Mae Feirws Nîl y Gorllewin yn haint sy'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng adar, ceffylau a phobl (milhaint). Mae'n glefyd hysbysadwy.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon fod Feirws Nîl y Gorllewin ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn ceffylau:
- blinder
- colli cydsymudiad yn y cyhyrau
- gwendid yn y coesau, sy'n arwain at faglu
Ni fydd pob math o aderyn yn dangos arwyddion y clefyd ond nhw sy'n ei gario fwyaf.
Trosglwyddo ac atal
Mae Feirws Nîl y Gorllewin yn cael ei ledaenu gan fosgitos. Mae adar mudol yn gallu cario'r clefyd o un wlad i'r llall.
I rwystro'r clefyd rhag lledaenu, cadwch at y mesurau bioddiogelwch gorau. Mae brechlyn ar gael yn Ewrop.