Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n  gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i’w nodi

  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) hwn yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Ar gyfer caffaeliadau sydd wedi cychwyn cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), gweler WPPN 01/22.
  • Mae wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024, megis terminoleg newydd. Nid yw'n golygu newid mewn polisi.
  • Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
  • Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol.
  • Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
  • Bydd cyfeiriadau at 'Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024' yn cael eu mynegi yma fel "y gyfundrefn gaffael".

1. Diben

1.1 Mae WPPN 007 yn mabwysiadu Nodyn Polisi Caffael Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef Procurement Policy Note 007: Contracts with Russia and Belarus and the associated frequently asked questions a ddrafftiwyd gan Swyddfa'r Cabinet.

1.2 Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mabwysiadu’r polisi wedi’i nodi yn PPN 007. Diben y WPPN hwn yw tynnu sylw at gyfeiriadau o fewn UKG PPN 007 a'r ddogfen gwestiynau cyffredin nad ydynt yn berthnasol i Awdurdodau Datganoledig Cymru.

2. Lledaenu a chwmpas

2.1 Mae'r WPPN hwn wedi'i gyhoeddi i gynorthwyo holl Awdurdodau Datganoledig Cymru, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'r WPPN hwn yn cwmpasu contractau nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n cael eu darparu yng Nghymru.

2.2 Dosbarthwch y WPPN hwn ar draws eich sefydliad ac i sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt, gan dynnu sylw penodol y rhai mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.

3. Cefndir

3.1 Mae'r ymosodiad ar Wcráin gan Rwsia wedi'i gondemnio'n fyd-eang mewn modd digynsail. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno sancsiynau ariannol a buddsoddi gyda'r nod o annog Rwsia i roi'r gorau i gamau gweithredu sy'n ansefydlogi'r Wcráin. Dylai Awdurdodau Datganoledig Cymru ystyried sut y gallant dorri cysylltiadau ymhellach â chwmnïau a gefnogir gan wladwriaethau Rwsia a Belarws.

4. Cyfeiriadau yn UKG PPN 007 nad ydynt yn berthnasol i Awdurdodau Datganoledig Cymru (SCC)

4.1 Noder y cyfeiriadau canlynol nad ydynt yn berthnasol i Awdurdodau Datganoledig Cymru:

UKG PPN 007 ar GOV.UK

Adran o PPN 007: Contractau gyda chyflenwyr o Rwsia a Belarus

4.1.1 Cam gweithredu, Paragraff 12

Dylai sefydliadau Llywodraeth Ganolog nodi bod yn rhaid cael caniatâd Trysorlys EM yn gyntaf ar gyfer unrhyw drafodion sy'n gosod cynseiliau, yn newydd, yn ddadleuol neu a allai achosi sgil-effeithiau mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus.

Ddim yn berthnasol

4.1.2 Cam gweithredu, Paragraff 16

Mewn sefydliadau llywodraeth ganolog, y Cyfarwyddwr Masnachol ddylai fod hwn. Dylai Swyddogion Cyfrifyddu gymeradwyo penderfyniadau terfynol i derfynu unrhyw gontractau o dan y PPN hwn, gan sicrhau bod caniatâd priodol gan Drysorlys EM wedi'i gael yn gyntaf.

Ddim yn berthnasol

4.1.3 Cefndir, Paragraffau 22 a 23

Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi addasu effaith Deddf Llywodraeth Leol 1988 drwy is-ddeddfwriaeth ar gyfer cyrff penodedig. Daeth Gorchymyn Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Lloegr) 2021 i rym ar 1 Gorffennaf 2023, i ganiatáu i’r awdurdodau a’r cynghorau plwyf gwerth gorau gymhwyso’r PPN hwn.

Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Lloegr) 2022 yn datgymhwyso’r gwaharddiad yn adran 17(5)(e) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 mewn perthynas â Rwsia a Belarws. Mae hyn yn golygu bod y ffaith bod cyflenwr yn dod o Rwsia neu Belarws, rhywbeth a oedd yn ystyriaeth anfasnachol o dan y Ddeddf yn flaenorol, bellach yn gallu cael ei hystyried gan awdurdodau a chynghorau plwyf gwerth gorau pan fyddant yn dyfarnu contractau sydd o fewn cwmpas y PPN hwn, neu wrth ddod â chontractau i ben. Mae awdurdodau a chynghorau plwyf gwerth gorau yn Lloegr yn parhau i fod wedi’u rhwymo gan eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Caffael 2023, ac ni ddylent ddod â chontractau i ben na gwahardd cyflenwyr oni bai eu bod yn gallu gwneud hynny’n gyfreithiol ac yn unol â’r ystyriaethau masnachol wedi’u hamlinellu yn y PPN hwn.

Ni nodwyd bod y mater hwn yn arwyddocaol yng Nghymru ac nid ydym yn ceisio diwygiad i’r ddeddfwriaeth.

Adran o PPN 007: Canllawiau ar Gontractau gyda Chyflenwyr o Rwsia a Belarws

4.1.4 Asesu Risgiau, Paragraff 15

o gofio y gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i chi ofyn am gymeradwyaeth Trysorlys EM mewn rhai achosion.

a Pharagraff 16:

Dylai sefydliadau Llywodraeth Ganolog nodi bod yn rhaid cael caniatâd y Trysorlys yn gyntaf yn y ffordd arferol, ar gyfer unrhyw drafodion sy'n gosod cynseiliau, yn newydd, yn ddadleuol neu a allai achosi sgil-effeithiau mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus.

Ddim yn berthnasol

4.1.5 Canllawiau ar gyfer Awdurdodau a Chynghorau Plwyf Gwerth Gorau

Noder nad yw unrhyw ran o’r adran o PPN 007 mewn perthynas â’r “Chanllawiau ar gyfer Awdurdodau a Chynghorau Plwyf Gwerth Gorau yn gymwys i Awdurdodau Datganoledig Cymru.

UKG PPN 007 – Cwestiynau Cyffredin (“Contractau gyda Chyflenwyr o Rwsia a Belarws – Cwestiynau Cyffredin”)

4.1.6 Cwestiwn 2 – "A yw'r polisi hwn yn berthnasol i'r Gweinyddiaethau Datganoledig?"

Mae'r WPPN hwn yn cadarnhau mabwysiadu UKG PPN 007, ond rhaid i Awdurdodau Datganoledig Cymru nodi'r meysydd nad ydynt yn berthnasol.

4.1.7 Cwestiwn 2.9 – "Mae fy nghontract drwy Gytundeb Fframwaith - sut mae cael gafael ar wybodaeth sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi?"

Os bydd eich contract drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru, dylech gysylltu â Rheolwr y Fframwaith.

4.1.8 Cwestiwn 19 – "Pwy ddylai wneud y penderfyniad i derfynu'r contract?"

Y cyfeiriad:

Os yw'r terfyniad yn ddadleuol, dylai adrannau llywodraeth ganolog geisio cymeradwyaeth gan eu Hysgrifennydd Parhaol

Ddim yn berthnasol

4.1.9 Cwestiwn 27 – "Beth yw Adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988?"

gweler pwynt 4.1.3. uchod a Ddeddf Llywodraeth Leol 1988.

4.1.10 Cwestiwn 30 – "Beth yw'r ystyriaethau Gwerth Gorau y dylai llywodraeth leol eu hystyried mewn perthynas â'r PPN hwn?"

Ddim yn berthnasol

4.1.11 Cwestiwn 31 – "A fydd ystyriaethau gwerth cymdeithasol llywodraeth leol yn berthnasol i'r PPN hwn?"

cyfeiriad; "Adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2012" yn ei lle "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)"

5. Deddfwriaeth

Gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Deddf Caffael 2023
  • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

6. Amseriad

Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn berthnasol i gaffaeliadau a gychwynnwyd o dan y gyfundrefn gaffael ac felly mae'n weithredol o gychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hyd nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.

7. Datganiad Polisi Caffael (WPPS) Llywodraeth Cymru

Mae'r WPPN hwn yn cyd-fynd â'r Egwyddorion WPPS canlynol:

Egwyddor 1

Byddwn yn ysgogi gweithgarwch caffael cydweithredol yng Nghymru i sicrhau'r canlyniadau gwerth cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy mwyaf posibl o wariant cyhoeddus.

Egwyddor 3

Byddwn yn datblygu caffael cynaliadwy hirdymor, sy'n adeiladu ar arfer gorau ac yn ei raddio ac yn gosod camau clir sy'n dangos sut mae caffael yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion llesiant sefydliadol.

8. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y WPPN hwn, cysylltwch â: Polisi Masnachol: CommercialPolicy@llyw.cymru

9. Cydnabyddiaeth