Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn disgrifio cyfraddau’r benthyciadau a grantiau ar gyfer myfyrwyr israddedig ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026. Gall y cyfraddau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r ffigurau a nodir yn yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a chyn 1 Awst 2018.

Mae’r cyfraddau hyn yn destun rheoliadau sydd wrthi’n cael eu llunio. Os bydd gwahaniaeth rhwng y rheoliadau a’r ddogfen hon, y rheoliadau sy’n drech. 

Cymorth ffioedd a chynhaliaeth i fyfyrwyr llawnamser

Cymorth ffioedd llawnamser

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n byw yng Nghymru fel arfer yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant ffioedd. Hefyd bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n dysgu o bell yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd. Nid yw’r benthyciad ffioedd na’r grant ffioedd yn dibynnu ar brawf modd. 

Cyfraddau benthyciad ffioedd

Cyfraddau grant ffioedd

  • Uchafswm grant ffioedd ar gyfer darparwr cyffredin, £4,175
  • Nid oes grant ffioedd ar gael ar gyfer cyrsiau mewn sefydliad preifat

Y ffi uchaf y gall darparwyr addysg uwch cyffredin ei chodi yn y DU yn 2025 i 2026 yw £9,535. Nodwch nad oes rhaid i ddarparwyr preifat gydymffurfio â chapiau ffioedd. 

Cymorth ffioedd uchaf mewn achosion arbennig

Mae’r rheoliadau’n darparu ar gyfer gwahanol symiau o gymorth ffioedd mewn rhai achosion.

Blwyddyn olaf

Bydd uchafswm y cymorth ffioedd dysgu sydd ar gael yn cael ei leihau ym mlwyddyn academaidd olaf cyrsiau lle mae dyddiad gorffen y cwrs yn gynharach ac sy'n gofyn am gyfnodau astudio byrrach (llai na 15 wythnos o astudio). 

Dyma'r cymorth ffioedd dysgu fydd ar gael ar gyfer cyrsiau o'r fath:

  • hyd at £4,765 ar gyfer y rhai a ddarperir mewn darparwr cyffredin lle gellir codi hyd at £9,535 (benthyciad ffioedd o hyd at £2,615 a grant ffioedd o hyd at £2,150), a 
  • hyd at £3,175 (benthyciad ffioedd) ar gyfer y rhai a ddarperir mewn darparwr preifat (50% o £6,355 wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf)
Myfyrwyr mewn darparwyr yng Nghymru neu Loegr 

Bydd myfyrwyr cohort 2012 sy’n cwblhau blwyddyn astudio ar leoliad dramor y tu allan i gynllun Erasmus+/Turing/ILE (TAITH)) yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ac sy'n astudio ar gwrs dynodedig yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

Bydd myfyrwyr cohort 2012 sy’n cwblhau blwyddyn ar leoliad dramor (naill ai’n astudio neu’n gweithio fel rhan o gynllun Erasmus+/Turing/ILE (TAITH) yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys sy’n astudio ar gwrs dynodedig yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir ( hyd at £755 o fenthyciad ffioedd a £675 o grant ffioedd, cyfanswm o £1,430, lle mae’r ffi uchaf yn £9,535). Nid yw darparwyr preifat yn cymryd rhan yng nghynllun Erasmus+

Mae darparwyr yn Lloegr sydd naill ai wedi'u cofrestru ar gofrestr y Swyddfa Myfyrwyr neu sydd â Phwerau Dyfarnu Graddau cydnabyddedig yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun Turing. 

Mae darparwyr cydnabyddedig neu reoleiddiedig a darparwyr preifat yng Nghymru yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun ILE (TAITH). 

 Bydd myfyrwyr cohort 2012 sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 20% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais o: 

  • hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir (hyd at £1005 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £900, cyfanswm o £1,905, lle mae'r ffi uchaf yn £9,535), neu
  • hyd at £1,270 (benthyciad ffioedd) (20% o £6,355 wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Myfyrwyr sy’n astudio mewn darparwyr yn yr Alban

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith neu leoliad astudio y tu allan i gynlluniau Erasmus+/Turing, yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at £4,765 (hyd at £2,615 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
  • hyd at £3,175 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn ar leoliad dramor naill ai’n astudio neu’n gweithio o fewn cynlluniau Erasmus+/Turing yn gorfod talu ffioedd dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o hyd at y ffi dysgu uchaf a godir sy’n cynnwys benthyciad ffioedd o £755 a grant ffioedd o £675, hyd at gyfanswm £1,430 (lle mae'r ffi uchaf yn £9,535. Nid yw darparwyr preifat yn cymryd rhan yng nghynllun Erasmus+/Turing.

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at £4,765 (hyd at £2,615 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
  • hyd at £3,175 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith neu leoliad astudio y tu allan i gynlluniau Erasmus+/Turing (mae darparwyr Gogledd Iwerddon yn hepgor ffioedd i fyfyrwyr Erasmus+/Turing a nid yw cymorth ffioedd yn angenrheidiol) yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at £4,765 (hyd at £2,615 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
  • hyd at £3,175 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at £4,765 (hyd at £2,615 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
  • hyd at £3,175 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat

Cymorth cynhaliaeth llawnamser

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser yn gallu gwneud cais am grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth:

  • grant sy’n dibynnu ar brawf modd ar gyfer costau byw, hyd at £5,161, a
  • benthyciad, gyda 75% ohono ddim yn dibynnu ar asesiad incwm

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gymwys am Grant Cymorth Arbennig yn hytrach na’r grant cynhaliaeth. Mae uchafswm y cymorth y mae myfyrwyr sydd ac sydd ddim yn gymwys am Grant Cymorth Arbennig yn wahanol.

Mae cyfanswm y cymorth cynhaliaeth a swm y benthyciad a’r grant yn dibynnu ar ble mae’r myfyriwr yn byw ac astudio, ac incwm yr aelwyd. Mae uchafswm y cymorth cynhaliaeth ar gael i fyfyrwyr ag incwm aelwyd o hyd at £18,370.

  • Gall myfyrwyr sy’n byw yng nghartref rhiant dderbyn hyd at £9,019 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
  • Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, dderbyn hyd at £14,231 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
  • Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain, dderbyn hyd at £10,898 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.

Dangosir symiau'r cymorth grant a'r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau incwm aelwydydd yn nhablau 1A i 1C (adran: tablau eglurhaol).

Benthyciadau cynhaliaeth

Bydd uchafswm y benthyciad yn cael ei leihau 50c am bob £1 o grant cynhaliaeth a dderbynnir, hyd at uchafswm o £2,580 o ostyngiad.

  • Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £6,438. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ddim ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £4,829. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £1,609.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i'r gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £11,650. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £8,738. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,912.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £8,317. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £6,238. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,079.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i'r gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £9,917. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £7,438. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,479.

Benthyciadau cynhaliaeth blwyddyn olaf

Mae myfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu cwrs yn gymwys am wahanol gyfraddau i flynyddoedd eraill. Mae cyfraddau is ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael eu haddasu’n briodol.

  • Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i fenthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £5,830. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail incwm, sef £4,373. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £1,457.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £10,609. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail incwm, sef £7,957. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,652.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £7,705. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £5,779. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £1,926.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i fenthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £8,625. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £6,469. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,156.

Benthyciadau cynhaliaeth is

Mae rhai myfyrwyr llawnamser yn gymwys i gael cyfradd is o fenthyciad cyfradd is yn unig. Mae'r rhain yn cynnwys myfyrwyr ar leoliadau cwrs rhyngosod blwyddyn lawn â thâl lle mae’r cyfnodau o astudiaeth llawnamser yn llai na 10 wythnos i gyd.

  • Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £3,057, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £6,438.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £5,729, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £11,650.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £4,076, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £8,317.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £4,875, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £9,917.

Benthyciadau cynhaliaeth blwyddyn olaf is

Mae myfyrwyr llawnamser sydd ond yn gymwys i gael y benthyciad cynhaliaeth cyfradd is ac sydd ym mlwyddyn olaf eu cwrs yn gymwys am wahanol gyfraddau i flynyddoedd eraill. Mae cyfraddau is ar gyfer y rhai sydd yn eu blwyddyn olaf yn cael eu haddasu yn unol â hynny.

  • Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £2,323, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf yn £5,830.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £4,381, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliath blwyddyn olaf yn £10,609.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £3,176, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf yn £7,705.
  • Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £3,564, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf yn £8,625.

Grantiau cynhaliaeth

Y grant cynhaliaeth uchaf sydd ar gael yw £5,161, waeth ble mae’r myfyriwr yn byw ac yn astudio.

Yn achos incwm rhwng £18,371 a £26,500, bydd grant cynhaliaeth yn cael ei leihau £1 am bob £3.653 cyflawn o incwm sy’n uwch na £18,370. Yn achos incwm rhwng £26,501 a £34,000, bydd y grant yn cael ei leihau £1 am bob £4.180 cyflawn o incwm sy’n uwch na £26,500. Yn achos incwm rhwng £34,001 a £50,020, mae’r grant yn lleihau £1 am bob £14.67 cyflawn o incwm sy’n uwch na £34,000.

Bydd myfyriwr ag incwm o £50,020 yn gymwys am yr isafswm grant o £50. Ni fydd myfyriwr sydd ag incwm o dros £50,020 yn gymwys am unrhyw grant. Pan fo incwm y myfyriwr yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad y mae ganddo hawl iddo yn lleihau £1 am bob £5 cyflawn o incwm sy’n uwch na £50,753 nes bod 75% o’r benthyciad cynhaliaeth llawn yn weddill.

Dangosir symiau'r cymorth grant a'r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau incwm aelwydydd yn nhablau 1A i 1C (adran: tablau eglurhaol).

Taliad cymorth arbennig

Bydd myfyrwyr sy'n derbyn budd-daliadau penodol yn cael rhan o'r cymorth i fyfyrwyr a gânt gan Lywodraeth Cymru wedi'i diystyru at ddibenion cyfrifo eu hincwm wrth wneud cais am y budd-daliadau hynny. 

Mae myfyrwyr cymwys yn cynnwys y rhai:

  • sydd â phlant dibynnol ond nad oes ganddynt bartner
  • sydd â phlant dibynnol a bod eu partner yn fyfyriwr llawnamser hefyd, neu
  • sy’n gymwys am rai budd-daliadau anabledd penodol

Mae myfyrwyr sy’n gymwys am Grant Cymorth Arbennig yn gymwys am gyfraddau uwch o gymorth benthyciad na’r rhai nad ydynt yn gymwys, sy’n golygu bod eu lefel cymorth cyffredinol yn uwch hefyd.

Y Grant Cymorth Arbennig uchaf sydd ar gael yw £5,161, waeth ble mae’r myfyriwr yn byw ac yn astudio. Mae’r swm uchaf ar gael i bob myfyriwr cymwys sydd ag incwm aelwyd o hyd at £18,370.

Mae cyfanswm y cymorth cynhaliaeth a swm y benthyciad a’r Grant Cymorth Arbennig yn dibynnu ar ble mae’r myfyriwr yn byw ac yn astudio, ac incwm yr aelwyd fel a ganlyn.

  • Gall myfyrwyr sy’n byw yng nghartref eu rhieni dderbyn hyd at £11,599 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
  • Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, dderbyn hyd at £16,811 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
  • Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain, dderbyn hyd at £13,478 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.

Dangosir symiau'r cymorth grant a'r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau incwm aelwydydd yn nhablau 1A i 1C (adran: tablau eglurhaol). 

Cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n cwblhau cwrs AGA llawnamser yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant cynhaliaeth fel y disgrifiwyd uchod. 

Cyfraniadau aelwyd

Bydd cyfraniadau’n cael eu cyfrif fel a ganlyn:

  • Incwm aelwyd o £50,753 neu lai: dim cyfraniad
  • Incwm aelwyd o rhwng £50,753 a £81,793: cyfraniad o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd
  • Incwm aelwyd o dros £81,793: cyfraniad o £6,208

Y cyfraniad uchaf posibl yw £6,208.

Dangosir symiau cyfraniadau aelwydydd yn nhabl 3 (adran: tablau eglurhaol). 

Didyniad plentyn dibynnol

Efallai y bydd swm o incwm yn cael ei ddiystyru wrth gyfrif incwm yr aelwyd i’w ystyried ar gyfer pennu lefel y grant cynhaliaeth. Mae hyn yn berthnasol pan fo’r aelwyd yn cynnwys plentyn dibynnol heblaw ‘r myfyriwr.

Gellir diystyru £1,150 wrth gyfrif incwm aelwyd myfyrwyr llawnamser am bob plentyn dibynnol.

Cymorth ffioedd a chynhaliaeth i fyfyrwyr rhan-amser

Cymorth ffioedd rhan-amser

Benthyciad ffioedd

Gall myfyrwyr cymwys rhan-amser sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd. Nid yw'r benthyciad ffioedd yn seiliedig ar brawf modd. 

Cyfraddau benthyciad ffioedd: darparwr cyffredin

  • Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr yng Nghymru, £2,625
  • Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer y Brifysgol Agored, £2,625
  • Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr eraill yn y DU, £7,145

Cyfraddau benthyciad ffioedd: darparwr preifat

  • Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr yng Nghymru, £2,625
  • Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr eraill yn y DU, £4,765

Noder nad oes yn rhaid i ddarparwyr a sefydliadau gydymffurfio â chapiau ar ffioedd a gallant godi ffioedd uwch nag uchafswm y benthyciad ffioedd rhan-amser sydd ar gael. Gellir ond cael hyd at yr uchafsymiau a nodwyd o fenthyciad ffioedd a bydd rhaid i’r myfyriwr dalu’r gweddill.

Grant Ffioedd: cyn 1 Medi 2014

Mae gan fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy'n dechrau ar gwrs cyn Medi 2014 hawl i grant ffioedd hefyd. 

Mae grantiau ffioedd yn dibynnu ar ddwysedd yr astudio ac incwm yr aelwyd, fel a ganlyn:

Lle mae incwm yr aelwyd yn llai na £16,865 a’r astudio ar ddwysedd o:

  • hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £690
  • 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £820
  • 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £1,025

Lle mae incwm yr aelwyd yn £16,865 a’r astudio ar ddwysedd o:

  • hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £640
  • 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £770
  • 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £975

Lle mae incwm yr aelwyd o £16,865 i £25,434 a’r astudio ar ddwysedd o:

  • hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £640 gyda £1 yn llai am bob £14.52 o incwm dros £16,865
  • 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £770 gyda £1 yn llai am bob £11.90 o incwm dros £16,865
  • 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i gael grant ffioedd o £975 gyda £1 yn llai am bob £9.26 o incwm dros £16,865

Lle mae incwm yr aelwyd yn £25,435 a’r astudio ar ddwysedd o:

  • hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £50
  • 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £50
  • 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £50

Pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £25,435, nid oes gan fyfyriwr hawl i unrhyw grant ffioedd, waeth pa mor ddwys yw'r astudio.

Cymorth cynhaliaeth rhan-amser

Cymorth cynhaliaeth: ar neu ar ôl 1 Medi 2014

Bydd myfyrwyr cymwys rhan-amser a myfyrwyr cymwys sy’n dysgu o bell (astudio ar ddwysedd o 50% neu fwy) yn gallu gwneud cais am grant cynhaliaeth o hyd at £1,155 ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall sy’n gysylltiedig â’u cwrs. Mae’r grant hwn yn cael ei asesu ar sail incwm, gyda swm y grant yn lleihau £1 am bob £1.886 o incwm cyfrifiadwy sy’n uwch na £26,095.

  • Lle mae incwm yn £26,095 ac is, mae'r grant yn £1,155
  • Lle mae incwm yn £26,096 i £28,179, mae'r grant yn £1,155 gyda £1 yn llai am bob £1.886 o incwm sydd dros £26,095
  • Lle mae incwm yn £28,180, mae'r grant yn £50

Pan fo incwm yr aelwyd yn uwch na £28,180, nid oes gan fyfyriwr hawl i gymorth cynhaliaeth.

Didyniad incwm

Mae didyniadau incwm yn berthnasol i fyfyrwyr sydd â phartneriaid a phlant dibynnol:

  • mae £2,000 o incwm aelwyd yn cael ei ddiystyru ar gyfer myfyriwr sydd â phartner
  • mae £2,000 o incwm aelwyd yn cael ei ddiystyru ar gyfer y plentyn dibynnol cyntaf, a £1,000 ar gyfer pob plentyn wedi hynny

Cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)

Bydd myfyrwyr cymwys rhan-amser sy’n cwblhau cwrs AGA rhan-amser yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant cynhaliaeth fel y disgrifiwyd uchod.

Grant myfyrwyr anabl

Gall myfyrwyr israddedig, sy'n astudio'n llawnamser neu'n rhan-amser, fod yn gymwys i gael grant i’w cynorthwyo â gwariant ychwanegol a ysgwyddir o ganlyniad uniongyrchol i'w anabledd. Nid yw'n seiliedig ar brawf modd nac wedi'i raddio'n seiliedig ar ddwysedd yr astudio. 

Uchafswm y grant ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 fydd £34,000 ac mae'n cwmpasu'r meysydd gwariant canlynol:

  • cynorthwyydd personol nad yw'n feddygol
  • eitemau mawr o offer arbenigol
  • gwariant arall sy'n gysylltiedig ag anabledd

Bydd lwfans teithio ar wahân sydd heb ei gapio hefyd ar gael i fyfyrwyr sy'n ysgwyddo costau teithio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd eu hanabledd.

Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser

Benthyciadau cynhaliaeth uwch ar gyfer blynyddoedd llawnamser estynedig

Mae benthyciad cynhaliaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr cymwys llawnamser ar gyfer astudio mewn blynyddoedd academaidd sy’n para mwy na 30 wythnos a 3 diwrnod.

  • £96 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n preswylio yn y cartref rhiant
  • £184 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, yn Llundain
  • £144 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, tu allan i Lundain
  • £201 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, tramor

Nid yw myfyrwyr sy’n gymwys am gyfradd is y benthyciad yn gymwys am swm ychwanegol.

Grantiau i Ddibynyddion 

Grant Oedolyn Dibynnol

Gellir talu Grant Oedolyn Dibynnol i fyfyriwr gymwys llawnamser neu rhan-amser sydd â phartner dibynnol neu oedolyn arall dibynnol. Lle bo'n berthnasol, uchafswm y grant ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 mewn perthynas â phriod fydd £3,407 (yn amodol ar y cyfrifiad dwysedd astudio ar gyfer myfyrwyr rhan-amser). Os nad oes gan y myfyriwr bartner, gall myfyriwr fod yn gymwys i gael y grant hwn mewn perthynas ag un oedolyn dibynnol nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.

Grant gofal plant 

Mae Grant Gofal Plant yn cael ei ddarparu i helpu myfyriwr cymwys llawnamser neu rhan-amser gyda chostau gofal plant yn ystod eu cwrs.

Bydd swm y grant i’w dalu yn seiliedig ar 85% o’r costau gofal plant gwirioneddol, yn amodol ar uchafswm grant o:

  • £192 yr wythnos am un plentyn
  • £329 yr wythnos am ddau blentyn neu fwy (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer cyrsiau rhan-amser).

Pan nad oes darparwr gofal plant wedi’i nodi, bydd swm y grant gofal plant i’w dalu ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn seiliedig ar 85% o’r costau gofal plant gwirioneddol, yn amodol ar uchafswm grant o £147 yr wythnos (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio). Bydd y taliad cyfradd is hwn yn cael ei wneud nes bod manylion y darparwr gofal plant wedi’u cyflwyno, ac ond yn cael ei dalu am un chwarter academaidd (tymor fel arfer).

Lwfans/grant dysgu rhieni

Mae lwfans/grant dysgu rhieni ar gael i fyfyrwyr cymwys llawnamser neu rhan-amser sydd â phlant.

Yr uchafswm i’w dalu ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 fydd £1,945 (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser) gyda’r isafswm yn £53 yn dibynnu ar brawf modd.

Diystyru incwm dibynyddion

Mae swm o incwm yn cael ei ddiystyru wrth gyfrifo hawl i grantiau ar gyfer dibynyddion.

  • Mae £1,211 yn cael ei ddiystyru lle nad oes gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol.
  • Mae £3,628 yn cael ei ddiystyru lle nad yw'r myfyriwr yn rhiant sengl a bod ganddo un plentyn dibynnol.
  • Mae £4,839 yn cael ei ddiystyru lle nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant sengl a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol, neu'n rhiant sengl a bod ganddo un plentyn dibynnol.
  • Mae £6,056 yn cael ei ddiystyru os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant sengl a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

Grant Teithio

Mae grant teithio ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau meddygaeth neu ddeintyddiaeth ac i fyfyrwyr sy’n astudio neu weithio dramor fel rhan o’u cwrs o dan rai amgylchiadau. Caiff y costau gwirioneddol eu had-dalu, ar ôl tynnu’r swm sy’n cael ei ddiystyru.

Y swm i’w ddiystyru mewn unrhyw asesiad o hawl fydd £303 i bob myfyriwr.

Bandiau dwysedd astudio rhan-amser

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau rhan-amser yn gymwys i wneud cais am Grantiau i Ddibynyddion (GfDs) wrth astudio ar ddwyster astudio o leiaf 25% o gwrs cyfwerth ag amser llawn. 

Dyma’r bandiau dwyster astudio a ddefnyddir i gyfrif faint o’r Grant i Ddibynyddion sy'n daladwy:

  • 25% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 25% ac yn is na 30%
  • 30% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 30% ac yn is na 40%
  • 40% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 40% ac yn is na 50%
  • 50% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 50% ond yn llai na 60% 
  • 60% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 60% ond yn llai na 75%, a
  • 75% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 75% neu fwy

Cymorth i fyfyrwyr ar gyrsiau’r GIG

Gweler Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am wybodaeth gynhwysfawr.

O flwyddyn academaidd 2024 i 2025 ymlaen, bydd pob myfyrwyr cymwys llawnamser ar gyrsiau gofal iechyd (gan gynnwys meddygaeth a deintyddiaeth) yn gallu gwneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth yn ystod eu blynyddoedd bwrsariaeth.

Meddygaeth a deintyddiaeth

Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth yn cael ei ddarparu gan y GIG a Llywodraeth Cymru (drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru). Darperir cymorth y GIG ar ffurf bwrsarïau nad oes rhaid eu had-dalu a chymorth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar ffurf benthyciadau i’w had-dalu. 

Cyrsiau llawnamser pedair blynedd

Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth ar gael i’r rhai ar gyrsiau mynediad carlam i raddedigion, sy’n gyrsiau pedair blynedd.

Mae cymorth ffioedd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys benthyciad ffioedd o hyd at £6,070 drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr ariannu gweddill y ffi dysgu eu hunain, nid oes bwrsari ffioedd dysgu ar gael gan y GIG. Yn y blynyddoedd canlynol (blynyddoedd dau i bedwar), telir bwrsari ffioedd dysgu gan y GIG o hyd at £3,465 ac mae benthyciad ffioedd dysgu o hyd at £6,070 ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru i dalu gweddill y ffi dysgu. 

Mae cymorth cynhaliaeth yn cynnwys cymysgedd o fenthyciad i’w ad-dalu gan Cyllid Myfyrwyr Cymru a bwrsarïau nad oes angen eu had-dalu gan y GIG. Gall myfyrwyr wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn un, nid oes bwrsari ar gael gan y GIG. Ym mhob un o'r blynyddoedd dilynol (blynyddoedd dau a phedwar), darperir cymorth gan y GIG drwy fwrsari nad oes yn angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Cyrsiau llawnamser pum mlynedd

Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth ar gael i’r rhai ar gyrsiau pum mlynedd.

Darperir cymorth ffioedd o’r flwyddyn gyntaf i’r bedwaredd ar ffurf benthyciad (hyd at yr uchafswm statudol o £9,535). Bwrsari’r GIG nad oes angen ei ad-dalu yw’r cymorth ffioedd yn y bumed flwyddyn. Os oes gan fyfyriwr radd anrhydedd o sefydliad yn y DU ni fydd yn gymwys am gymorth benthyciad ffioedd ar gyfer cwrs pum mlynedd.

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs meddygol/deintyddiaeth pum mlynedd fel gradd israddedig gyntaf yn gymwys i wneud cais am grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth ar sail prawf modd ym mlynyddoedd 1 i 4 o’r cwrs, nid oes bwrsari ffioedd dysgu ar gael gan y GIG. Ym mlwyddyn 5 y cwrs, darperir cymorth cynhaliaeth gan y GIG trwy fwrsariaeth nad oes angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Ar gyfer myfyrwyr amser llawn cymwys sy'n ymgymryd â chyrsiau meddygaeth/deintyddiaeth pum mlynedd fel ail radd neu radd israddedig ddilynol, gallant wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth yn unig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlynyddoedd un i bedair o'r cwrs, nid oes grant cynhaliaeth ar gael iddynt gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Ym mlwyddyn pump, darperir cymorth cynhaliaeth gan y GIG drwy fwrsari nad oes angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Telir ffioedd myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr iechyd proffesiynol cymwys eraill sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n astudio yng Nghymru yn llawn gan fwrsariaeth y GIG.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cynnwys Ceiropodryddion (yn cynnwys Podiatryddion), Dietegwyr, Radiograffwyr, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Hylenwyr deintyddol, Gwyddonwyr gofal iechyd, Parafeddygon, Therapyddion deintyddol, Therapyddion galwedigaethol a Ffisiotherapyddion.

Mae’r cymorth cynhaliaeth ar ffurf bwrsari gan y GIG nad oes angen ei ad-dalu. Gall myfyrwyr cymwys ar radd israddedig gyntaf a myfyrwyr cymwys ar ail radd neu radd israddedig ddilynol, hefyd fod yn gymwys i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Ers 2018 i 2019, rhaid i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n gwneud cais am fwrsari’r GIG ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. 

Nid yw myfyrwyr nad ydynt yn ymrwymo i'r cyfnod o ddwy flynedd, neu sy'n astudio y tu allan i Gymru, yn gymwys i gael bwrsari'r GIG a gallant wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am y pecyn cymorth i fyfyrwyr amser llawn neu ran-amser, yn amodol ar fodloni'r rheolau astudio blaenorol. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys i gael grantiau a lwfansau eraill gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Tablau eglurhaol

Tabl 1A: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3705,1613,8589,019
20,0004,7154,0818,796
25,0003,3474,7658,112
26,5002,9364,9707,906
30,0002,0995,3897,488
34,0001,1425,8677,009
40,0007346,0716,805
45,0003936,2426,635
50,020506,4136,463
50,75306,4386,438
55,00005,5895,589
58,67504,8294,829
  • Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 o incwm ychwanegol. Gweler tabl 3.
  • Caiff swm y benthyciad y mae myfyrwyr yn gymwys i'w gael ei ostwng 50c am bob £1 o'r grant y mae ganddynt hawl iddo, hyd at uchafswm o £2,580. Yn ogystal, os yw incwm gweddilliol aelwydydd yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad yn cael ei ostwng £1 am bob £5 cyflawn y mae’r incwm yn fwy na £50,753 nes bod 75% o'r benthyciad llawn ar ôl.
  • Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Tabl 1B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3705,1619,07014,231
20,0004,7159,29314,008
25,0003,3479,97713,324
26,5002,93610,18213,118
30,0002,09910,60112,700
34,0001,14211,07912,221
40,00073411,28312,017
45,00039311,45411,847
50,0205011,62511,675
50,753011,65011,650
55,000010,80110,801
65,08608,7388,738
  • Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
  • Caiff swm y benthyciad y mae myfyrwyr yn gymwys i'w gael ei ostwng 50c am bob £1 o'r grant y mae ganddynt hawl iddo, hyd at uchafswm o £2,580. Yn ogystal, os yw incwm gweddilliol aelwydydd yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad yn cael ei ostwng £1 am bob £5 cyflawn y mae’r incwm yn fwy na £50,753 nes bod 75% o'r benthyciad llawn ar ôl.
  • Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Tabl 1C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3705,1615,73710,898
20,0004,7155,96010,675
25,0003,3476,6449,991
26,5002,9366,8499,785
30,0002,0997,2689,367
34,0001,1427,7468,888
40,0007347,9508,684
45,0003938,1218,514
50,020508,2928,342
50,75308,3178,317
55,00007,4687,468
60,98606,2386,238
  • Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
  • Caiff swm y benthyciad y mae myfyrwyr yn gymwys i'w gael ei ostwng 50c am bob £1 o'r grant y mae ganddynt hawl iddo, hyd at uchafswm o £2,580. Yn ogystal, os yw incwm gweddilliol aelwydydd yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad yn cael ei ostwng £1 am bob £5 cyflawn y mae’r incwm yn fwy na £50,753 nes bod 75% o'r benthyciad llawn ar ôl.
  • Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Tabl 2A Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth i'r rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3705,1616,43811,599
20,0004,7156,43811,153
25,0003,3476,4389,785
26,5002,9366,4389,374
30,0002,0996,4388,537
34,0001,1426,4387,580
40,0007346,4387,172
45,0003936,4386,831
50,020506,4386,488
50,75306,4386,438
55,00005,5895,589
58,67504,8294,829
  • Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
  • Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Tabl 2B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3705,16111,65016,811
20,0004,71511,65016,365
25,0003,34711,65014,997
26,5002,93611,65014,586
30,0002,09911,65013,749
34,0001,14211,65012,792
40,00073411,65012,384
45,00039311,65012,043
50,0205011,65011,700
50,753011,65011,650
55,000010,80110,801
65,08608,7388,738
  • Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
  • Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tablau bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Tabl 2C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3705,1618,31713,478
20,0004,7158,31713,032
25,0003,3478,31711,664
26,5002,9368,31711,253
30,0002,0998,31710,416
34,0001,1428,3179,459
40,0007348,3179,051
45,0003938,3178,710
50,020508,3178,367
50,75308,3178,317
55,00007,4687,468
60,98606,2386,238
  • Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3. 
  • Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tablau bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Tabl 3: Asesiad o gyfraniad aelwyd yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)

Incwm aelwydCyfraniad
50,7530
51,00049
52,000249
53,000449
54,000649
55,000849
56,0001,049
57,0001,249
58,0001,449
59,0001,649
60,0001,849
61,0002,049
62,0002,249
63,0002,449
64,0002,649
65,0002,849
66,0003,049
67,0003,249
68,0003,449
69,0003,649
70,0003,849
71,0004,049
72,0004,249
73,0004,449
74,0004,649
75,0004,849
76,0005,049
77,0005,249
78,0005,449
79,0005,649
80,0005,849
81,0006,049
81,7936,208

Termau

Darparwr cyffredin

Darparwr y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi gan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr. Gweler rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2017, a rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

Darparwr preifat

Darparwr y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio eu pwerau yn y rheoliadau. Gweler rheoliad 5(8) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Cymru) 2017, a rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (a elwir hefyd yn Taith)

Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Taith sy'n ariannu cyfleoedd rhyngwladol i ddarparwyr addysg ac ieuenctid yng Nghymru. Mae'n cefnogi cyfleoedd cyfnewid allanol a mewnol i fyfyrwyr a staff.

Turing

Mae Cynllun Turing yn rhaglen Llywodraeth y DU i ddarparu arian ar gyfer cyfleoedd rhyngwladol allanol mewn addysg a hyfforddiant.

Cartref rhiant

Mae’r myfyriwr yn byw yng nghartref ei riant wrth ddilyn y cwrs cyfredol.

Astudio oddi cartref, yn Llundain

Mae’r myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref ei riant tra fydd yn:

  • dilyn cwrs ym Mhrifysgol Llundain
  • yn dilyn cwrs mewn sefydliad sy’n gofyn am bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd ar safle sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn Llundain ble mae o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r cwrs yn cael ei ddarparu mewn safle o’r fath, neu
  • yn dilyn cwrs rhyngosod yn y flwyddyn academaidd mewn sefydliad sy’n gofyn i’r myfyrwyr gwblhau profiad gwaith, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn Llundain lle mae’r profiad gwaith hwnnw neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn cael ei wneud am o leiaf hanner unrhyw chwarter

Astudio oddi cartref, yn rhywle arall

Mae’r myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref ei riant ond nid yw’n astudio yn Llundain, yn cynnwys mynychu sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o gwrs y myfyriwr neu’n cwblhau lleoliad gwaith tramor mewn blwyddyn Erasmus+/Turing/ILE (a elwir yn TAITH).

Prawf modd

Mae hyn yn golygu bod y cymorth a ddarperir yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.

Dim prawf modd

Mae hyn yn golygu nad yw'r cymorth a ddarperir yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.