â materion o'r fath ac y gallant yn arbennig gefnogi mentrau bach a chanolig sydd am dendro am gontractau cyhoeddus.

17. O ran eu gallu cyfreithiol ac ariannol, ni ddylai awdurdodau contractio fynnu bod cyflenwyr yn darparu cyfrifon blynyddol wedi'u harchwilio os nad yw Deddf Cwmnïau 2006, neu ddeddf gyfwerth dramor, yn gofyn am archwilio'u cyfrifon; na gofyn am yswiriant sy'n ymwneud â chyflawni'r contract cyn dyfarnu'r contract. Mae'r darpariaethau hyn yn caniatáu i gyflenwyr nad oes gofyn iddynt gael eu cyfrifon wedi'u harchwilio ddarparu tystiolaeth arall o'u gallu ariannol ac yn caniatáu i gyflenwyr ymrwymo i gael yswiriant adeg dyfarnu'r contract.

18. O ran eu gallu technegol, ni chaiff awdurdod contractio fynnu bod cyflenwyr wedi derbyn contract gan awdurdod contractio penodol, ni chaiff chwaith dorri'r rheolau ar fanylebau technegol yn adran 56 o'r Ddeddf (manylebau technegol) na mynnu cymwysterau penodol heb ganiatáu cymwysterau cyfatebol.

19. Wrth ystyried a yw amod ar gyfer bod yn aelod yn gymesur, rhaid i awdurdod contractio ystyried natur, cymhlethdod a chost contractau sydd i'w dyfarnu o dan y farchnad ddeinamig.

20. Gall awdurdod contractio ofyn i drydydd parti am dystiolaeth ddilysadwy i fodloni amod ar gyfer bod yn aelod o farchnad ddeinamig, er enghraifft, ardystiad at safon ISO.

21. Mae gosod amodau ar gyfer bod yn aelod o farchnad ddeinamig yn ffordd o asesu addasrwydd. Caniateir yr asesiad hwn pan fydd awdurdod datganoledig yng Nghymru yn dyfarnu contract rheoledig sy'n is na'r trothwy (oni bai ei fod yn cael ei ddyfarnu o dan drefniant caffael a gadwyd yn ôl). Mae adran 85(1) yn gwahardd awdurdodau contractio nad ydynt yn awdurdodau datganoledig yng Nghymru. Effaith hyn yw bod awdurdodau datganoledig Cymru yn cael dyfarnu contractau rheoledig sy'n is na'r trothwy o dan farchnad ddeinamig dim ond os cafodd y farchnad ddeinamig ei sefydlu gan awdurdod datganoledig Cymreig. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllaw ar gontractau sy'n is na'r trothwy.

22. Rhaid i awdurdod contractio sy'n sefydlu marchnad ddeinamig:

  1. dderbyn ceisiadau i fod yn aelod unrhyw bryd
  2. ystyried ceisiadau o fewn cyfnod rhesymol o amser
  3. caniatáu i gyflenwyr ymuno â'r farchnad ddeinamig (cyn belled nad ydynt yn gyflenwyr wedi'u heithrio a'u bod yn bodloni'r amodau ar gyfer bod yn aelod) cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol
  4. ystyried a ddylid derbyn cyflenwyr y gellir eu heithrio ond sy'n bodloni'r amodau ar gyfer bod yn aelod, a
  5. rhoi gwybod i gyflenwyr am ganlyniad eu ceisiadau, a'r rhesymau dros y penderfyniad, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

23. Ni chaniateir cyfyngu ar nifer y cyflenwyr mewn marchnad ddeinamig, ac ni cheir newid yr amodau ar gyfer bod yn aelod o farchnad ddeinamig yn ystod oes y farchnad ddeinamig. Rhaid i'r amodau ar gyfer aelodaeth aros yn gyson drwy gydol oes y farchnad ddeinamig er tegwch i bob darparwr.

Cael gwared ar aelodau marchnad ddeinamig

24. Bydd gofyn i awdurdod contractio dynnu cyflenwr oddi ar restr aelodau'r farchnad ddeinamig os yw'r cyflenwr yn gyflenwr sydd wedi'i eithrio o dan adran 57(1)(b) o'r Ddeddf. Gweler y canllaw ar waharddiadau am ragor o wybodaeth.

25. Mae gan awdurdodau contractio yr hawl i dynnu cyflenwr o'r farchnad ddeinamig lle:

  1. mae'r cyflenwr yn gyflenwr wedi'i eithrio o dan adran 57(1)(a) (Ystyr cyflenwr wedi'i eithrio a chyflenwr y gellir ei eithrio)
  2. nid yw'r cyflenwr yn bodloni'r amodau ar gyfer bod yn aelod o'r farchnad ddeinamig
  3. mae'r cyflenwr wedi dod yn gyflenwry gellir ei eithrio ers ymuno â'r farchnad ddeinamig, neu
  4. mae'r awdurdod contractio wedi dod i wybod bod y cyflenwr yn gyflenwr y gellid ei eithrio pan ymunodd â'r farchnad ddeinamig ac felly dylai fod wedi'i eithrio bryd hynny.

26. Cyn tynnu cyflenwr restr aelodau marchnad ddeinamig, rhaid i'r awdurdod contractio hysbysu'r cyflenwr ei fod yn cael ei dynnu, a'r rhesymau dros ei dynnu.

27. Gall y cyflenwr wneud cais arall i fod yn aelod o'r farchnad ddeinamig os gall ddangos ei fod bellach yn bodloni'r amodau ar gyfer bod yn aelod neu nad yw bellach yn gyflenwr wedi'i eithrio neu y gellir ei eithrio.

Marchnadoedd deinamig: ffioedd

28. Mae adran 38 o'r Ddeddf yn darparu y gellir codi ffioedd ar gyflenwyr sy'n aelod o farchnad ddeinamig, cyn belled â bod y ffïoedd wedi'u nodi yn y dogfennau sy'n sefydlu'r farchnad ddeinamig. Mae hyn yn effeithio ar farchnadoedd deinamig a marchnadoedd deinamig cyfleustodau, er bod y sail dros godi tâl yn wahanol ar gyfer pob un, fel y nodir yn yr adran. Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol bod yr hysbysiad tendro yn nodi'r ffioedd a gwybodaeth am y ffioedd, er efallai y byddai awdurdodau contractio am nodi hyn yn y dogfennau tendro cysylltiedig hefyd.

29. Ar gyfer marchnad ddeinamig nad yw'n farchnad ddeinamig cyfleustodau, dim ond ar gyflenwyr y dyfarnwyd contract o dan y farchnad ddynamig iddynt y gellir codi ffioedd, h.y. nid am fod yn aelod o'r farchnad ddeinamig. Rhaid i'r ffioedd hynny fod yn ganran sefydlog o werth bras y contract a ddyfernir i'r cyflenwr o dan y farchnad ddeinamig.

Gofynion hysbysu wrth sefydlu a rheoli marchnad ddeinamig

30. Gan nad yw marchnad ddeinamig yn gontract cyhoeddus, nid oes angen yr hysbysiadau arferol pan fydd awdurdod contractio yn sefydlu neu'n newid marchnad ddeinamig neu pan fydd y farchnad yn rhoi'r gorau i weithredu. Gelwir hysbysiadau sy'n ymwneud yn benodol â marchnad ddeinamig yn 'hysbysiadau marchnad ddeinamig'.

31. Mae adran 39 o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid cyhoeddi hysbysiadau marchnad deinamig ar adegau gwahanol, fel y nodir isod ym mharagraffau 35-38. Bydd pob hysbysiad marchnad deinamig yn ymwneud ag un farchnad ddeinamig yn unig. Os yw awdurdod contractio yn sefydlu mwy nag un farchnad ddeinamig, bydd angen iddo gyhoeddi hysbysiadau marchnad deinamig ar gyfer pob marchnad ddeinamig.

32. Mae adran 93 o'r Ddeddf yn ymwneud â hysbysiadau piblinell. Nid yw'r adran hon yn berthnasol ond i awdurdodau contractio sy'n credu y byddant yn talu mwy na £100 miliwn o dan gontractau perthnasol yn y flwyddyn ariannol i ddod. Nid yw 'contractau perthnasol' yn cynnwys marchnadoedd deinamig ac felly ni ddylid eu cynnwys yn asesiad awdurdod contractio a oes angen cyhoeddi hysbysiad piblinell.

33. Fodd bynnag, caiff awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad a/neu hysbysiad caffael arfaethedig ynghylch sefydlu marchnad ddeinamig, os dyna'u dymuniad.

34. Rhag unrhyw amheuaeth, nid yw defnyddio hysbysiad caffael arfaethedig o dan adran 15 o'r Ddeddf cyn cyhoeddi hysbysiad marchnad deinamig yn lleihau'r cyfnod tendro am gontractau a ddyfernir o dan y farchnad ddeinamig (unwaith y bydd wedi'i sefydlu).

Cam 1: Hysbysiadau'r farchnad ddeinamig: bwriad i sefydlu marchnad ddeinamig

35. Mae rheoliad 26(2) o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth y mae gofyn ei chynnwys mewn hysbysiad sydd i'w chyhoeddi o dan adran 39(2) o'r Ddeddf ('hysbysiad sefydlu marchnad deinamig') cyn sefydlu marchnad ddeinamig. Mae hyn yn cynnwys:

  1. gwybodaeth am y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith y ceir eu caffael o dan y farchnad ddeinamig
  2. gwybodaeth ynghylch sut y bydd y farchnad ddeinamig yn gweithredu ac unrhyw ofynion technegol
  3. amodau ar gyfer bod yn aelod o'r farchnad ddeinamig a sut i wneud cais i ymuno â'r farchnad ddeinamig
  4. gwybodaeth am godi ffioedd o dan y farchnad ddeinamig, a
  5. nodi'r awdurdodau contractio sy'n cael defnyddio'r farchnad ddeinamig.

Dylai'r wybodaeth a ddarperir yn yr hysbysiad hwn fod yn ddigonol i gyflenwyr allu penderfynu a ydynt yn bodloni'r amodau ar gyfer bod yn aelod a phenderfynu a ydynt am wneud cais i ymuno â'r farchnad ddeinamig.

Cam 2: Sefydlu marchnad ddeinam

36. Mae rheoliad 26(4) o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth y mae gofyn ei chynnwys mewn hysbysiad a gyhoeddir o dan adran 39(3) o'r Ddeddf ('sefydlu marchnad ddeinamig'). Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad hwn cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl sefydlu'r farchnad ddeinamig ac mae'n cynnwys:

  1. dyddiad sefydlu'r farchnad ddeinamig
  2. manylion y cyflenwyr sy'n aelodau o'r farchnad ddeinamig, a
  3. os yw'r farchnad ddeinamig wedi ei rhannu’n rhannau, y rhan y mae pob cyflenwr yn aelod ohoni.

Cam 3: Newid marchnad ddeinamig

37. Mae rheoliad 26(6) o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth y mae gofyn ei chynnwys mewn hysbysiad a gyhoeddir o dan adran 39(4) o'r Ddeddf (newid marchnad ddeinamig). Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad hwn cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl newid y farchnad ddeinamig ac mae'n cynnwys:

  1. Y dyddiad pan gaiff y newid effaith
  2. os yw'r rhestr o gyflenwyr sy'n aelodau o'r farchnad ddeinamig yn cael ei newid, manylion y cyflenwr sy'n cael ei ychwanegu neu ei ddileu. Mae'n bwysig sicrhau bod y rhestr o aelodau'r farchnad ddeinamig yn cael ei diweddaru er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am gyflenwyr ar y farchnad ddeinamig ar gael i awdurdodau contractio sy'n ystyried defnyddio'r farchnad ddeinamig, a
  3. crynodeb sy’n esbonio unrhyw newidiadau eraill sy’n cael eu gwneud. Dylai hyn fod yn ddigon manwl i bawb sydd â diddordeb allu gweld natur a chwmpas y newid sy'n cael ei wneud i'r farchnad ddeinamig. Er enghraifft, a yw'r newid yn ychwanegu manyleb newydd ar gyfer nwyddau y gellir eu caffael o dan y farchnad ddeinamig.

Cam 4: Dod â'r farchnad ddeinamig i ben

38. Mae rheoliad 26(8) o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth y mae gofyn ei chynnwys mewn hysbysiad a gyhoeddir o dan adran 39(5) o'r Ddeddf (dod â'r farchnad ddeinamig i ben'). Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad hwn cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r farchnad ddeinamig beidio â gweithredu ac mae'n cynnwys gwybodaeth weinyddol sylfaenol a'r dyddiad y peidiodd y farchnad ddeinamig â gweithredu.

Yr hysbysiadau sydd eu hangen i ddyfarnu contractau cyhoeddus o dan farchnad ddeinamig

39. Os yw contract a ddyfernir o dan farchnad ddeinamig yn gontract cyhoeddus, rhaid cadw at y darpariaethau sy'n ymwneud â thryloywder a hysbysiadau gweithdrefnau hyblyg cystadleuol. Mae hyn yn golygu, os yw awdurdod contractio yn bwriadu dyfarnu contract o dan farchnad ddeinamig, bydd angen iddo:

  1. gynnwys y gwariant a ragwelir ar y contract hwnnw hynny wrth ystyried a fydd yn gwario dros £100 miliwn ar gontractau perthnasol (sy'n cynnwys contractau sy'n is na'r trothwy islaw) yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod
  2. cynnwys contractau dros £2 miliwn i'w dyfarnu o dan farchnad ddeinamig yn yr hysbysiad piblinell ei hun.

40. Pan fydd awdurdod contractio wedi cyhoeddi hysbysiad caffael arfaethedig ar gyfer dyfarnu contract o dan farchnad ddeinamig, nid yw'r ddarpariaeth yn adran 54(4) y Ddeddf i leihau'r cyfnod tendro i 10 diwrnod yn berthnasol gan fod y cyfnod tendro lleiaf eisoes yn 10 diwrnod (oni bai bod cyfnod tendro wedi'i negodi).

41. Mae angen hysbysiad tendro i hysbysebu caffael o dan farchnad ddeinamig. Er bod rheoliad 22(2) o'r Rheoliadau yn gofyn bod yr hysbysiad tendro yn cynnwys datganiad y bydd y contract yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at a yw'r cyflenwyr yn aelod o farchnad ddeinamig, dylai awdurdodau contractio ystyried ei gwneud yn glir hefyd yn yr hysbysiad neu'r dogfennau tendro cysylltiedig bod bod yn aelod o'r farchnad ddeinamig yn ofyniad i gaffael. Bydd hynny'n helpu i sicrhau bod cyflenwyr yn gwybod bod yn rhaid iddynt fod yn aelodau o'r farchnad ddeinamig er mwyn cael cymryd rhan yn y broses gaffael a gall annog cyflenwyr i wneud cais i fod yn aelod.

42. Nid yw'n ofynnol i awdurdodau contractio gadw at gyfnod segur mandadol wrth ddyfarnu contract o dan farchnad ddeinamig, ond gallant ddewis cadw at cyfnod segur gwirfoddol. Gweler y canllaw ar hysbysiadau dyfarnu contract a'r cyfnod segur am ragor o wybodaeth.

Pa ganllawiau eraill sy'n arbennig o berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllaw ar yr amodau cymryd rhan
  • Canllaw ar weithdrefnau tendro cystadleuol
  • Canllaw ar asesu tendrau cystadleuol
  • Canllaw ar hysbysiadau dyfarnu contract a'r cyfnod segur