Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at groesawu ei gymheiriaid o wledydd eraill y DU i Gaerdydd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Mark Drakeford yn cadeirio'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid (F:ISC), sy'n ystyried materion cyllidol ac economaidd sy'n effeithio ar y DU.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn egluro ei flaenoriaethau ar gyfer Cymru cyn Rhagolwg y Gwanwyn a chyn i Adolygiad Gwariant y DU gael ei gwblhau. Mae ei flaenoriaethau'n cynnwys ysgogi twf economaidd.

Bydd hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Derfynol i Gymru – cyn pleidlais yn y Senedd yr wythnos nesaf – gan gynnwys trafod yr effaith y bydd newidiadau Llywodraeth y DU i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ei chael ar fusnesau a sefydliadau yng Nghymru.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

Dyma gyfarfod pwysig wrth inni edrych ymlaen at Ragolwg y Gwanwyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac at Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn cael ei gwblhau ym mis Mehefin. Rwy'n edrych ymlaen at groesawu gweinidogion cyllid o'r tair gwlad arall i drafod ffyrdd o ysgogi twf economaidd, rhywbeth sy'n uchelgais inni i gyd. Mae'r Canghellor wedi ymrwymo i weithio gyda'r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod twf yn cael ei deimlo ledled y Deyrnas Unedig.

Pwnc pwysig arall y byddwn yn ei drafod ydy gwneud yn siŵr bod gan y llywodraethau datganoledig yr hyblygrwydd a'r ysgogiadau cyllidebol priodol i gefnogi twf economaidd, gan gynnwys cronfeydd twf lleol yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o weithio gyda'n gilydd i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael inni.