Mae tri banc ar y stryd fawr wedi cael cydnabyddiaeth arbennig fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ddiogelu taliadau i fusnesau bach a chanolig ar brosiectau adeiladu mawr y sector cyhoeddus.

Mae Barclays, NatWest a Lloyds i gyd wedi cael eu datgan yn Ddarparwyr Gwasanaeth Enwebedig, ar ôl bodloni meini prawf newydd ar gyfer menter Cyfrifon Banc Prosiectau (PBA).
Maent wedi'u clustnodi yn gyfrifon banc sy'n sicrhau bod busnesau adeiladu cadwyni cyflenwi sy'n rhan o gynlluniau'r sector cyhoeddus yn cael taliad mewn pum niwrnod neu lai.
Mae hyn yn helpu i hwyluso llif arian pan fydd terfynau amser talu traddodiadol ar gyfer isgontractwyr nad ydynt yn defnyddio PBA yn gallu bod hyd at 90 diwrnod. Mae PBA hefyd yn diogelu taliadau yn erbyn ansolfedd.
Gall busnesau bach a chanolig sy'n defnyddio'r tri banc achrededig fod yn hyderus y byddant yn cael lefel uchel o gefnogaeth wrth sefydlu PBA.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
Mae Cyfrifon Banc Prosiectau yn cynnig cefnogaeth gadarn i’n diwydiant adeiladu. Drwy sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael taliadau o fewn pum niwrnod, rydym yn diogelu llif arian parod sy'n helpu'r busnesau hyn i ffynnu.
Mae cael tri banc mawr bellach wedi'u hachredu fel Darparwyr Gwasanaeth Enwebedig yn cryfhau'r fenter hon, gan roi'r hyder a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar busnesau bach a chanolig.
Mae'r Cyfrifon hyn yn amod cyllid pob prosiect adeiladu o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru a chânt eu hannog fel arfer gorau ar gyfer y sector cyhoeddus ehangach.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn y diwydiant adeiladu wedi dweud wrthym fod oedi hir a mynd ar drywydd taliadau hwyr yn faich ac yn eu hatal rhag ehangu a sicrhau contractau newydd.
Rydym wedi gweithio gyda'r sector bancio i fynd i'r afael â'r mater hwn ac rwyf wrth fy modd mai Barclays, NatWest a Lloyds yw'r tri banc cyntaf i fodloni meini prawf newydd y cynllun hwn.