Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi datblygiad Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol, a sefydlwyd drwy'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud Cymru yn wlad o waith teg. Yn 2020, fe wnaethom sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, sef grŵp partneriaeth gymdeithasol deirochrog sydd wedi ymrwymo i ymwreiddio egwyddorion Gwaith Teg a gwella telerau ac amodau i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ei chreu trwy waith y Fforwm hwn.

Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yw'r cyntaf o'i bath yn y DU. Mae'r Bartneriaeth yn dod â’r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau ynghyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gytuno ar fodelau arferion gorau ar gyfer staff sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol, a'r gobaith yw y bydd cyflogwyr yn mabwysiadu'r modelau hyn yn wirfoddol. Ei huchelgais tymor hirach yw y bydd y modelau cytûn hyn yn cael eu mabwysiadu ar gyfer yr holl staff o fewn y cwmpas hwn, gan greu telerau ac amodau mwy cyson ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.  

Mae'r Bartneriaeth wedi datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n amlinellu ei nodau a'i amcanion. Bydd grŵp cynghori o arbenigwyr yn cefnogi'r Bartneriaeth, a bydd pob partner yn ymrwymo i fonitro ac adolygu'r polisïau y cytunwyd arnynt yn barhaus.  

Mae'r Bartneriaeth wedi ymgynghori â'r gweithlu gofal cymdeithasol a darparwyr i benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. 

Heddiw, rwy'n falch o allu cyhoeddi bod y Bartneriaeth wedi cytuno i ddatblygu'r tair blaenoriaeth ganlynol yn ystod y 12 mis cyntaf:

  • Cytundebau Cydnabod (ochr yn ochr â mynediad i Undebau Llafur) 
  • Disgyblu a chwyno 
  • Iechyd a diogelwch, gan gynnwys trais yn y gweithle

Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd wrth i waith y Bartneriaeth ddatblygu. Mae'r cydweithio rhwng y Llywodraeth a'n partneriaid yn gam addawol tuag at greu amgylchedd gwaith tecach a mwy cefnogol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Rydym yn gwybod bod ein gweithlu gofal cymdeithasol yn wynebu heriau. Bydd gwaith y Fforwm a'r Bartneriaeth yn creu elfennau pwysig i sicrhau bod ein gweithlu gofal cymdeithasol yn gallu mwynhau’r amgylchedd gorau i gefnogi pobl Cymru. 

Rwy'n teimlo'n optimistaidd am y dyfodol, ac yn hyderus y gallwn ddatblygu pecyn o newidiadau cadarnhaol sy'n gwneud gwahaniaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac i'r bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.