Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Yn y Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad cyhoeddais fy mod yn bwriadu comisiynu adolygiad cynhwysfawr o'r sector Cynghorau Cymuned.
Mae cynghorau cymuned yn rhan annatod o lywodraeth leol. Cynghorau cymuned sydd agosaf at y bobl a chymunedau lleol yn aml. O ganlyniad, maent mewn sefyllfa unigryw i allu gweld pa wasanaethau sy'n gallu cael effaith fawr ar les unigolion, a darparu'r gwasanaethau hynny.
Fodd bynnag, mae maint cynghorau cymuned a'u cyfrifoldebau a'r graddau y maent yn cynnwys cymunedau yn amrywio ar draws y sector.
Rhaid inni gynnal sgwrs agored am y math o rôl y gallai Cynghorau Cymuned ei chwarae yn y dyfodol, ac ystyried pa fath o strwythur trefniadaeth sy'n iawn i gefnogi cymunedau lleol.
Nod yr adolygiad yn fras yw:
- Ymchwilio i rôl bosibl llywodraeth leol islaw'r prif gynghorau, gan dynnu ar enghreifftiau o drefniadau effeithiol
- Diffinio'r model(au) a'r strwythur(au) mwyaf priodol i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol
- Ystyried sut y dylid cymhwyso'r modelau a'r strwythurau hyn ym mhob cwr o Gymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw sefyllfaoedd lle na fyddai eu hangen neu le na fyddent yn briodol.
Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen yn fwy na phrif gynghorau yn unig er mwyn sicrhau bod llywodraeth ar y lefel fwyaf lleol yn effeithiol, effeithlon ac yn dod â budd i gymunedau lleol.
Rwyf wrth fy modd o gyhoeddi bod Gwenda Thomas a Rhodri Glyn Thomas wedi cytuno i gadeirio'r adolygiad. Bydd y Cynghorydd Kathryn Silk a William Graham yn ymuno â hwy.
Byddaf yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan y rheini sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau i ymgymryd â'r ddau le sy'n weddill ar y panel.
Disgwyliaf i'r adolygiad ddechrau ym mis Gorffennaf a bydd yn para blwyddyn. Bydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gynhwysol. Bydd gwahoddiad i'r holl randdeiliaid perthnasol gyfrannu. Bydd hynny yn cynnwys cynghorau cymuned a thref, prif gynghorau a grwpiau cymunedol a'r trydydd sector ac eraill.