Canllawiau Deddf Caffael 2023: Y Platfform Digidol Cymreig
Arweiniad technegol ar gyfer Y Platfform Digidol Cymreig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
1. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r gwahaniaethau yn y gofynion cyhoeddi ar gyfer Awdurdodau Cymreig Datganoledig o ran pan fo'n rhaid iddynt gyhoeddi neu roi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol o dan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Cymru.
Beth yw'r Platfform Digidol Cymreig (WDP)?
2. Yr WDP yw'r system ar-lein a enwir yn Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 (“y rheoliadau”). Yr WDP yw'r system ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio gan Awdurdodau Cymreig Datganoledig, y cyfeirir ati fel arfer fel GwerthwchiGymru.
3. Yr WDP yw'r system y mae'n rhaid i Awdurdodau Cymreig Datganoledig ei defnyddio i gyhoeddi neu roi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys achosion pan fo Deddf Caffael 2023 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi ar y Platfform Digidol Canolog (CDP).
4. Fel sy'n ofynnol gan reoliad 5 o'r rheoliadau, bodlonir gofynion yn y Ddeddf i gyhoeddi neu roi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth am y CDP ar gyfer Awdurdodau Cymreig Datganoledig pan fo'r awdurdod contractio wedi cyflwyno'r hysbysiad, y ddogfen neu'r wybodaeth i'r WDP a naill ai:
- bod y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod contractio fod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei gyhoeddi i’r CDP, neu fod y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei chyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei chyhoeddi iddo, neu
- bod modd cyrchu’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth gan gyflenwyr ac aelodau o’r cyhoedd ar y CDP.
5. Dylid nodi y bydd yr WDP yn anfon ymlaen hysbysiadau a gyflwynwyd yn gywir at y CDP ar ran Awdurdodau Cymreig Datganoledig. Ar ôl eu cyhoeddi ar y CDP bydd yr hysbysiad yn ymddangos fwy neu lai ar unwaith ar yr WDP.
Beth yw'r CDP?
6. Y CDP yw'r system ar-lein y cyfeirir ati yn Neddf Caffael 2023 (y Ddeddf) ac a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet. Bydd y CDP ar gael yn Find a Tender ar GOV.UK
7. O dan y Ddeddf, cyhoeddir hysbysiadau, dogfennau neu wybodaeth gan bob awdurdod contractio mewn un lle ar y CDP. Ar gyfer Awdurdodau Cymreig Datganoledig, bydd hysbysiadau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar yr WDP (GwerthwchiGymru).
8. Bydd y CDP yn galluogi:
- awdurdodau contractio a chyflenwyr i gofrestru a chael rhif adnabod unigryw
- awdurdodau contractio i gyhoeddi hysbysiadau, dogfennau a gwybodaeth arall fel sy'n ofynnol o dan y Ddeddf a rheoliadau ar gyfer contractau a gwmpesir a chontractau hysbysadwy sydd o dan y trothwy (ond ar gyfer Awdurdodau Cymreig Datganoledig, rhaid cyflawni hyn wrth gyhoeddi drwy'r WDP)
- cyflenwyr i gyflwyno a storio gwybodaeth graidd benodol am gyflenwr fel sy'n ofynnol gan y rheoliadau i gymryd rhan mewn caffaeliad a gwmpesir. Bydd yr wybodaeth hon ond ar gael i'r awdurdodau contractio hynny y mae cyflenwr yn dewis ei rhannu â hwy; ni ellir ei gweld fel arall
- unrhyw un i weld yr hysbysiadau a chael mynediad at ddata caffael cyhoeddus cysylltiedig.
9. Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru awdurdodau contractio a chyflenwyr ar y CDP a chyflwyno gwybodaeth graidd am gyflenwyr ar gael yn y canllawiau a gyhoeddwyd gan lywodraethau'r DU, sef y Canllawiau: Llwyfan Digidol a Chyhoeddi Gwybodaeth.
10. Gall y CDP hefyd gael ei ddefnyddio'n uniongyrchol gan Awdurdodau Cymreig Datganoledig i gyhoeddi hysbysiadau mewn sefyllfaoedd pan nad yw'r CDP ar gael yn unol â rheoliad 5(3) o'r rheoliadau.
Cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog (CDP)
11. Bydd gofyn i Awdurdodau Cymreig Datganoledig gofrestru ar y CDP er mwyn cael rhif adnabod unigryw a chod rhannu API.
12. Yna bydd angen ychwanegu'r ddau ddarn o wybodaeth at broffil Awdurdodau Cymreig Datganoledig ar yr WDP. Yna gellir sicrhau bod modd cyhoeddi hysbysiadau a gyflwynwyd i'r WDP ar y CDP ar ran yr awdurdod. Dim ond unwaith y bydd angen ychwanegu'r wybodaeth hon ar gyfer pob Awdurdod Cymreig Datganoledig.
13. Bydd angen i gyflenwyr hefyd gofrestru ar y CDP i gael rhif adnabod unigryw. Bydd angen iddynt ddarparu gwybodaeth graidd os ydynt yn dymuno tendro am gontract cyhoeddus (yn unol â pharagraff 8c uchod). Gweler canllawiau a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU sef: canllawiau ar y platfform digidol canolog a 3 chyhoeddi gwybodaeth am ragor o wybodaeth.
Beth yw'r fframwaith gyfreithiol sy'n rheoli'r Platfform Digidol Cymreig (WDP) a'r Platfform Digidol Canolog (CDP)?
14. Mae rheoliad 5 o'r rheoliadau yn nodi bod yn rhaid i hysbysiad, dogfen neu wybodaeth a gyhoeddir neu a roddir o dan ddarpariaeth o'r Ddeddf gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi ar y CDP yn gyntaf. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn nodi bod y gofyniad i'r Awdurdod Cymreig Datganoledig gyhoeddi neu roi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth ar y CDP yn gyntaf yn cael ei fodloni pan fo'r Awdurdod Cymreig Datganoledig wedi cyflwyno'r hysbysiad, y ddogfen neu'r wybodaeth i'r WDP a:
- bod y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod contractio fod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei gyhoeddi i’r CDP, neu fod y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei chyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei chyhoeddi iddo, neu
- bod modd cyrchu’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth gan gyflenwyr ac aelodau o’r cyhoedd ar y CDP.
15. Mae rheoliad 6 yn nodi cyfrifoldebau Awdurdodau Cymreig Datganoledig ynghylch gwybodaeth am gyflenwyr, gan gynnwys cadarnhau bod y cyflenwr wedi rhannu ei wybodaeth graidd am gyflenwyr gyda'r Awdurdod Cymreig Datganoledig drwy'r CDP pan fo angen (gweler Canllawiau Llywodraeth y DU ar gyhoeddi gwybodaeth a'r platfform digidol canolog i gael rhagor o wybodaeth).
16. Mae adrannau 94, 98 a 99 o'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ar eithriadau i gyhoeddi gwybodaeth, cadw cofnodion a diogelu data.
Pa ganllawiau eraill sy'n arbennig o berthnasol i'r pwnc hwn?
- Canllaw ar y dilyniant hysbysiadau a siartiau llif
- Canllaw Llywodraeth y DU ar gyhoeddi gwybodaeth a'r platfform digidol canolog