Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, yn ein Papur gwyn, Diwygio Llywodraeth leol; Cadernid ac Adnewyddiad, nodwyd sut rydym yn bwriadu adeiladu Llywodraeth Leol gadarn a newydd yng Nghymru. Mae canolbwynt cryfach ar gyflenwi rhanbarthol yn golygu bod rhaid inni edrych o’r newydd ar y trefniadau cyllid presennol. Yn Symud Cymru ymlaen, bu inni ymrwymo i gefnogi Llywodraeth Leol i ddod yn fwy cynaliadwy a hunanddigonol, gan roi iddi le i arwain, a chan gymryd mwy o gyfrifoldeb a derbyn mwy o berchnogaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno setliad ariannol teg ar gyfer 2017-18. Ond, yn ôl y rhagolygon mae amser caletach o’n blaenau gyda thoriadau ariannol ar y gorwel. Mae Llywodraeth Leol hefyd wedi galw am fwy o ymreolaeth a hyblygrwydd yn ei threfniadau cyllid. Ar adeg pan fydd llai o arian bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, anghenraid, yn hytrach na dewis, yw newid.
Fframwaith gwerth sawl biliwn o bunnoedd sy'n sail i bob ffurf ar Lywodraeth Leol yng Nghymru, sef cynghorau, yr heddlu a gwasanaethau tân a chyrff eraill, yw system gyllid Llywodraeth Leol. Mae'n system gysylltiedig o grantiau’r Llywodraeth Ganolog, refeniw a godir yn lleol gan gynnwys trethi, arian cyfalaf, benthyca a buddsoddi.

Yn fy natganiad ar y fframwaith cyllidol yn gynharach y mis hwn amlinellais y newidiadau i'n system ehangach o ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n ein hamddiffyn rhag unrhyw risgiau diangen sy’n gysylltiedig â datganoli pwerau trethi, gan hwyluso’r ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn 2019. Daw hyn â mwy o gyfrifoldeb ariannol a chyfleoedd ychwanegol i wneud dewisiadau am ysgogiadau cyllidol.

Yn y cyd-destun hwn, hoffwn nodi fframwaith ar gyfer ystyriaeth Llywodraeth Cymru o system gyllid Llywodraeth Leol yn y dyfodol. Rwyf yn bwriadu ystyried ystod o newidiadau tymor byr, canolig a hir i gyflawni ein hymrwymiadau yn Symud Cymru ymlaen i alluogi Llywodraeth Leol i ddod yn fwy cynaliadwy a hunangynhaliol, i wneud y dreth gyngor yn decach ac i ddarparu rhyddhad rhag ardrethi. Bydd dull gweithredu graddedig yn caniatáu inni weithio gyda phartneriaid a sicrhau ein bod yn datblygu ymagwedd gynaliadwy a chadarn i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.

Cafwyd nifer o adolygiadau eang o sut y dylai Llywodraeth Leol gael ei hariannu. Yn fwyaf diweddar, mae Comisiwn yr Alban ar Ddiwygio Trethi Lleol a'r comisiynau ar gyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr wedi ymchwilio i ymagweddau presennol a phosibl at gyllid Llywodraeth Leol. Ni welaf fod angen ailadrodd y gwaith cysyniadol hwn. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon i archwilio, mewn modd ymarferol a chymhwysol, a allai newidiadau o'r fath yn gwneud ein systemau yn decach a sut ac a fyddai unrhyw fuddion i ddinasyddion, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r economi ehangach.

Fy mlaenoriaethau ar gyfer unrhyw ddiwygiadau i system gyllid Llywodraeth Leol yw mwy o gadernid ar gyfer awdurdodau lleol, tegwch i ddinasyddion a busnesau, a chyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu deall ac ymgysylltu â sut a lle y gwneir penderfyniadau ynghylch y ffordd y caiff eu gwasanaethau lleol eu hariannu a’u darparu. Dylai ein diwygiadau felly geisio gwneud y system cyllid yn fwy tryloyw ac yn haws i'w deall.

Mae dosbarthiad y grant cynnal refeniw i gynghorau lleol yn cydraddoli cyllid ledled Cymru tra'n cynnal gallu aelodau etholedig lleol i wneud penderfyniadau ar wasanaethau, ar drethi lleol ac ar fathau eraill o refeniw. Mae’r fformiwla’n cael ei datblygu a'i chytuno gyda Llywodraeth Leol. Dros amser, er hynny, mae’r fformiwla hon wedi mynd yn gymhleth a gall fod yn anodd ei deall. Rwyf yn bwriadu felly ystyried symleiddio'r fformiwla hon gyda llywodraeth leol drwy ein trefniadau ymgynghorol sefydlog. Rwyf yn ymwybodol bod angen newidiadau i'r fformiwla ddosbarthu o ganlyniad i ddatblygiadau eraill.

Mae lawer o'r ddadl ynghylch cyllid Llywodraeth Leol yn tueddu i ganolbwyntio ar y trethi lleol - y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Er nad yw’r rhain yn ffurfio ond rhan o'r system ar gyfer cyllido gwasanaethau lleol, mae'n rhan bwysig sy’n dylanwadu’n fwyaf uniongyrchol ar gyllid aelwydydd a threthdalwyr. Trethi yw’r ffi ar gyfer mynediad i gymdeithas wâr. Rydym yn talu trethi am ein bod i gyd yn cael y buddion cyfunol - gwasanaethau sy'n addysgu ein plant, yn gofalu am ein henoed, yn gwaredu  ein gwastraff, yn goleuo ein strydoedd ac yn amddiffyn ein cymunedau. I gynnal y gwasanaethau hyn, mae'n iawn bod y rhai sy'n gallu cyfrannu eu cyfran deg - y baich mwyaf yn disgyn ar yr ysgwyddau lletaf - yn gwneud hynny, gan sicrhau'r un pryd bod y rhai sy’n llai abl i gyfrannu yn cael eu trin yn deg a chydag urddas.

Rwyf wedi nodi rhai egwyddorion allweddol ar gyfer trethi yng Nghymru o'r blaen: dylai trethiant godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl. Dylai helpu i gyflawni amcanion ariannol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf economaidd. Dylai fod yn syml, yn glir ac yn sefydlog, felly mae effeithlonrwydd deddfwriaethol a gweinyddol yn bwysig. Yn olaf, o gofio rôl ganolog trethiant wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus craidd, bydd yn hanfodol ymgysylltu â threthdalwyr ar elfennau cyffredinol a phenodol trethi Cymreig. Byddaf yn amlinellu fy ymagwedd at drethu yng Nghymru yn fanylach yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Caiff ein cyfrifoldebau presennol ar gyfer trethi lleol eu harfer o fewn y dull hwn. Bydd angen inni ystyried sut y gallwn ddatblygu trethi lleol ochr yn ochr â’r trethi newydd eu  datganoli ac yng nghyd-destun trethi'r DU y bydd pobl yng Nghymru yn dal i’w talu. Bydd hyn yn cynnwys ystyried cwestiynau eang megis pa gyfran o’n refeniw treth sy’n seiliedig ar eiddo, ar incwm, ar drafodiadau neu ar ffactorau eraill. Byddwn yn ystyried a yw'r gwahanol ymagweddau at brisio eiddo yn hyfyw, a allent fod yn decach ac a fyddai unrhyw fanteision ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'r economi yng Nghymru. Rwyf  eisoes wedi dweud fy mod yn barod i edrych ar ddewisiadau megis treth ar werth tir fel ffordd amgen o godi refeniw treth yn y tymor hwy. Gan y byddai dulliau o'r fath yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol a allai fod â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer trethdalwyr a gwasanaethau, mae’n anochel mai materion i’w hystyried a’u datblygu dros fwy nag un tymor Cynulliad yw’r rhain. Rwyf hefyd am fod yn hyderus nad ydym, wrth wneud newidiadau tymor byrrach, yn cyfyngu neu’n diystyru ein dewisiadau ar gyfer datblygiadau tymor hwy lle byddai'r rhain yn diwallu anghenion ac amcanion Cymru yn well.

Yn y cyfamser, mae cefnogi busnesau drwy ymestyn ein cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach yn 2017-18 yn flaenoriaeth hollbwysig i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi addo adolygu'r cynllun yn 2017-18 ac i sefydlu cynllun parhaol newydd o fis Ebrill 2018. Rydym hefyd yn rhoi cynlluniau dros dro ar waith i ddarparu rhyddhad rhag ardrethi annomestig ar gyfer ein strydoedd mawr a rhyddhad trosiannol i helpu i liniaru effaith ymarfer ailbrisio 2017 Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae ein cynlluniau tymor byr hefyd yn cynnwys gwelliannau i weinyddu trethi lleol, er enghraifft,  arferion gwell ar gyfer rhannu data rhwng sefydliadau, gan gynnwys gan gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru newydd a gwelliannau i'r broses apelio yn achos ardrethi annomestig. Os oes cyfrwng deddfwriaethol addas, rwyf hefyd yn bwriadu achub y cyfle i fynd i'r afael ag osgoi talu ardrethi annomestig.

Er bod rhai wedi galw am symud at gadw ardrethi annomestig yn llawn gan awdurdodau lleol unigol, oherwydd y cyd-destun polisi ac economaidd yng Nghymru, ychydig iawn o awdurdodau lleol yn unig fyddai’n elwa ar gadw ardrethi ac fe fyddai hyn yn arwain at doriadau sylweddol i’r adnoddau sydd ar gael i'r mwyafrif sy'n weddill. Ar hyn o bryd, mae hwn yn faes lle mae awdurdodau lleol yn 'well gyda'n gilydd', gan barhau â’n traddodiadau cryf ym maes gwasanaethau cyhoeddus o gydweithredu a chydraddoli er budd pawb yng Nghymru. Lle ceir tystiolaeth y gellid cyflawni twf ychwanegol o ganlyniad i gamau gweithredu gan Lywodraeth Leol, byddaf yn anelu at drafod dull ennill cyfran sy'n gweld Llywodraeth Leol yn derbyn cyfran o'r fantais ariannol.

Mae ein cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn arf allweddol ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod cymorth ariannol ar gyfer Biliau'r dreth gyngor yn cael ei dargedu at y rheini y mae arnynt ei angen fwyaf, gan wneud sail system y dreth gyngor yn llawer llai anflaengar nag y byddai fel arall. Bydd yn adeiladu ar welliannau i'r cynllun presennol i sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ein hamcanion o fewn cyfyngiadau cyfundrefn budd-daliadau lles y DU. Gan fod deddfwriaeth fanwl yn sail i weithredu’r dreth gyngor, ychydig o newid yn unig allai gael ei sicrhau heb ddeddfwriaeth sylfaenol; Mae'r cyfleoedd ar gyfer newid tymor byr yn gyfyngedig. O fewn y cyfyngiadau hynny, er hynny, hoffwn ymchwilio i sut y gallem wneud ein system treth gyngor yn decach. Rwyf yn bwriadu amlinellu’r opsiynau a gwneud newidiadau cychwynnol o fewn tymor y Cynulliad hwn.

Wrth fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyngor gan arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd ac yn gweithio gyda llywodraeth leol drwy ein rhwydweithiau ymgynghorol sefydledig. Rwyf am ymgysylltu yn agored ac yn gynhwysfawr â dinasyddion ar y cynigion wrth iddynt gael eu datblygu ac, yn benodol, ar unrhyw gynigion a allai fod â goblygiadau ariannol ar gyfer aelwydydd a threthdalwyr. Rwyf yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn yr Hydref, ac rwy'n edrych ymlaen at gyswllt adeiladol â’r Cynulliad wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.

Gellir gweld yr Ymgynghoriad Papur Gwyn drwy wefan Llywodraeth Cymru
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/diwygio-llywodraeth-leol-cadernid-ac-adnewyddiad