Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi y bydd y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, yn camu i lawr ddiwedd Ebrill, ar ôl arwain awdurdod treth Cymru am saith mlynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o’r trefniadau dros dro, bydd y Prif Swyddog Gweithrediadau, Rebecca Godfrey, yn gweithredu fel Prif Weithredwr dros dro o ddechrau mis Mai (2025). Mae'r trefniadau wedi cael cytundeb yr Ysgrifennydd Parhaol a chefnogaeth Bwrdd ACC.  

Daeth Dyfed Alsop yn Brif Weithredwr cyntaf ACC fis Hydref 2017, gan ymuno fel rhan o raglen i sefydlu awdurdod treth i Gymru. Bydd yn dod yn Brif Swyddog Gweithredu ac yn Ddirprwy Brif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) o ddechrau mis Mai (2025).

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop:

Rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym wedi gallu ei gyflawni gyda'n gilydd, gan weithio mewn ffordd wirioneddol gydweithredol i reoli trethi datganoledig cyntaf Cymru.  

Pan wnaethom lansio’r sefydliad, fe wnaethom ddatblygu ffordd unigryw Gymreig o reoli treth. Gan ddechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth uchel, rydym wedi cefnogi trethdalwyr ac asiantau i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. Saith mlynedd yn ddiweddarach, rydym wedi canfod bod y dull yma’n gweithio. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cefnogi'r dull yma.  

Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r daith gyda ni, o'n pobl i'n partneriaid. Diolch i bawb.

Dywedodd Rebecca Godfrey, sy’n Brif Swyddog Gweithrediadau ar hyn o bryd:

Rydw i wedi cael y fraint o fod yn rhan o ACC o'r cychwyn cyntaf. Gan weithio gyda'n gilydd, rydym wedi codi refeniw hanfodol sydd wedi cael ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau ledled Cymru.

Yn ystod y cyfnod interim hwn, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau parhad. Ein blaenoriaeth fydd cydweithio â'n pobl, ein trethdalwyr a'n hasiantau, a gyda'n partneriaid allanol a'n rhanddeiliaid i barhau i gyflawni ar ran pobl Cymru.

Dechreuodd ACC weithredu fel awdurdod treth ym mis Ebrill 2018. Mae ACC yn rheoli’r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae ACC hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ehangach ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).