Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Cyfradd cwblhau cyswllt chwarterol Rhaglen Plant Iach Cymru, Hydref 2016 i Fedi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen.

Ffynhonnell: Y Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

  • Gyda’i gilydd, derbyniodd 80.8% o blant cymwys gyswllt Plant Iach Cymru yn y chwarter Gorffennaf i Fedi 2024, sef cynnydd o 1.0% ar y chwarter blaenorol a’r chwarter uchaf ar gofnod.
  • Derbyniodd canran uwch o blant cymwys gysylltiadau nag yn y chwarter blaenorol ar gyfer 6 o’r 9 pwynt cyswllt, ac roedd  y cysylltiadau ar ôl 12 wythnos, 27 mis a 3.5 mlynedd yr uchaf sydd wedi eu cofnodi.
  • Cynyddodd y pwynt cyswllt 3.5 mlynedd ymhellach y chwarter hwn  i 75.0%, 2.8 pwynt canran yn uwch na’r chwarter blaenorol, cynnydd o 17.4 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter y llynedd, a 39.9 pwynt canran yn uwch na’r chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Hydref i fis Rhagfyr 2016).
  • Cafwyd gostyngiad yn y cysylltiadau 10 i 14 diwrnod i 88.4%, 1.0 pwynt canran o’r chwarter blaenorol a 4.5 pwynt canran o’r un chwarter y llynedd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Annie Campbell
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099