Cylchlythyr Pwyllgor Deintyddol Cymru: Hydref 2024
Crynodeb o faterion allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod Pwyllgor Deintyddol Cymru sy’n cynnwys ymgyrchoedd a newyddion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyllgor Deintyddol Cymru
Dyma drydydd cylchlythyr Pwyllgor Deintyddol Cymru, sy'n adlewyrchu'r ystod amrywiol o waith y mae'r pwyllgor yn ei wneud i gefnogi’r proffesiwn deintyddol ac iechyd y geg ymhlith poblogaeth Cymru.
Bydd y rhifyn hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad uniongyrchol i Weithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol, Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd, ac effaith diodydd egni ar ddannedd plant. Hoffem hefyd gyflwyno Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (y BDA).
Adam Porter, Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru.
Diweddariad mynediad uniongyrchol y GIG
Atgoffir practisau deintyddol cyffredinol y gall Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol bellach gael eu nodi fel ‘Clinigwyr’ ar gontract. Mae hyn yn caniatáu iddynt agor a chau cyrsiau triniaeth gan ddefnyddio rhif PIN unigryw. Mae hyn yn golygu bod hylenwyr deintyddol a therapyddion deintyddol bellach yn cael gwneud diagnosis a chreu cynllun triniaeth o fewn cwmpas eu hymarfer ar y GIG.
Ewch i wefan NHS BSA (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG), a chwiliwch am ‘DCP Clinician’ i ddod o hyd i ganllaw ar sut i greu rhifau PIN ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol yn eich practis.
Meddyiginiaethu presgripsiwn yn unig a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol
Ar ddiwedd mis Mehefin eleni mae'r ddeddfwriaeth ynghylch defnyddio Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig megis anesthesia lleol a farnais fflworid wedi newid.
Eithriadau
Mae mecanwaith newydd o'r enw 'eithriadau' bellach wedi dod i rym, sy'n caniatáu i hylenwyr deintyddol a therapyddion deintyddol ddefnyddio rhai meddyginiaethau presgripsiwn yn unig, gan gynnwys rhai mathau o anaesthetig lleol a farnais fflworid, heb fod angen cyfarwyddyd claf penodol (presgripsiwn) gan ddeintydd neu gyfarwyddyd grŵp cleifion (PGD) ar waith.
Mae'n bwysig nodi mai dim ond os yw'r Gweithiwr Proffesiynol Gofal Deintyddol wedi cael hyfforddiant wrth ddefnyddio'r mecanwaith eithriadau y mae hyn yn bosibl. Cwrs ar-lein 3 awr yw hwn, a ddarperir gan AaGIC - ac yna portffolio byr. Mae rhagor o fanylion am y cwrs ar gael ar wefan AaGIC.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGD)?
Ers peth amser bellach, mae gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol mewn llawer o glinigau wedi bod yn rhoi meddyginiaethau presgripsiwn yn unig o dan gyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGD). Yr hyfforddiant Eithriadau yw'r llwybr mwyaf priodol i weithwyr proffesiynol gofal deintyddol weinyddu meddyginiaethau o'r fath erbyn hyn a byddem yn cynghori'n gryf y dylai gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol ymgymryd â'r hyfforddiant a rhoi'r gorau i ddefnyddio cyfarwyddiadau grŵp cleifion cyn gynted â phosibl.
Mae hyn yn cyd-fynd â chanllawiau NICE ynghylch cyfarwyddiadau grŵp cleifion: Recommendations | Patient group directions | Guidance | NICE sy'n datgan na ddylid defnyddio cyfarwyddiadau grŵp cleifion ar gyfer meddyginiaethau pan fydd eithriadau mewn deddfwriaeth yn caniatáu eu cyflenwi a/neu eu defnyddio heb fod angen cyfarwyddiadau grŵp cleifion.
Nyrsys deintyddol a farnais fflworid
Mae'r rhaglen 'Gwneud i waith ataliol weithio'n ymarferol' gan AaGIC wedi bod yn hyfforddi clinigwyr i hyfforddi eu nyrsys deintyddol eu hunain i ddarparu gwaith hyrwyddo iechyd y geg a defnyddio farnais fflworid ers sawl blwyddyn bellach.
Mae'r rhaglen hon wedi galluogi llawer o bractisau ledled Cymru i gyflawni eu metrigau farnais fflworid yn fwy effeithlon, ac yn ddi-os mae wedi bod o fudd i lawer o gleifion ifanc ledled y wlad.
Mae'r hyfforddiant 'Gwneud i waith ataliol weithio'n ymarferol' ar gael gan AaGIC.
Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd
18 i 24 Tachwedd 2024
Addysgu. Eirioli. Gweithredu nawr.
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn digwydd pan nad yw bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid yn ymateb i gyfryngau gwrthficrobaidd mwyach. O ganlyniad i ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae gwrthfiotigau a gwrthficrobau eraill yn dod yn aneffeithiol ac mae heintiau'n datblygu i fod yn anodd neu'n amhosibl eu trin, gan gynyddu'r risg o ledaenu clefydau, salwch difrifol a marwolaeth.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth AMR y Byd (WAAW) yn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd a hyrwyddo arfer gorau i leihau ymddangosiad a lledaeniad heintiau sy'n gwrthsefyll cyffuriau. Mae WAAW yn cael ei dathlu rhwng 18 a 24 Tachwedd bob blwyddyn.
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn argyfwng iechyd ac yn argyfwng economaidd-gymdeithasol byd-eang dybryd. Mae'n cael effaith sylweddol ar iechyd pobl ac anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. Mae pathogenau sy'n gwrthsefyll cyffuriau yn fygythiad i bawb, ym mhobman.
Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yw un o'r prif fygythiadau byd-eang o ran iechyd y cyhoedd a datblygiad. Amcangyfrifir bod AMR bacterol yn uniongyrchol gyfrifol am 1.27 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang yn 2019 ac wedi cyfrannu at 4.95 miliwn o farwolaethau yn y Lancet.
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn peryglu llawer o’r hyn sydd wedi cael ei ennill yn sgil meddygaeth fodern. Mae'n gwneud heintiau'n anoddach i'w trin ac yn gwneud gweithdrefnau a thriniaethau meddygol eraill - fel llawdriniaethau, toriadau Cesaraidd a chemotherapi canser – yn llawer mwy peryglus. Mae mwy o wybodaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gael ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas Ddeintyddol Prydain
Hoffai Pwyllgor Deintyddol Cymru gyflwyno’r pwyllgor newydd hwn sy’n rhan o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain. Dan gadeiryddiaeth Lauren Harrhy ac Ellie Heidari, mae'r pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ymroddedig i wneud y proffesiwn deintyddol yn fwy cynhwysol, teg a chroesawgar. Ei nod yw sicrhau cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo'u cefndir, gan fynd i'r afael â materion yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, rhywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu statws economaidd-gymdeithasol.
Nod y pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yw hyrwyddo amrywiaeth mewn arweinyddiaeth a chwyddo dylanwad lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol wrth wneud penderfyniadau. Drwy feithrin cynwysoldeb, mae'r pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gobeithio gwella gofal cleifion trwy sicrhau bod gweithwyr deintyddol proffesiynol yn deall ac yn gallu diwallu anghenion amrywiol eu cleifion, gan adeiladu cymuned ddeintyddol fwy agored a chefnogol sy'n adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu. Mae’r pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn credu, trwy feithrin cynwysoldeb, ein bod nid yn unig yn creu gweithleoedd gwell ond hefyd yn gwella'r gofal a ddarparwn i'n cleifion.
Effaith diodydd egni ar iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru
Yn ddiweddar, lansiodd rhaglen Bwyta'n Iach Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch gwerthu diodydd egni ac ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim.
Manteisiodd Pwyllgor Deintyddol Cymru ar y cyfle i dynnu sylw at effaith diodydd egni ar iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru.
Effaith
Yn ddiweddar, lansiodd rhaglen Bwyta'n Iach Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch gwerthu diodydd egni ac ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim. Manteisiodd Pwyllgor Deintyddol Cymru ar y cyfle i dynnu sylw at effaith diodydd egni ar iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru. Mae diodydd egni’n cynnwys cyfran uchel o siwgr rhydd ac mae ganddynt pH isel iawn. Mewn arolwg gan Brifysgol Caerdydd o bobl ifanc 12-14 oed yng Nghymru, roedd bron i hanner y cyfranogwyr yn yfed diodydd chwaraeon fwy nag unwaith yr wythnos, gyda 14% yn yfed un neu fwy bob dydd. Roedd bechgyn yn fwy tebygol o yfed diodydd chwaraeon yn ystod gweithgaredd corfforol ac amser bwyd, tra bod merched yn fwy tebygol o'u hyfed gartref neu'n gymdeithasol[footnote 1].
Mae astudiaethau rhyngwladol yn cysylltu yfed diodydd egni â phydredd dannedd mewn plant. Mae gan y rhan fwyaf o ddiodydd egni pH islaw'r gwerth critigol ar gyfer colli arwyneb dannedd trwy erydiad. Mewn astudiaeth Ewropeaidd o bobl ifanc 15-21 oed roedd yfed diodydd egni yn gysylltiedig â chynnydd mewn erydiad dannedd[footnote 2].
Cynnwys siwgr
Dadansoddodd astudiaeth a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019 gynnwys siwgr rhydd pum diod egni. Roedd dogn arferol o un o'r diodydd hyn yn cyfrif am hyd at 187% o’r siwgr a argymhellir yn ddyddiol i blentyn[footnote 3].
Nifer yr achosion o bydredd dannedd
Mae traean o blant 5 oed (32.4%) a thri o bob deg plentyn 12 oed (29.6%) yng Nghymru wedi cael pydredd yn eu dannedd[footnote 4].
Nifer yr achosion o dreuliad dannedd
Mae nifer yr achosion o dreuliad dannedd mewn plant yn uchel, gydag Arolwg Iechyd Deintyddol 2013 yn canfod bod gan fwy na 50% o blant 5 oed arwyddion o dreuliad dannedd a bron i 40% o bobl ifanc 15 oed.[footnote 5].
Cwestiynau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu safbwyntiau am waith Pwyllgor Deintyddol Cymru, cysylltwch â CommitteeSecretariat1@llyw.cymru.
Troednodion
[1]. Broughton et al. A survey of sports drinks consumption among adolescents. Br Dent J. 2016 Jun 24;220(12):639-43.
[2]. Margaritis et al. Multicenter study to develop and validate a risk assessment tool as part of composite scoring system for erosive tooth wear. Clin Oral Investig. 2021 May;25(5):2745-2756.
[3]. Clapp et al. The top five selling UK energy drinks: implications for dental and general health. Br Dent J. 2019 Apr;226(7):493-497.
[4]. Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru. Picture of Oral Health 2023. Dental epidemiological inspection of school year one (5-year-old) children in Wales 2022/23.
[5]. Children's Dental Health Survey 2013. Report 2: Dental Disease and Damage in Children England, Wales and Northern Ireland. 2015.