Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Ym mis Mai 2017 cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ein Rhaglen ddiwygiedig i Ddileu TB. Cyflwynodd y Pwyllgor nifer o argymhellion, gan gynnwys:
1. Dylai Llywodraeth Cymru bennu dyddiad targed cenedlaethol i Gymru fod yn swyddogol glir o TB ac egluro’r broses ar gyfer cyflawni hyn.
2. Dylai Llywodraeth Cymru bennu targedau interim ar gyfer dileu’r clefyd ym mhob un o’r tri rhanbarth TB – uchel, canolradd ac isel
Derbyniais yr argymhellion hyn a gwnes gomisiynu Tîm Epidemioleg TB yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i ymchwilio i'r opsiynau. Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw darged uchelgeisiol ar gyfer dileu TB yng Nghymru ynghyd â cherrig milltir interim ar gyfer pob un o'r rhanbarthau TB. Os byddwn yn cyflawni'r targedau hyn bydd Cymru'n ennill Statws heb TB swyddogol (OTF) rhwng 2036 a 2041.
Byddaf yn gosod targedau interim, ar gyfer cyfnodau o 6 blynedd, i bob un o'r Ardaloedd TB. Bydd y targedau rhanbarthol hyn yn pennu gostyngiadau cyffredinol yn nifer yr achosion mewn buchesi a bydd hefyd yn trosglwyddo Unedau Gofodol o ardaloedd lle y mae nifer uwch o achosion i ardaloedd lle y ceir nifer is o achosion. Golyga hyn, er enghraifft, bydd ein Hardal TB Isel yn ehangu dros amser, gan gynnwys tir a ystyrir yn Ganolradd ar hyn o bryd, a bydd ein Hardaloedd TB Uchel yn lleihau wrth i'w Hunedau Gofodol gael eu hailddosbarthu i'r ardal(oedd) Canolradd. Caiff y targedau rhanbarthol eu gosod ar ddechrau pob cyfnod o 6 blynedd.
Bydd y dyddiad targed cenedlaethol ar gyfer dileu TB yn deillio o gyflawni'r targedau rhanbarthol ar wahân. Pan fydd yr holl ranbarthau'n ennill statws heb TB swyddogol bydd gan Gymru gyfan statws heb TB swyddogol. Byddwn yn asesu'n ffurfiol y gwaith o gyflawni ein targedau ar ddiwedd pob cyfnod o 6 blynedd a byddwn hefyd wrth gwrs yn parhau i adrodd ar y gwaith drwy ein dangosfwrdd chwarterol a'n datganiadau ystadegol misol. Bydd yr adolygiad ffurfiol bob 6 blynedd yn ein galluogi i sefydlu'r gyfres nesaf o dargedau interim ac os bydd angen gallwn addasu'r targed cenedlaethol ar gyfer dileu TB ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf. Caiff y cysyniad ei egluro ymhellach yn yr atodiad sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.
Rydym wedi cyflawni cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae nifer yr achosion ar draws Cymru wedi lleihau'n sylweddol. Rwy'n benderfynol, fodd bynnag, o sicrhau bod y cynnydd yma'n parhau. Mae'r cerrig milltir rhanbarthol bob 6 blynedd yn allweddol - maent yn tynnu sylw at natur frys y gwaith a hefyd yn adlewyrchu fy uchelgais i weld cynnydd pwysig ymhob rhanbarth yn ystod pob cyfnod. Byddwn yn defnyddio'r targedau interim hyn er mwyn cyfleu'r angen i weithredu ar unwaith, er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i roi sylw i'r mater ac er mwyn sbarduno'r cynnydd sydd ei angen i gyflawni ein nodau cyffredin.
Rydym wedi mireinio ein Rhaglen i Ddileu TB a nod y dull rhanbarthol o ddileu TB yw ein helpu i gyflawni ein targedau. Mae angen i ni bellach ganolbwyntio ar amddiffyn gwartheg o fewn yr Ardaloedd TB isel a hefyd leihau nifer yr achosion o'r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel. Ni fydd hi'n hawdd cyflawni ein targedau; maent yn dargedau uchelgeisiol a byddant yn her i'w cyflawni. Bydd angen ymroddiad a bydd gofyn i bawb gydweithredu. Rwy'n herio pob un ohonom, o fewn y Llywodraeth, APHA, y diwydiant a'n cydweithwyr milfeddygol, i wneud popeth posibl er mwyn sicrhau ein bod yn dileu'r clefyd ofnadwy hwn cyn gynted ag y bo modd.
1Er y cafodd tri chategori eu defnyddio ar gyfer diffinio'r ardaloedd TB yng Nghymru mae 5 ardal TB mewn gwirionedd: Uchel-Gorllewin, Uchel-Dwyrain, Canolradd - Canolbarth, Canolradd - Gogledd, Isel o ran TB.