Cylchlythyr Pwyllgor Deintyddol Cymru: Gorffennaf 2024
Crynodeb o faterion allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod Pwyllgor Deintyddol Cymru sy’n cynnwys ymgyrchoedd a newyddion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyllgor Deintyddol Cymru
Ym mis Ebrill 2024, rhannodd Pwyllgor Deintyddol Cymru ein cylchlythyr cyntaf gyda'r proffesiwn, gan fanylu ar ein datganiad cenhadaeth newydd, ein nod i gynrychioli'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes deintyddiaeth, a rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am gynaliadwyedd ym maes deintyddiaeth.
Ym mis Mehefin 2024, cyfarfu Pwyllgor Deintyddol Cymru unwaith eto a thrafod data ynghylch y gweithlu deintyddol, cynllun gweithlu strategol AaGIC, a datblygiad Porth Mynediad Deintyddol (DAP) Cymru.
Adam Porter, Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru
Porth Mynediad Deintyddol (DAP)
Mae'r Porth Mynediad Deintyddol yn system ddigidol ganolog sy’n cael ei datblygu er mwyn i bobl Cymru allu cofrestru ar gyfer practisau deintyddol y GIG. Mae'r prosiect yn cael ei reoli gan Gynllunio Gofal Sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), ac mae grŵp llywio yn goruchwylio ei ddatblygiad.
Y bwriad yw uwchlwytho data o'r holl restrau dyrannu sydd gan fyrddau iechyd Cymru, creu porth canolog a safoni'r dull gweithredu ledled Cymru. Mae cynllun peilot ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Powys.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Diben AaGIC yw gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth, ac maent yn gwneud hyn drwy:
- addysg a hyfforddiant
- datblygu arweinyddiaeth a’r diwylliant
- datblygu / trawsnewid y gweithlu
- cynllunio’r gweithlu
Uchafbwyntiau deintyddol 2023 i 2024 AaGIC:
- Cynnig Recriwtio Uwch Cymru (WERO) ar gyfer hyfforddiant sylfaen deintyddol (DFT): cynllun recriwtio lleol i lenwi swyddi anodd recriwtio ar eu cyfer mewn lleoliadau gwledig.
- Cyflawnwyd dros 450 o brosiectau ac archwiliadau gwella ansawdd.
- Menter gwella ansawdd cynaliadwyedd newydd wedi’i lansio a 170 o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus wedi’u darparu.
- Cafodd 3,500 o weithwyr deintyddol proffesiynol hyfforddiant.
- Achrediad "unwaith i Gymru" ar gyfer sgiliau gwell ym maes llawdriniaethau ar y geg.
- Cynyddodd swyddi hyfforddiant arbenigol deintyddol 55%.
- Lansiwyd rhaglen Diploma Nyrsys Deintyddol gyda 15 yn cael hyfforddiant.
Blaenoriaethau AaGIC 2024 i 2025:
- Cadw staff.
- Cynlluniau gweithlu strategol ar gyfer ardaloedd targed.
- Cyflawni ymrwymiadau addysg a hyfforddiant.
- Arweinyddiaeth dosturiol.
- Ansawdd.
- Gwelliannau data'r gweithlu.
- Dyfodol digidol.
Cynllun gweithlu strategol deintyddol
Mae problemau sylweddol o ran datblygu gweithlu'r dyfodol gan gynnwys gwaddol UDAs (Unedau Gweithgaredd Deintyddol), dosbarthiad anghyfartal y gweithlu, yr economi gymysg GIG/preifat, cynnydd mewn costau deunyddiau ac offer, cyflenwad cyfyngedig o weithwyr deintyddol proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi yn y DU, disgwyliadau uchel gan gleifion a dylanwad y cyfryngau cymdeithasol.
Y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw timau deintyddol sydd wedi'u paratoi yn y modd gorau posibl i gydweithio i fynd i'r afael ag anghenion eu poblogaethau lleol.
Mae hyn yn gofyn am lwybrau gyrfa deniadol, hyblyg gyda mynediad at addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel; datblygu galluoedd digidol; gweithlu deintyddol sy'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr gofal sylfaenol eraill; gweithwyr proffesiynol sy'n cael eu cefnogi i weithio ar frig eu cwmpas ymarfer; cyfleoedd arweinyddiaeth ehangach; a’r defnydd o ddata a thechnoleg.
Cwestiynau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu safbwyntiau am waith Pwyllgor Deintyddol Cymru, cysylltwch â CommitteeSecretariat1@llyw.cymru.