Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae sgrinio poblogaeth yn helpu i ganfod a oes risg uwch fod cyflwr penodol gan unigolyn sy'n iach yn ôl pob golwg. Mae'n achub bywydau ac yn gwella ansawdd bywyd pobl drwy adnabod risgiau'n gynnar, sy'n golygu bod modd cymryd camau priodol.

Mae gan Gymru wyth o raglenni sgrinio cenedlaethol. Maent yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn sy'n dangos bod manteision y rhaglenni hyn yn gorbwyso'n sylweddol unrhyw niwed posibl sy'n gysylltiedig â hwy. Mae'r rhaglenni wedi ennill parch mawr ac maent yn rhan hanfodol o ofal iechyd ataliol a darbodus.  Pan fydd ymdrechion i wella'r niferoedd sy'n manteisio ar y rhaglenni yn cael eu targedu'n briodol, mae ganddynt hefyd y potensial i leihau anghydraddoldeb.

Mae canser yn un o brif achosion afiechyd a marwolaeth gynamserol yng Nghymru ac mae nifer yr achosion newydd yn parhau i gynyddu.

Fel mater o drefn, mae mwy na 400,000 o ddynion a menywod eisoes yn cael eu sgrinio bob blwyddyn yng Nghymru fel rhan o’r rhaglenni sgrinio am ganser y fron, canser ceg y groth a chanser y coluddyn. 

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd adroddiad blynyddol ar gynnydd a pherfformiad ein rhaglenni sgrinio poblogaeth cenedlaethol yn ystod 2015/16 ac mae'n dangos cryn lwyddiant, yn ogystal â rhai heriau sy'n parhau.

Un llwyddiant penodol oedd y cynnydd sylweddol yn nifer y bobl a fanteisiodd  ar y rhaglen sgrinio ar gyfer y coluddyn yng Nghymru. Cafodd bron 24,000 yn ychwanegol o becynnau profi eu defnyddio a'u dychwelyd yn 2015/16 - sef cynnydd o 3.6% yn y sawl a'u defnyddiodd yn y flwyddyn flaenorol i 54.4% Mae'r nifer sy'n manteisio ar raglen sgrinio'r fron wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol i 72.5%.

Fodd bynnag, er bod bron 8 allan o 10 o ferched cymwys yn manteisio ar y rhaglen sgrinio serfigol, mae'r nifer wedi bod yn gostwng yn araf dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r anghyfartaledd rhwng y nifer sy'n manteisio ar bob un o'r rhaglenni sgrinio am ganser yn yr ardaloedd mwyaf breintiedig a'r ardaloedd lleiaf breintiedig yn parhau i fod yn uchel, ac mae hyn yn destun pryder.  
 
Er mwyn i’r rhaglenni sgrinio hyn gyrraedd eu potensial llawn, rhaid i nifer y bobl yng Nghymru sy’n cael eu sgrinio gynyddu - yn enwedig ymysg y bobl sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.  Mae'n rhaid inni hefyd barhau i fuddsoddi yn y profion mwyaf dibynadwy a chywir. Bydd cyfuniad o godi ymwybyddiaeth a phrofion mwy hygyrch ac ymarferol yn cyflymu'r gwelliannau hyn. Rydym eisoes wedi moderneiddio’r rhaglen sgrinio am ganser y fron. Dyma'r gwasanaeth cwbl ddigidol cyntaf yn y DU, gydag unedau sgrinio symudol newydd a mwy hygyrch ar ein ffyrdd o 2012 ymlaen.

Rwy’n falch o gadarnhau yn awr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a minnau wedi cytuno’n ddiweddar i gyflwyno prawf symlach a gwell ar gyfer sgrinio am ganser ceg y groth ac am ganser y coluddyn yng Nghymru. Mae'r rhain yn gamau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser.

Mae cyflwyno prawf sylfaenol am feirws papiloma dynol (sef HPV) – prawf am yr hyn sy’n achosi canser ceg y groth - yn ddull hollol newydd o sgrinio ceg y groth. Er y bydd y broses sgrinio gychwynnol i fenywod yn aros yr un fath, bydd y prawf a ddefnyddir yn un mwy sensitif a fydd yn caniatáu i'r GIG adnabod yn fwy effeithiol nag y gall ar hyn o bryd y menywod sydd angen triniaeth. Bydd atgyfeiriadau mwy priodol i wasanaethau gofal iechyd, gan arwain at driniaeth gyflymach; a chaiff menywod eu trosglwyddo yn ôl i’r rhaglen sgrinio arferol yn gyflymach, gan osgoi cyfnodau hir o fonitro blynyddol.

Bydd rhaglen beilot a fydd yn cynnwys tua 20% o fenywod yn cael ei chyflwyno yng Nghymru o fis Ebrill 2017. Bydd canlyniadau’r ymarfer hwn yn helpu i lywio’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen yn llawn, ac rydym yn rhagweld y bydd hynny yn dechrau yn ystod chwe mis cyntaf 2018/19.

O ran sgrinio am ganser y coluddyn, byddwn yn gweithredu profion imiwnogemegol ysgarthol sylfaenol (sef FIT) – prawf mwy cywir a fydd yn golygu bod mwy o ganserau yn cael eu canfod. Yn bwysicach, mae’r prawf newydd yn llawer haws i’w gynnal yn y cartref ac mae cynlluniau peilot yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd.

Bydd FIT yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r rhaglen ar gyfer sgrinio’r coluddyn yng Nghymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Bydd y gwaith o’i gyflwyno yn debygol o ddechrau yn ystod 2018/19.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu grwpiau prosiect i fwrw ymlaen â gweithredu'r gwelliannau allweddol hyn i'r gwasanaeth. Bydd Pwyllgor Sgrinio Cymru yn monitro cynnydd ac yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda mi. Byddaf yn rhoi diweddarid ar gynnydd ar ddechrau 2018.