Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae lleihau biwrocratiaeth ddiangen a galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn helpu disgyblion i ddysgu yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.
Rwy'n hapus iawn felly i gael cyhoeddi cyllid o fwy nag £1.28m i helpu i sefydlu rôl Rheolwyr Busnes ar gyfer Ysgolion mewn un ar ddeg o ardaloedd awdurdodau lleol, gan ddechrau ym mis Medi 2017.
Rydym yn cefnogi'r prosiectau peilot newydd hyn drwy ddarparu cyllid o £642,000 dros gyfnod o ddwy flynedd, a bydd awdurdodau lleol yn darparu arian cyfatebol.
Rwy'n cefnogi'r defnydd mwy ar Reolwyr Busnes Ysgolion er mwyn cefnogi arweinwyr ysgolion ac athrawon, fel y gallant hwythau ganolbwyntio'n well ar godi safonau yn ein hysgolion.
Amcan y cynllun peilot oedd:
- helpu penaethiaid ac arweinwyr ysgolion i reoli eu llwyth gwaith yn fwy effeithiol, cynyddu eu gallu i ganolbwyntio ar wella eu hysgolion a chyrhaeddiad disgyblion, gan gyfrannu at leihau pwysau gwaith mewn ysgolion o ran llwyth gwaith,
- cefnogi effeithlonrwydd ariannol ehangach mewn ysgolion drwy feithrin arbenigedd a gwell cyfleoedd caffael.
Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon hefyd yn llywio canllawiau arfer gorau er mwyn sefydlu rôl Rheolwyr Busnes Ysgolion yng nghlystyrau ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhagwelir y bydd effeithlonrwydd ariannol ysgolion yn gwella'n sylweddol ac y bydd y Rheolwyr Busnes Ysgolion hyn yn cyllido'u hunain cyn diwedd y prosiect.
Rwy'n arbennig o hapus bod y fenter hon wedi'i datblygu ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru, ac y byddan nhw hefyd yn cyfrannu i'w chyllido. Mae hon yn enghraifft glir o waith traws-sector i helpu i wella effeithlonrwydd a lleihau pwysau ar y gweithlu addysg o ran llwyth gwaith.
Enghraifft arall o'r fath yw'r daflen a'r poster sydd wedi'u cyhoeddi heddiw sy'n rhoi cyngor a chanllawiau i athrawon ac arweinwyr ysgolion ar gynllunio, marcio a lleihau llwyth gwaith diangen. Cefnogwyd y ddogfen hon gan 18 o sefydliadau ar draws y sector addysg, gan gynnwys Estyn, Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol a'r undebau llafur.
Bydd y mentrau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i sicrhau bod athrawon yn cael mwy o amser i wneud yr hyn maent yn ei wneud orau: cynllunio ac addysgu'r gwersi gorau posibl ar gyfer eu disgyblion.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os yw aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hyn.
Atodiad 1
Awdurdodau lleol sy'n derbyn cyllid:
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Powys
- Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Conwy
- Ynys Môn
- Sir Fynwy
- Caerffili