Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 009: Neilltuo Contractau ar gyfer cyflenwyr penodol
Mae'r WPPN hwn yn hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio'r darpariaethau contractio a gedwir yn ôl yn Neddf Caffael 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Pwyntiau i'w nodi
- Mae’r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Ar gyfer caffaeliadau sydd wedi cychwyn cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), gweler WPPN 02/2021.
- Mae wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024, megis terminoleg newydd. Nid yw'n golygu newid mewn polisi.
- Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
- Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol.
- Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
- Bydd cyfeiriadau at 'Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024' yn cael eu mynegi yma fel "y gyfundrefn gaffael".
1. Diben
Mae Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn cynnwys dwy ddarpariaeth ar gyfer neilltuo contractau: sef adrannau 32 a 33 sydd â’r nod o helpu Awdurdodau Datganoledig Cymru i fynd i’r afael â nodau cynhwysiant cymdeithasol.
Bwriad y WPPN hwn yw hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r ddwy ddarpariaeth ar gyfer neilltuo contractau yn Neddf Caffael 2023, a darparu canllawiau i Awdurdodau Datganoledig Cymru eu hystyried pan fyddant yn defnyddio’r darpariaethau hyn.
2. Canllawiau
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall caffael cyhoeddus ysgogi manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a chefnogi swyddi a thwf, drwy ddarparu mecanweithiau sy'n caniatáu i gyflenwyr o bob maint ffynnu, yn hyrwyddo Cymru fel lle da i wneud busnes ac yn sicrhau cyfleoedd i bawb sy'n gwneud Cymru yn lle da i fyw ynddo. Mae hyn yn golygu, yn ogystal ag ystyried costau uniongyrchol contractau, y dylid hefyd ystyried y gwerth cymdeithasol/manteision cymunedol ehangach y gallai cyrff cyhoeddus eu sicrhau drwy ddylanwad eu gwariant.
Mae neilltuo contract o dan naill ai adran 32 neu adran 33 yn caniatáu i Awdurdodau Datganoledig Cymru neilltuo contractau ar gyfer busnesau sydd â diben cymdeithasol. Dim ond y busnesau hynny sy'n bodloni'r meini prawf perthnasol a all dendro. Mae hyn yn gwarantu contractau a fydd yn sicrhau gwerth cymdeithasol ynghyd â nwyddau neu wasanaethau sy’n rhoi gwerth am arian.
2.1 Adran 32: Neilltuo contractau ar gyfer darparwyr cyflogaeth â chymorth
Mae adran 32 yn galluogi Awdurdodau Datganoledig Cymru i gefnogi cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant i bobl anabl neu bobl o dan anfantais drwy wneud y canlynol:
- Galluogi gweithdrefn hyblyg gystadleuol i atal cyflenwyr nad ydynt yn ddarparwyr cyflogaeth â chymorth rhag gwneud cynnig neu fod yn rhan o’r weithdrefn. Wrth asesu tendrau o dan adran 19 o’r Ddeddf (‘dyfarnu contractau cyhoeddus yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol’) er mwyn dyfarnu gweithdrefn hyblyg gystadleuol sy’n caniatáu ar gyfer y darpariaethau hyn, rhaid i awdurdod datganoledig yng Nghymru ddiystyru unrhyw dendr gan gyflenwr nad yw’n ddarparwr cyflogaeth â chymorth
- Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y math o gontract y gall Awdurdodau Datganoledig Cymru ei neilltuo, ond dylid ystyried hyfywedd y gystadleuaeth gyfyngedig. Dylai Awdurdodau Datganoledig Cymru ddefnyddio gwybodaeth ac ymchwil i’r farchnad i werthuso a fyddai digon o ddiddordeb gan ddarparwyr cyflogaeth â chymorth i neilltuo contract ac a fyddai’n sicrhau gwerth am arian
Mae ddarparwr cyflogaeth â chymorth yn sefydliad sy’n gweithredu’n llwyr neu’n rhannol at ddiben darparu cyflogaeth â chymorth, neu gymorth sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, ar gyfer pobl anabl neu bobl sydd o dan anfantais lle mae o leiaf 30% o gyflogeion y sefydliad yn anabl neu o dan anfantais. Pan fydd rhan benodol o’r sefydliad yn cyflawni’r contract bydd o leiaf 30% o weithlu’r rhan honno o’r sefydliad yn anabl neu o dan anfantais. Yn yr un modd, os bydd mwy nag un sefydliad yn cyflawni’r contract, yna bydd unigolion anabl neu unigolion o dan anfantais yn cyfrif am:
- o leiaf 30% o’r sefydliadau hynny
- pan fydd rhannau o bob sefydliad yn cyflawni’r contract, o leiaf 30% o’r rhannau hynny, neu
- pan fydd cyfuniad o sefydliadau a rhannau’n cyflawni’r contract, 30% o’r sefydliadau a’r rhannau hynny.
Gweler rhan 32(4) o’r Ddeddf.
2.2 Adran 33: Neilltuo contractau ar gyfer cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus
Mae adran 33 yn caniatáu dyfarnu gweithdrefn hyblyg gystadleuol (o dan adran 19 o’r Ddeddf) i atal cyflenwyr nad ydynt yn gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymwys rhag gwneud cynnig neu fod yn rhan o’r weithdrefn. Wrth asesu tendrau o dan adran 19 er mwyn dyfarnu gweithdrefn hyblyg gystadleuol sy’n ganiatáu ar gyfer y darpariaethau hyn, rhaid i Awdurdod Datganoledig yng Nghymru diystyru unrhyw dendr gan gyflenwr nad yw’n gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymwys, ond dim ond os yw’r weithdrefn hyblyg gystadleuol maent wedi’i chyhoeddi yn darparu ar gyfer hyn.
O dan adran 33 o’r Ddeddf gall Awdurdodau Datganoledig Cymru neilltuo mathau penodol o gontract cyffyrddiad ysgafn ar gyfer cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i’r contractau cyffyrddiad ysgafn fod (a) ar gyfer gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy (b) para am gyfnod heb fod yn hwy na phum mlynedd. Contractau cyffyrddiad ysgafn yw contractau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg penodol a gwasanaethau sector cyhoeddus penodol eraill. Mae contractau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy yn cael eu nodi ag ‘N’ ar bwys y disgrifiad o’r gwasanaeth cyffyrddiad ysgafn yn Atodlen 1 i Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (Atodlen 1).
Mae ‘cwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymwys’ yn cyfeirio at gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus nad yw wedi’i ymrwymo i gontract neilltuol ar gyfer yr un math o wasanaethau cyffyrddiad ysgafn, gyda’r un Awdurdod Datganoledig yng Nghymru, yn y tair blynedd flaenorol.
Ystyr cwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus yw sefydliad:
- sy’n gweithredu at ddiben darparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn bennaf at ddiben darparu un neu fwy o wasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy
- sy’n gwmni dielw, neu’n darparu ar gyfer rhannu’r elw ag aelodau’n unig, ac
- sy’n cael eu rheoli ac sydd o dan reolaeth eu cyflogwyr.
2.3 Manteision neilltuo contractau
2.3.1 Sicrhau gwerth am arian
Dylai Awdurdodau Datganoledig Cymru gofio bod darparwr cyflogaeth â chymorth a chwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus sy’n gymwys i wneud cynnig o dan adrannau 32 a 33 o’r Ddeddf, yn y drefn honno, fel unrhyw fusnes arall, yn gweithredu mewn marchnadoedd cystadleuol, yn gwerthu eu nwyddau a'u gwasanaethau i ddefnyddwyr, y sector cyhoeddus ac i fusnesau eraill. Ni ddylid tybio y nad ydynt yn gystadleuol neu'n methu â bodloni gofynion o ran ansawdd neu ddarparu gwasanaethau. O ganlyniad, wrth neilltuo contract o dan naill ai adran 32 neu adran 33, rhaid i Awdurdodau Datganoledig Cymru gydymffurfio â gofynion y Ddeddf, fel asesu tendrau yn unol ag adran 19, i sicrhau cystadleuaeth dryloyw a theg. Mae adran 3 o’r Ddeddf yn diffinio ‘public contract’.
Mae adran 16 (‘Ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad’) o’r Ddeddf yn caniatáu defnyddio gweithgareddau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i helpu i lywio dull awdurdod contractio o ymdrin â chaffaeliad. Gall Awdurdodau Datganoledig Cymru gynnal gweithgareddau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i helpu i ddatblygu eu gofynion, neu i ddylunio eu gweithdrefn, amodau gwneud cynnig neu feini prawf dyfarnu – ac o bosibl i helpu i nod telerau contract tebygol. Mae hefyd cyfle y bydd ymgysylltu o’r fath yn helpu awdurdodau datganoledig yng Nghymru i nodi cyflenwyr a fyddai’n gallu gwneud cais am gontract neilltuol ac, os yw’r farchnad yn fach, ddefnyddio ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i adeiladu capasiti drwy hysbysu’r farchnad am cyfle posibl ar gyfer caffaeliad neilltuol.
Fodd bynnag, wrth gynnal gweithgareddau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, rhaid i awdurdodau datganoledig yng Nghymru sicrhau (drwy gymryd y camau sydd eu hangen) wrth wneud hynny, nad yw’r darparwyr chyflogaeth â chymorth na’r cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus, yn cael eu rhoi o dan anfantais, ac nad yw’r gystadleuaeth mewn perthynas â dyfarnu’r contract cyhoeddus yn cael eu gwyrdroi mewn unrhyw ffordd arall.
Dylai awdurdodau datganoledig yng Nghymru gyfeirio at adran 13 o’r Ddeddf am ragor o wybodaeth, yn ogystal â chanllawiau wedi’u cyhoeddi ar ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad am ragor o wybodaeth am yr hyn y gallant ei wneud.
Gellir gosod dangosyddion perfformiad allweddol i helpu awdurdodau datganoledig yng Nghymru i asesu perfformiad y contract neilltuol. Gall awdurdodau datganoledig yng Nghymru ddefnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i archwilio'r canlyniadau gwirioneddol, y ffordd mae’r broses gaffael yn cael ei chyflawni yn erbyn y disgwyliadau, ac i ba raddau y rhoddir gwerth am arian.
Lle mae contractau neilltuol wedi cael eu defnyddio ac wedi rhoi gwerth am arian, dylid defnyddio'r profiadau a'r manteision cadarnhaol hyn i hyrwyddo'r defnydd o adrannau 32 neu 33. Reoliad 20 neu Reoliad 77.
2.3.2 Manteision ychwanegol neilltuo contractau
Mae’n cyfrannu at amcanion eich sefydliad eich hun i gyflawni yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gellir defnyddio neilltuo contractau i gyflawni’r Nodau Llesiant i sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, iachach a mwy cydnerth, ac ynddi gymunedau mwy cydlynus.
- Galluogi mynediad gwell at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer anabl neu bobl sydd dan anfantais
- Cynyddu amrywiaeth cyflenwyr y sector cyhoeddus i helpu i ddarparu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus gwell sy'n diwallu anghenion y rhai sy'n eu defnyddio, drwy fanteisio ar y gronfa ehangach o dalent a sgiliau sydd ar gael mewn gweithlu nad yw’n cael ei ddefnyddio'n llawer ar hyn o bryd, h.y. gweithwyr sydd dan anfantais sy'n wynebu rhwystrau i ymuno â'r farchnad lafur
- Cyfrannu at ragor o cynhwysiant cymunedol a sicrhau bod pobl anabl yn cymryd rhan yn y farchnad lafar a’u cymunedau.
3. Gwybodaeth ychwanegol
- Canllawiau ar Adran 32: Neilltuo contractau ar gyfer darparwyr cyflogaeth â chymorth
- Canllawiau ar Adran 33: Neilltuo contractau ar gyfer cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus (mae canllawiau ar neilltuo contractau ar gyfer cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus o fewn y canllawiau ar ‘gontractau cyffyrddiad ysgafn’ – darllenwch y canllawiau hyn am trosolwg llawn o sut i ddefnyddio’r broses ar gyfer caffael contractau cyffyrddiad ysgafn)
- Canllawiau ar Ymgysylltu Rhagarweiniol â’r Farchnad
- Canllawiau ar Weithdrefnau Tendro Cystadleuol a Hysbysiadau Tendro
Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, Atodlen 1 Codau GGG (Geirfa Gaffael Gyffredin) ar gyfer gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn (mae Atodlen 1 i Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn darparu rhestr o godau GGG, lle mai’r math o gontractau cyffyrddiad ysgafn y gellir eu neilltuo o dan adran 33 yw’r rhain ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy, sy’n cael eu nodi ag ‘N’ ar bwys y disgrifiad yn Atodlen 1 i Reoliadau Cymru).
4. Amseriad
Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn berthnasol i gaffaeliadau a gychwynnwyd o dan y gyfundrefn gaffael ac felly mae'n weithredol o gychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hyd nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.
5. Dosbarthiad a chwmpas
Mae'r WPPN hwn yn uniongyrchol berthnasol i bob Awdurdod Datganoledig yng Nghymru, a dylid ei ddosbarthu (er gwybodaeth) o fewn eich sefydliad, gan sicrhau yn enwedig fod y rhai sydd â rôl gomisiynu, cynllunio caffael neu reoli contractau yn derbyn copi.
6. Y camau mae angen i Awdurdodau Datganoledig Cymru eu cymryd
Dylai pob Awdurdod Datganoledig yng Nghymru ystyried manteision posibl neilltuo contractau o dan ddarpariaethau adran 32 neu adran 33.
7. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC)
Mae defnyddio adrannau 32 a 33 yn cyd-fynd ag egwyddor y DPCC, sef ‘Byddwn yn hyrwyddo caffael sy’n seiliedig ar werth sy'n sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau posibl i Gymru’ (Egwyddor 10, DPCC 2021), drwy hyrwyddo gweithgareddau masnachol sy’n annog Awdurdodau Datganoledig Cymru i ystyried cylchred oes gyfan contract, gan hyrwyddo gwerth drwy’r holl gadwyn gyflenwi a chanolbwyntio ar alinio adnoddau, cynhyrchion a gwasanaethau cyflenwr â nodau sy’n seiliedig ar canlyniadau.
8. Deddfwriaeth
Gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Deddf Caffael 2023
- Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
9. Manylion cyswllt
Polisi Masnachol – CommercialPolicy@gov.wales / PolisiMasnachol@llyw.cymru