Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyffredinol

  1. Mae'r ddogfen hon yn nodi sut y caiff yr Uned Adolygu Caffael roi cyngor os bydd darparwr yn gwneud cais am adolygiad o benderfyniad awdurdod perthnasol o dan Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025.
  2. Gall darparwr wneud cais i'r Uned Adolygu Caffael adolygu penderfyniad dethol darparwr a wneir o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru gan awdurdod perthnasol yn dilyn y canlynol:
    • Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 (rheoliad 8)
    • Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 (rheoliad 9)
    • Y Broses Darparwr Mwyaf Addas (rheoliad 10)
    • Y Broses Gystadleuol (rheoliad 11) (gan gynnwys sefydlu cytundeb fframwaith o dan y Broses Gystadleuol)
    • dyfarnu contract o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth (rheoliad 20)
    • dyfarnu contract o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth (rheoliad 21)
  3. Ni fydd yr Uned Adolygu Caffael yn derbyn sylwadau mewn perthynas â phenderfyniadau awdurdod perthnasol o dan addasu contractau (rheoliad 13), y broses dyfarnu contract ar frys (rheoliad 14) na dyfarnu contract sy'n seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr (rheoliad 19).
  4. Rhaid bod darparwyr wedi cyflwyno sylwadau yn gyntaf i'r awdurdod perthnasol a chael penderfyniad ysgrifenedig pellach yr awdurdod perthnasol cyn i gais am gyngor allu cael ei wneud i'r Uned Adolygu Caffael.

Cais am adolygiad:

  1. Rhaid i'r darparwr ystyried y meini prawf cymhwystra a phenderfynu a yw ei sylw yn bodloni'r meini prawf cyn cyflwyno'r sylw i'r Uned Adolygu Caffael. Os bydd y darparwr o'r farn ei fod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra, rhaid iddo gyflwyno ei gais am gyngor gan yr Uned Adolygu Caffael yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio'r ffurflen a ddarperir, yn ogystal â darparu'r sylwadau cychwynnol a gyflwynwyd i'r awdurdod perthnasol a phenderfyniad yr awdurdod perthnasol. Rhaid darparu'r holl wybodaeth o fewn pum diwrnod gwaith i gael penderfyniad yr awdurdod perthnasol ar yr adolygiad o sylwadau'r darparwr. Rhaid cyflwyno'r wybodaeth drwy flwch post yr Uned Adolygu Caffael.
  2. Rhaid bod darparwyr wedi cael penderfyniad ysgrifenedig yr awdurdod perthnasol cyn cyflwyno cais am gyngor gan yr Uned Adolygu Caffael.
  3. Dim ond materion a godwyd yn flaenorol gan y darparwr ac a gynhwyswyd yn y sylwadau cychwynnol a gyflwynwyd i'r awdurdod perthnasol a gaiff eu hystyried gan yr Uned Adolygu Caffael.
  4. Os na fydd yr Uned Adolygu Caffael yn cytuno i roi cyngor ar sylwadau darparwr, bydd yr Uned Adolygu Caffael yn hysbysu'r darparwr a'r awdurdod perthnasol. Yna, gall yr awdurdod perthnasol ddod â'r cyfnod segur i ben fel y nodir yng Nghyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru (rheoliad 12) a pharhau i ddyfarnu'r contract fel y bwriadwyd.
  5. Dylai awdurdod perthnasol gadw'r cyfnod segur ar agor tra bydd adolygiad yr Uned Adolygu Caffael yn mynd rhagddo. O dan amgylchiadau eithriadol, caiff yr awdurdod perthnasol ddod i’r casgliad bod angen ymrwymo i gontract newydd cyn y gall y Uned Adolygu Caffael gwblhau ei adolygiad a rhannu ei gyngor.
  6. Mater i ddarparwyr ac awdurdodau perthnasol yw penderfynu a ddylent geisio cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol wrth gyflwyno sylwadau i'r Uned Adolygu Caffael ac ymgysylltu â hi.

Adolygiad a chyngor yr Uned Adolygu Caffael

  1. Os bydd yr Uned Adolygu Caffael yn cytuno i roi cyngor ar sylw, bydd yn ysgrifennu at y darparwr a'r awdurdod perthnasol er mwyn cadarnhau ei bod yn fodlon adolygu sylw'r darparwr a nodi amserlen ddangosol ar gyfer darparu ei chyngor. O dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd yr Uned Adolygu Caffael yn ceisio darparu ei chyngor o fewn 25 diwrnod gwaith.
  2. Efallai y gofynnir i'r darparwr a'r awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi adolygiad yr Uned Adolygu Caffael. Gallai hyn gynnwys gohebiaeth ac, os oes angen, gyfarfodydd i drafod sylw'r darparwr. Ni fydd gofyn am wybodaeth bellach yn rhoi cyfle i'r darparwr na'r awdurdod perthnasol godi materion newydd, ar ben y sylw presennol sy'n cael ei adolygu gan yr Uned Adolygu Caffael.
  3. Wrth gyflwyno sylw i'r Uned Adolygu Caffael, dylai darparwyr sicrhau eu bod ar gael i ateb unrhyw geisiadau i gyfarfod â'r Uned Adolygu Caffael.
  4. Mae penderfyniadau gan yr Uned Adolygu Caffael yn dibynnu ar ddarparu ymatebion llawn, cywir ac amserol i geisiadau am wybodaeth gan ddarparwyr a'r awdurdod perthnasol o fewn terfynau amser penodedig.
  5. Yr Uned Adolygu Caffael a neb arall fydd yn penderfynu a ddylai dderbyn cais i adolygu sylwadau darparwyr a dim ond pan fydd sylwadau yn bodloni'r meini prawf.
  6. Ar ddiwedd yr adolygiad, bydd yr Uned Adolygu Caffael yn rhoi ei chyngor fel a ganlyn:
  • dilynwyd Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru ac, felly, nid yw'r Uned Adolygu Caffael yn rhoi unrhyw gyngor
  • ni ddilynwyd y rheoliadau ond mae'r Uned Adolygu Caffael o'r farn nad yw'r achos o dorri rheoliadau wedi cael effaith sylweddol ar broses dethol darparwr yr awdurdod perthnasol
  • ni ddilynwyd y rheoliadau a dylai'r awdurdod perthnasol ddychwelyd i gam cynharach yn y broses er mwyn unioni'r mater(ion) a nodwyd
  • ni ddilynwyd y rheoliadau a dylai'r awdurdod perthnasol roi'r gorau i'r broses gaffael bresennol
  1. Bydd yr Uned Adolygu Caffael yn cyhoeddi ei chyngor, neu grynodeb o'i chyngor, ar gyfer adolygiadau a gwblhawyd. Efallai y bydd yr Uned Adolygu Caffael hefyd yn gwneud sylwadau er mwyn cynorthwyo awdurdodau perthnasol mewn prosesau caffael yn y dyfodol.
  2. Rhaid i ddarparwyr hefyd gydsynio i ddarparu gwybodaeth i'r Uned Adolygu Caffael a deall y gallai unrhyw wybodaeth gael ei chynnwys wrth gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir gan yr Uned Adolygu Caffael (oni fydd y darparwr yn hysbysu'r Uned Adolygu Caffael am reswm dilys pam na ddylid cyhoeddi gwybodaeth o'r fath hynny yw gwybodaeth fasnachol sensitif).
  3. Ar ôl i'r awdurdod perthnasol ystyried cyngor yr Uned Adolygu Caffael, caiff wneud penderfyniad terfynol naill ai:
  • i ymrwymo i gontract, neu gwblhau'r cytundeb fframwaith fel y bwriadwyd
  • i fynd yn ôl i ddechrau'r broses ddethol neu ailadrodd cam blaenorol a chamau dilynol
  • rhoi'r gorau i'r broses ddethol
  1. Dylai darparwyr ac awdurdodau perthnasol gyfeirio at reoliadau a chanllawiau statudol Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru am ragor o wybodaeth.