Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, a gyflwynwyd yn 2014, yn rhoi darlun clir o ba mor dda y mae ysgolion Cymru yn perfformio a lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i neud yn well.
Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r categorïau cefnogaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd am y drydedd flwyddyn. Hefyd, am y tro cyntaf, rydym yn cyhoeddi’r categorïau cefnogaeth ar gyfer ysgolion arbennig. Mae hyn yn dilyn proses drylwyr o gymedroli a gwirio, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Diben y system gategoreiddio yw pennu pa gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion i wella. Mae categoreiddio'n cynnig dull cyfannol o wella ysgolion, sy'n caniatáu i'r consortia addysg rhanbarthol ystyried cyd-destun ysgol wrth ddyfarnu ar ei hunanwerthusiad a'i chapasiti i wella.
Nod y system yw rhoi cefnogaeth ac annog gwella ar y cyd, yn hytrach na gosod labeli neu lunio tablau cynghrair moel. Mae'n broses sy'n rhoi ysgolion mewn sefyllfa sy'n eu galluogi i bennu'r ffactorau sy'n cyfrannu at eu cynnydd a'u llwyddiant ac i ddeall pa feysydd y mae’n rhaid canolbwyntio arnynt i sicrhau eu bod yn parhau i ddatblygu.
Nid yw’r system yn seiliedig ar ffigurau’n unig – caiff safon yr arweinyddiaeth, yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion hefyd eu hystyried. Mae tri cham i’r system, fel a ganlyn:
- Cam Cyntaf: Dyfarniad wedi'i seilio ar ddata gan ddefnyddio set o fesuriadau perfformiad y cytunir arnynt
- Ail Gam: Ysgolion i hunanwerthuso eu capasiti i wella o ran arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu.
- Trydydd Cam: Cytunir ar y cam hwn rhwng yr awdurdod lleol a’r consortiwm addysg rhanbarthol. Bydd yn arwain at raglen o gefnogaeth, her ac ymyrraeth a fydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer yr ysgol, a hynny ar sail cod lliw.
Mae’r ffigurau yr ydym wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod 84.4% o ysgolion cynradd a 64.6% o ysgolion uwchradd bellach yn y categorïau gwyrdd a melyn. Mae hyn yn gynnydd o 8.5 a 7.6 pwynt canran, yn ôl eu trefn. Mae hyn yn galonogol. Bydd gan yr ysgolion hyn rôl allweddol yn y gwaith o gefnogi ysgolion eraill yng Nghymru drwy rannu eu harbenigedd, eu sgiliau, a’u harfer da. Bydd hyn yn gyfraniad hanfodol i’r gwaith o ysgogi gwelliannau a chreu system sy’n gwella ei hun.
I gloi, mae’n werth ailadrodd bod yna safon sylfaenol gymeradwy ar gyfer perfformiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn er mwyn sicrhau ffocws cyson ar y grŵp hwn o ddisgyblion. Cyflwynwyd hyn am y tro cyntaf ar gyfer deilliannau 2015. Y lefel a bennwyd oedd 30%, gan gynyddu i 32% yn 2016 a 34% yn 2017. Golyga hyn, lle bo perfformiad ysgol o ran ei disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn is na’r safon sylfaenol gymeradwy, ni chaiff yr ysgol honno fod mewn grŵp safonau gwell na 3. Os bydd yr ysgol yn gwneud yn dda o ran dangosyddion eraill yn nes ymlaen a hefyd yn cael asesiad da gan y consortia yna, ar y gorau, gall yr ysgol dan sylw gael ei rhoi yn y categori melyn. I grynhoi, ni fydd yna unrhyw ysgolion gwyrdd yng Nghymru nad ydynt wedi cyrraedd y safon sylfaenol gymeradwy o 32% (cyfartaledd dros dair blynedd wedi’i bwysoli) ar gyfer eu disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 2016.
Rwyf wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael i helpu i godi safonau yn ein hysgolion a gwella deilliannau i ddisgyblion. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda’r consortia addysg rhanbarthol i ystyried y ffordd orau ymlaen o ran categoreiddio er mwyn sicrhau bod y system yn parhau’n briodol ac yn effeithiol wrth i’r tirlun addysg yng Nghymru newid.