Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 a rheoliadau dilynol gan y Senedd er mwyn gosod a chyflwyno isafbris uned o 50c am alcohol. Daeth yr isafbris uned i rym ar 2 Mawrth 2020, yn union cyn i'r pandemig ddechrau. 

Nod y ddeddfwriaeth yw helpu i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed gan yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir. Mae'r isafbris uned yn mynd i'r afael â gwerthu alcohol am bris isel iawn, yr yfir llawer ohono ac sy'n gallu rhoi pobl mewn perygl hirdymor o ganser, strôc, clefyd y galon, clefyd yr afu a niwed i'r ymennydd. Mae’r Ddeddf yn ceisio diogelu iechyd yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir sy'n dueddol o yfed mwy o gynhyrchion rhad sy'n cynnwys lefelau uchel o alcohol.

Gan adeiladu ar ymchwil mewn mannau eraill, yn arbennig yn yr Alban, mae gwerthusiadau annibynnol o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) wedi'u cynnal drwy bedair astudiaeth gydategol, gyda phob un yn edrych ar wahanol agweddau ar ei gweithredu. Caiff yr adroddiadau terfynol eu cyhoeddi heddiw yn Ymchwil ar isafswm prisio ar gyfer alcohol | LLYW.CYMRU

Mae wedi bod yn heriol asesu effaith y ddeddfwriaeth yng nghyd-destun y pandemig, lefelau chwyddiant sy'n gyson uchel a'r argyfwng costau byw. Fodd bynnag, mae'r astudiaethau'n awgrymu bod y ddeddfwriaeth wedi'i chroesawu'n eang a'i rhoi ar waith yn effeithiol. 

O ran gorfodi'r ddeddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi elwa ar berthynas waith ardderchog â Safonau Masnach Cymru, a nododd ond chwe dirwy yn unig ar ôl cynnal dros 3,000 o archwiliadau. 

Daw'r adroddiad o'r dadansoddiad o gyfraniad, sy'n defnyddio cyfres o astudiaethau a thystiolaeth o bob cwr o'r byd, i'r casgliad y dylem adnewyddu yn hytrach na cholli'r opsiwn o ddefnyddio'r ddeddfwriaeth yn un o fesurau polisi alcohol yng Nghymru. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell cynyddu'r isafbris uned i o leiaf 65c er mwyn cynnal gwerth y polisi a'r effeithiau cadarnhaol sydd wedi dod i'r amlwg hyd yma.

Mae'r gwerthusiad yn awgrymu bod bron pob un darparwr gwasanaeth a gweithiwr proffesiynol yn cytuno na ddylid diddymu'r polisi ynghylch isafswm prisio, gyda rhai yn awgrymu cynnydd graddol yn y pris fesul uned i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn unol â chwyddiant. 

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y ddeddfwriaeth wedi cael effaith ar werthu cynhyrchion alcohol rhad, cryfder uchel, a bod eu prisiau'n codi. Mae hyn wedi arwain at gwsmeriaid yn prynu llai o'r math hwn o gynnyrch a llai o fanwerthwyr yn ei stocio. Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a helpu pobl yng Nghymru i yfed yn gyfrifol. 

Yn ystod hynt y ddeddfwriaeth, rhannwyd pryderon ynglŷn â phobl yn defnyddio sylweddau anghyfreithlon eraill yn lle alcohol yn ogystal â siopa ar draws y ffin. Daeth y gwerthusiadau i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd yn awgrymu bod unigolion a oedd yn yfwyr alcohol (nad oeddent eisoes yn defnyddio cyffuriau) yn debygol o ddechrau defnyddio cyffuriau o ganlyniad i brisiau alcohol uwch. Mae'n ymddangos bod tystiolaeth ar raddfa fach o siopa ar draws y ffin a bod hyn yn fwyaf amlwg ymhlith cymunedau sydd wedi'u lleoli yn agos at y ffin. 

Rwy'n croesawu'r gwerthusiadau hyn a chanfyddiadau'r adroddiadau interim. Rwyf am ei gwneud yn glir mai dim ond un elfen o'n hymyriadau polisi ehangach yn ymwneud ag alcohol yw'r ddeddfwriaeth. Rydym yn parhau i roi cymorth i'n Byrddau Cynllunio Ardal ar gyfer gwasanaethau triniaeth ac rydym yn buddsoddi mwy na £67 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyllid sydd wedi'i glustnodi gwerth £6.25 miliwn i helpu plant a phobl ifanc. 

Yn unol â thelerau'r Ddeddf, rhaid inni ddarparu adroddiad am sut y caiff y ddeddfwriaeth ei rhoi ar waith a'i heffaith. O ran llunio'r adroddiad, rhaid inni ymgynghori â'r Senedd ac eraill, fel y bo'n briodol. Bydd canfyddiadau'r gwerthusiadau hyn a'r sail dystiolaeth ehangach yn llywio'r adroddiad, ac rwyf wedi cymeradwyo ymgynghoriad 12 wythnos o hyd gyda rhanddeiliaid perthnasol, y bydd eu mewnbwn yn cyfrannu at yr adroddiad. Bydd hyn yn cynnwys casglu barn y cyhoedd drwy ymchwil ar ffurf arolwg parhaus a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried cynnal galwad fer am dystiolaeth ynghylch yr isafbris uned.