Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell ei sefydlu i ymchwilio i amgylchiadau'r tân yn Nhŵr Grenfell, a nodi'r gwersi yr oedd angen eu dysgu a gwneud argymhellion er mwyn sicrhau nad yw trasiedi o’r fath byth yn digwydd eto. 

Cyhoeddwyd yr Adroddiad i Gam 2 yr Ymchwiliad ar 4 Medi 2024.  Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i ganfyddiadau’r Ymchwiliad. Rydyn ni’n parhau i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau, y rhai a oroesodd y drasiedi a’u hanwyliaid. 

Er bod argymhellion yr ymchwiliad yn cael eu cyfeirio'n ffurfiol at Lywodraeth y DU ac at gyrff Lloegr fel Brigâd Dân Llundain, mae llawer o’i brif argymhellion yr un mor berthnasol inni yma yng Nghymru. Rydyn ni'n derbyn canfyddiadau’r Ymchwiliad ac yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, a Llywodraethau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i fwrw ymlaen â'r diwygiadau a argymhellwyd.  Mae hyn yn cynnwys argymhellion sy’n gysylltiedig â materion a gedwir yn ôl a lle mae gweithio ar lefel y DU gyfan yn gwneud synnwyr.   

Roedd yn dda gen i gwrdd â Gweinidogion yn y tair gwlad arall yn gynharach yr wythnos hon i drafod ein gwahanol safbwyntiau a'r camau nesaf.    Rwy'n ddiolchgar am y sgwrs adeiladol a gafwyd gennyn ni, yn ogystal â’u parodrwydd i barhau i weithio ar y cyd wrth inni ymateb i’r problemau a nodwyd yn yr Ymchwiliad. 

Mae llawer iawn o waith eisoes wedi cael ei wneud yng Nghymru i ymateb i ddigwyddiadau Mehefin 2017.  Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud, ac mae gweithgarwch allweddol wedi cael ei gynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU ar Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022, ac rydyn ni'n parhau i weithio i wella diogelwch yn y sectorau adeiladau a rheolaeth adeiladau.  Cyn bo hir, byddwn yn ymgynghori ar y gyfres nesaf o is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chyfnod dylunio ac adeiladu gwaith adeiladu. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynigion sy'n ymwneud ag adeiladu adeiladau risg uwch newydd, gwaith ar adeiladau risg uwch presennol a newidiadau ehangach i'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru.

Yn syth ar ôl y tân yn Nhŵr Grenfell, cymerodd y Gwasanaeth Tân ac Achub gamau i archwilio pob adeilad preswyl uchel yng Nghymru, i nodi unrhyw faterion a oedd yn ymwneud â defnyddio cladin llosgadwy.  Diolch byth, cafwyd nad oedd cladin o'r fath yn gyffredin yma.  Serch hynny, fe wnaeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru fabwysiadu argymhellion yr adroddiad ar Gam 1 yr Ymchwiliad a oedd yn berthnasol inni.  Gan edrych tua'r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ac yn cefnogi argymhelliad yr Ymchwiliad i sefydlu Coleg Tân, i godi safonau cymhwysedd ac ymddygiad yn y sector.  Mae pryderon ynghylch y mater hwn wedi cael eu lleisio'n rheolaidd ledled y DU yn y blynyddoedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr yn Llywodraethau eraill y DU i weithredu'r argymhelliad hwn.

Er mwyn darparu cyfeiriad strategol clir i sicrhau bod Cymru yn fwy gwydn, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu, gyda phartneriaid lleol a llywodraeth, Fframwaith Gwytnwch newydd i Gymru, a gyhoeddir yn ddiweddarach yn y gwanwyn.  Bydd hwn yn defnyddio'n helaeth y gwersi a nodwyd o ddigwyddiadau ac ymchwiliadau, gan gynnwys yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell.

Yn olaf, mae ein rhaglen Diogelwch Adeiladu â blaenoriaeth yn mynd rhagddi'n gyflym. Rydyn ni'n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod adeiladau peryglus yn cael eu hunioni fel mater o frys, a bod prosesau a systemau ehangach yn cael eu diwygio, gan gynnwys drwy gyflwyno Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru) yn ddiweddarach eleni.  Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn mynd i'r afael yn benodol â nifer o'r argymhellion a wnaed gan yr Ymchwiliad. Bydd ein cyfundrefn yn grymuso preswylwyr drwy roi hawliau gwell iddyn nhw, llwybrau clir ar gyfer unioni adeiladau a llais cryfach mewn materion sy'n effeithio ar eu cartrefi. 

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r rhaglen waith â blaenoriaeth hon fynd rhagddi.