Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi llyfr patrymau arloesol a fydd yn ein helpu i adeiladu cartrefi cynaliadwy, mwy effeithlon o ran ynni a chosteffeithiol yng Nghymru.  

Lluniwyd y llyfr patrymau gan Tai ar y Cyd, cydweithrediad rhwng 23 o landlordiaid cymdeithasol Cymru ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer 15 math o dai a 18 amrywiolyn, yn amrywio o fflatiau 1 ystafell wely a thai 4 ystafell wely i fyngalos a fflatiau sy'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.  

Gellir adeiladu'r cartrefi gwyrdd arloesol hyn yn gyflymach a chyda deunyddiau carbon isel a naturiol, gan helpu i leihau gwastraff a tharfu cyn lleied â phosibl ar gymunedau.  

Nid yw cyflymder y gwaith adeiladu yn golygu cyfaddawdu ar safonau. Mae'r cynlluniau hefyd wedi'u dylunio i fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru a Safonau Ansawdd Tai Cymru. 

Bydd y cartrefi newydd yn defnyddio deunyddiau naturiol, gan gynnwys pren sy'n dod yn fwyfwy o goedwigoedd Cymru ac yn cael eu gweithgynhyrchu mewn ffatrïoedd yng Nghymru pan fo hynny'n bosibl. 

Mae'r dull hwn yn sicrhau bod buddsoddiad mewn cartrefi newydd yn cyfrannu at adfywio economaidd lleol, drwy gefnogi busnesau lleol a chreu swyddi gwyrdd a chyfleoedd hyfforddi yn ein cymunedau. 

Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae ei rhan i gefnogi'r cydweithio hwn, gan gyfrannu £300,000 o gyllid, ochr yn ochr â'r £580,000 a gyfrannwyd gan aelodau'r consortiwm. 

Edrychaf ymlaen at weld yr effaith y mae'r llyfr patrymau yn ei chael dros y blynyddoedd nesaf wrth gefnogi ein huchelgeisiau i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy.