Bydd cyllid ychwanegol a gadarnhawyd heddiw yn cefnogi adferiad yr hyn sy'n cyfateb i 266 cae rygbi o forwellt erbyn 2030.
Cyhoeddwyd y £100,000 ychwanegol gan Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a chaiff ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol Rhwydwaith Morwellt Cymru.
Mae morwellt yn gynefin hanfodol bwysig sy'n cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys storio carbon, amddiffyn rhag llifogydd a chynyddu bioamrywiaeth.
Mae ymchwil wedi canfod bod cynefinoedd morwellt yn cynnwys pedair gwaith nifer y pysgod o gymharu â chynefinoedd heb lystyfiant. Gall un hectar o forwellt gynnal cymaint â 4,700 yn fwy o bysgod a 28 miliwn yn fwy o infertebratau na chynefinoedd heb lystyfiant.
Mae adfer cynefinoedd morwellt a morfeydd heli yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ac mae'n ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu. Mae'r safleoedd yn rhychwantu Cymru gyfan o Sir Benfro i Draeth Penial yng Nghaergybi.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Rwy'n falch o gyhoeddi'r cyllid ychwanegol hwn a fydd yn helpu Cymru i atal colli morwellt a chefnogi adferiad 266 hectar o forwellt erbyn 2030.
"Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat yn y tymor hwy i gefnogi creu swyddi gwyrdd."
Mae'r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol wedi ei ddatblygu gan Rwydwaith Morwellt Cymru, rhwydwaith sy'n cynnwys amrediad o bartneriaid cyflawni gan gynnwys cyrff anllywodraethol, academyddion a Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yr NSAP yn darparu rhaglen neu adferiad strategol, tymor hwy, cydgysylltiedig, gan adeiladu ar ein gwaith presennol.
Dywedodd Penny Nelson, Arweinydd Polisi Adfer Cefnforoedd ac Eiriolaeth WWF Cymru:
"Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol yn gam sylweddol yn ymdrechion cyfunol partneriaid Rhwydwaith Morwellt Cymru i atal a gwrthdroi dirywiad morwellt ledled Cymru.
"Mae dolydd morwellt yn hanfodol ar gyfer cefnogi bioamrywiaeth, cymunedau a diogelwch bwyd wrth liniaru effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd. Mae'r gymeradwyaeth hon yn rhoi Cymru ar y llwybr i arwain y ffordd wrth adfer ein cynefinoedd arfordirol a morol ac adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu'r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol dros y 5 mlynedd nesaf sy'n hanfodol i gyflawni gweledigaeth lle mae dolydd morwellt yn gwella ac yn ffynnu."
Dywedodd Dr Leanne Cullen-Unsworth, Prif Swyddog Gweithredol Prosiect Morwellt a Chadeirydd Rhwydwaith Morwellt Cymru:
"Cryfder mwyaf y Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol drafft yw ei natur gydweithredol.
"Daeth Rhwydwaith Morwellt Cymru â rhanddeiliaid morwellt ynghyd o bob rhan o Gymru i ddatblygu'r cynllun hwn a chynnig glasbrint cydlynol a chronolegol ar gyfer gweithredu."
"Mae'r cyllid hwn i ddod â chydlynydd ar gyfer y Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol nawr yn hanfodol i gynnal momentwm a gronnwyd gan Rwydwaith Morwellt Cymru a dechrau cyflawni'r camau a amlinellir yn y Cynllun drafft."