Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl 8 mlynedd a hanner yn y swydd, mae prif feddyg Cymru, Syr Frank Atherton, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i fod yn Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Syr Frank wedi rhoi cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar yr holl faterion pwysig sy'n effeithio ar y sector iechyd yng Nghymru.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghymru, ar ôl gadael ei swydd flaenorol yng Nghanada, chwaraeodd Syr Frank ran flaenllaw yn ymateb Cymru i'r pandemig COVID-19 ac mae wedi cefnogi'r GIG drwy frigiadau o achosion ffliw a phwysau blynyddol y gaeaf.

Wrth siarad am benderfyniad Syr Frank i ymddiswyddo, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Mae Syr Frank wedi rhoi cyngor ac arweiniad amhrisiadwy, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddo am hyn.

Chwaraeodd ran flaenllaw yn ein hymateb i'r pandemig, gan sicrhau bod pobl ar hyd a lled Cymru yn cael gwybodaeth werthfawr am y feirws ac am sut i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Hoffwn ddymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Judith Paget, prif weithredwr GIG Cymru:

Mae Frank wedi dangos ei fod yn angerddol am wella canlyniadau iechyd i boblogaeth Cymru ac mae wedi arwain y ffordd o ran gwella ansawdd gofal iechyd.

Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gydag ef a chael manteisio ar ei brofiad a'i ymrwymiad i ddulliau gweithredu newydd.

Mae wedi chwarae rhan hanfodol o ran rhoi llais i Gymru o gwmpas y bwrdd gyda Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU, adrannau'r llywodraeth a sefydliadau.

Mae Syr Frank wedi bod yn gyfrifol am arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru a datblygu ymchwil mewn iechyd a gofal.

Cyn gadael ei swydd, dywedodd Syr Frank:

Mae wedi bod yn fraint gweithio fel Prif Swyddog Meddygol ac uchafbwynt fy ngyrfa broffesiynol oedd cael gwasanaethu pobl Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

Hoffwn ddiolch i'r holl weision sifil eraill hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni, ac sydd wedi fy nghynorthwyo am bron i ddegawd yn y rôl hon.

Bydd olynydd Frank Atherton yn cael ei gyhoeddi maes o law.