Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Dr Adam Charlton o Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor wedi arwain tîm mewn gwaith hanfodol ac arloesol i leihau'r defnydd o blastigau mewn amaethyddiaeth a deunydd pecynnu bwyd.

Trwy ymchwil arloesol yn eu cyfleusterau unigryw ar Ynys Môn, maent yn gweithio gyda diwydiant i wneud prosesau gweithgynhyrchu'n fwy cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. 

Mae ymchwil Dr Charlton i dechnoleg newydd i echdynnu cydrannau defnyddiol o wastraff amaethyddol a choedwigaeth (e.e. glaswellt, cnydau/gweddillion coedwigaeth, gwastraff bwyd), wedi cael effaith sylfaenol ar ddatblygiad deunyddiau amgen i blastigau. 

Mae angen brys i leihau'r defnydd o blastigau yn fyd-eang, oherwydd eu defnydd o danwydd ffosil a faint o wastraff maen nhw'n ei greu. Amaethyddiaeth yw un o'r defnyddwyr plastig mwyaf, gan ei ddefnyddio mewn cludiant, fel ffilmiau i atal chwyn neu i lapio silwair. Gan fod llawer o'r rhain yn torri i lawr i ficroblastigau, maent yn cael eu cydnabod fwyfwy fel risg i iechyd pridd, bioamrywiaeth a diogelwch bwyd. Yn y DU mae gwaith tȋm Dr Charlton wedi creu bocsys wyau di-blastig o wastraff rhygwellt, mewn cydweithrediad â Waitrose.

Yn Uganda roeddent yn ymwneud â datblygu deunydd pecynnu bwyd amgen wedi ei wneud o indrawn (cnwd grawnfwyd pwysicaf y wlad), a deunydd lapio eginblanhigion biolegol ar gyfer rhaglen fawr plannu coed a gefnogir gan y Llywodraeth. Yn Ethiopia mae'r tîm yn ymchwilio i weld a allai dail planhigion banana ffurfio deunyddiau pecynnu.

Mae llawer o ffermwyr gwledig Dwyrain Affrica yn fenywod y mae ansicrwydd bwyd a thlodi yn effeithio'n fawr arnynt, a gall y technolegau newydd hyn, wrth ddarparu swyddi a refeniw, fod yn drawsnewidiol i gymunedau lleol.