Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwên Adroddiad Blynyddol 2023 i 2024:

  • Cafodd 640 o ymwelwyr iechyd a myfyrwyr hyfforddiant addysg iechyd y geg.
  • Derbyniodd 832 o weithwyr proffesiynol eraill o'r maes gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol hyfforddiant tebyg gan dîm Cynllun Gwên.
  • Darparodd 642 (79%) o feithrinfeydd cymwys a 531 (63%) o ysgolion cymwys raglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth yn 2023 i 2024.
  • Cafodd 4,668 o staff meithrinfeydd ac ysgolion hyfforddiant gan y tîm Cynllun Gwên i gyflwyno eu rhaglen brwsio dannedd.
  • Cafodd 40,997 o blant driniaeth farnais fflworid yn yr ysgol yn 2023 i 2024.

Cynllun gwên

Cynllun gwên yw'r rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg ein plant. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol o ymyriadau effeithiol i atal pydredd dannedd yn ystod plentyndod, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch lle a phwy sydd angen yr ymyriadau hyn fwyaf, a ddarperir gan raglen epidemioleg ddeintyddol Cymru.

Adroddiad llawn: Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwên 2023 i 2024, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dyma sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, sy'n bodoli i helpu pawb i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda’i phartneriaid, ei nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae timau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, darparu arweinyddiaeth system, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Dyma'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus, i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau iachach. Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach

Dadansoddiad o gyfraddau canser y geg a’r ffaryncs yng Nghymru, Tachwedd 2024:

  • Mae nifer yr achosion o ganser y geg a’r ffaryncs wedi cynyddu rhwng 2012 a 2021.
  • Mae nifer yr achosion o ganser y geg ymhlith dynion yn fwy na dwywaith yr achosion ymhlith menywod, gyda’r nifer mwyaf yn digwydd rhwng 60 a 69 oed.
  • Y tafod oedd y safle mwyaf cyffredin ar gyfer canser y geg.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â chanser y geg yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
  • Canser y tafod a'r oroffaryncs oedd â'r nifer uchaf o farwolaethau cysylltiedig o'i gymharu â rhannau eraill o'r geg.

Gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru

Erbyn 2035, byddwn wedi cyflawni dyfodol iachach i Gymru. Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.

Adroddiad llawn: Dadansoddiad o Gyfraddau Canser y Geg a’r Ffaryncs yng Nghymru, Tachwedd 2024.

Defnyddio data i wella gwasanaethau deintyddol

Yn 2024, cynhaliwyd gweithdai dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, i drafod y defnydd o ddata i lywio datblygiad gwasanaethau deintyddol.

Mae rhai o'r negeseuon allweddol o'r gweithdai wedi'u crynhoi isod.

Egwyddorion:

  • perthnasol: rhaid i'r data fod yn berthnasol i'r rhai sy'n defnyddio'r wybodaeth
  • manylder: cynyddu manwl-gywirdeb data
  • digon da: y cyfan sydd ei angen yw bod y data’n ddigon cadarn i lywio penderfyniadau
  • ar gael: defnyddio data sydd eisoes ar gael
  • dibynadwy: mae angen gallu dibynnu ar y ffaith fod y data’n gywir
  • tryloyw: dylai data fod ar gael i bawb – er mwyn hwyluso cyd-ddealltwriaeth

Hwyluso newid

Mae gan ddata'r potensial i hwyluso newid os caiff dangosyddion priodol eu bwydo'n ôl i'r boblogaeth darged.

Gall gwybodaeth am brofiad bywyd y rhai sy'n cymryd rhan fod yn ychwanegiad pwerus.

Gall datblygu lefel o ragolygon rhagfynegol helpu i ddisgrifio canlyniadau llwybrau amgen.

Cyfathrebu

Storfa ganolog:

Dod â data at ei gilydd er mwyn i randdeiliaid gael mynediad ato. Mae mapio a delweddu data yn gallu helpu i gyflwyno data a pherthnasoedd cymhleth ac mae dangos data dros amser yn ein galluogi i weld tueddiadau (er enghraifft gwelliannau iechyd).

Dealltwriaeth:

Mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yn gallu deall y dangosyddion data.

Atal ymwrthedd gwrthficrobaidd

Yn ein cylchlythyr diwethaf, fe wnaethom dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd.

Rydyn ni am ailedrych ar y pwnc pwysig hwn yn y cylchlythyr hwn, gyda rhywfaint o gyngor ar sut gallwch chi helpu.

Sut galla i wneud gwahaniaeth?:

  • Dilyn canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cofio mai ychwanegiad yw gwrthfiotigau, nid triniaeth.
  • Peidio â'u cymryd ar gyfer cyflyrau llidiol.
  • Angen archwilio, hunanwerthuso a myfyrio ystyrlon.
  • Rhoi negeseuon priodol i gleifion.

Defnyddio Penicillin V yn lle Amoxicillin.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn deintyddiaeth

Yn ein cylchlythyr diwethaf, fe wnaethom hefyd gyflwyno Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y BDA.

Yn ein cyfarfod diweddar, cawsom olwg ar waith y pwyllgor gan Lauren Harrhy.

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Mae yna fwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y byd deintyddiaeth o hyd, gyda deintyddion benywaidd yn ennill llai na rhai gwrywaidd. Mae seibiannau gyrfa a gweithio'n rhan-amser oherwydd dyletswyddau gofalu yn gwaethygu hyn. Nod y BDA yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo tryloywder am gyflogau.

Taclo ymddygiad amhriodol

Mae'r pwyllgor yn tynnu sylw at y cysyniad ymyrraeth weithredol (Active Bystander) ac yn annog pobl i gamu i'r adwy a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol. Gallai hyn olygu ymddygiad di-hid, anfwriadol; ymddygiad annifyr (bwriadol); neu ymddygiad troseddol (aflonyddu, gwahaniaethu).

Meysydd ffocws newydd:

  • Niwroamrywiaeth.
  • Anabledd.
  • LHDTC+.

Mentrau gwrth-wahaniaethu ehangach, gan gynnwys hiliaeth a rhywiaeth, ond hefyd mathau eraill o anghydraddoldeb.

Cwestiynau

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu safbwyntiau am waith Pwyllgor Deintyddol Cymru, cysylltwch â CommitteeSecretariat1@llyw.cymru.