Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg Cymru: 9 Hydref 2024
Cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar on 9 Hydref 2024 ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Presenoldeb
Glyn Hewinson, cadeirydd
Dai Grove-White, aelod
Gareth Edwards, aelod
Gareth Enticott, aelod
Gwenllian Rees, aelod
Ifan Lloyd, aelod
Keith Cutler, aelod
Robert Smith, aelod
Sarah Tomlinson, aelod
Sarah Woollatt, aelod
Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru
Ysgrifenyddiaeth
Cofnodwr
Siaradwyr gwadd/arsylwyr:
Cynrychiolwyr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Cynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
Cynrychiolydd Undeb Amaethwyr Cymru
Cynrychiolydd Iechyd da
Cynrychiolydd Mentera
Swyddogion Llywodraeth Cymru
1. Croeso gan y Cadeirydd a chadw tŷ
Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am roi o'u hamser, eu harbenigedd a'u gwaith amserol a gwerthfawr ers y cyfarfod diwethaf.
Cyfleodd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan gynrychiolydd APHA a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru am beidio â gallu bod yn bresennol yn bersonol.
Rhoddodd y Cadeirydd y newyddion diweddaraf i'r grŵp ar:
- syflwyno'r gofod gwaith a rennir
- sefydlu Bwrdd y Rhaglen TB. Bydd cyfarfod nesaf y Grwp Cynghori Technegol ar 23 Ionawr yn gyfarfod ar y cyd â Bwrdd y Rhaglen TB a bydd yn adolygu'r targedau 6 mlynedd i ddileu TB Buchol
- gwrthdaro buddiannau. Ni ddatganwyd unrhyw rai ychwanegol.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Cadarnhawyd cyfarfodydd yn y dyfodol fel a ganlyn:
- Dydd Iau 23 Ionawr 2025
- Dydd Iau 10 Ebrill 2025
- Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025
- Dydd Iau 16 Hydref 2025
2. Diweddariad Llywodraeth Cymru ac APHA ar rannu data profion croen
Cyflwynwyd diweddariad ar rannu data profion croen TB i TAG ar ran Llywodraeth Cymru gan Filfeddyg ac Ystadegydd Llywodraeth Cymru a oedd yn mynd i'r afael â:
- beth y gellid ei ddarparu i geidwaid nawr a'r risgiau
- beth y gellid ei ddarparu i sefydliadau rhanddeiliaid nawr a'r risgiau
- beth y gellid ei ddarparu o dan fesurau llywodraethu a diogelu data priodol
- beth y gellid ei ddarparu yn y dyfodol
Cafodd yr aelodau gyfle i gael sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.
Diolchodd y Cadeirydd am y cyflwyniad clir a gwerthfawr, ac ymgysylltiad y Grwp Cynghori Technegol â phwnc cymhleth.
3. Cyflwyniad epidemioleg APHA
Cyflwynodd cynrychiolwyr o APHA eu hunain a chyflwynodd gyflwyniad ar gefnogaeth epidemiolegol bosibl y gallent ei darparu i’r Grŵp a oedd yn cynnwys:
- dulliau ôl-weithredol sy'n defnyddio data a llenyddiaeth sy'n bodoli eisoes
- dulliau blaengar gan gynnwys modelu TB buchol ac effaith ymyriadau rheoli.
- dylunio hapdreialon rheoledig
- offer ar gyfer rheoli achosion sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- offer sy'n dod i'r amlwg a defnydd newydd o offer presennol
- epidemioleg moleciwlaidd
Diolchodd y Cadeirydd i APHA am fod yn bresennol ac am gyflwyniad defnyddiol a chraff.
4. Cynnig ar gyfer creu dosbarthiad o achosion TB
Cyflwynodd aelod o’r Grŵp gynnig i greu system ddosbarthu ar gyfer achosion TB ar lefel unigol a buches fel ffordd o gyfleu risg clefydau yn well i ffermwyr a milfeddygon.
Trafododd yr aelodau y cysyniad a chytunwyd y dylid bwrw ymlaen â hyn drwy weithdy gyda rhanddeiliaid i gyd-greu system ddosbarthu addas.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am gyfrannu at y drafodaeth a'r aelod am ddod â'r cynnig i'r grŵp.
5. Rôl diwydiant wrth ddileu TB
Cyflwynodd aelod o’r Grŵp gynnig i archwilio pa rôl bellach y gallai diwydiant a llywodraeth ei chwarae wrth ddileu TB.
- cynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid i rannu syniadau
Trafododd yr Aelodau y cysyniad a chytunwyd mai'r cam nesaf ddylai fod yw cynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid i archwilio'r mater ymhellach a dywedodd na ddylai'r llywodraeth arwain hyn.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am drafodaethau cynhyrchiol ac i'r aelod am ddod â'r cynnig i'r grŵp.
6. Cyflwyniad i adolygiad o bolisi Adweithydd Amhendant
Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru y pwnc a rhoi cefndir i bolisïau cyfredol.
7. Tystiolaeth gan Iechyd da a Mentera
Roedd cynrychiolwyr o Iechyd da a Mentera yn bresennol i gyflwyno eu safbwyntiau ar bolisïau Adweithydd Amhendant ac ateb cwestiynau gan aelodau.
Diolchodd y Cadeirydd i Iechyd da a Mentera am eu cyfraniadau i'r drafodaeth a phwysleisiodd bwysigrwydd cyfraniadau milfeddygol i ystyriaethau'r Grŵp Cynghori Technegol.
8. Tystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) a Sesiwn Holi ac Ateb
Trafododd cynrychiolydd o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) y papur yr oeddent wedi'i gyflwyno i'r Grŵp ar bolisi adweithyddion amhendant ac atebodd gwestiynau gan aelodau.
Diolchodd y Cadeirydd i UAC am eu cyfraniad gwerthfawr ac am fod yn bresennol.
9. Holi ac Ateb gydag Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
Bu cynrychiolwyr o Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU Cymru) yn trafod y papur yr oeddent wedi'i gyflwyno i'r Grŵp ar bolisi adweithyddion amhendant gan ateb cwestiynau aelodau.
Diolchodd y Cadeirydd i NFU Cymru am eu cyfraniad gwerthfawr ac am fod yn bresennol.
10. Holi ac Ateb APHA
Cyflwynodd cynrychiolydd o APHA gymhlethdodau, goblygiadau, risgiau a chyflawnadwyedd newidiadau i bolisi.
Cododd aelodau'r Grŵp gwestiynau a thrafod materion a nodwyd mewn papur a gynhyrchwyd gan APHA ar oblygiadau newidiadau i bolisi'r AA yng Nghymru, gan gynnwys gwahaniaethau mewn polisi rhwng Cymru a Lloegr.
Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd APHA am y cyflwyniad llawn gwybodaeth.
11. Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a sesiwn holi ac ateb
Rhoddodd Brif Swyddog Milfeddygol Cymru gyflwyniad, gan ailadrodd annibyniaeth y grŵp a'r angen i gydbwyso'r risg.
Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar adweithyddion amhendant gan gynnwys tystiolaeth o risg o AA safonol, AA safonol wedi’u datrys, AA llym ac AA llym wedi’u datrys wedi'u darllen o dan amodau llym wrth brofi'n bositif yn ddiweddarach o'i gymharu ag anifeiliaid sy'n profi yn glir.
Cafodd yr aelodau sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.
Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr LlC am bapur defnyddiol iawn a oedd yn amlinellu'n glir y risg uwch sy'n gysylltiedig ag AA safonol a llym.
12. Trafod polisïau adweithyddion amhendant yng Nghymru
Trafododd yr Aelodau dystiolaeth a glywyd ac ystyriwyd opsiynau posibl wrth ystyried:
- amserlenni
- cyfathrebu
- ymarferoldeb cyflawni'r cynllun
- risg a lliniaru risg
- canlyniadau anfwriadol
- tystiolaeth o effaith (gymdeithasol a gwyddonol)
Cytunodd yr Aelodau i lunio papur cynghori ar Bolisi Adweithyddion Amhendant yng Nghymru ar gyfer cyfarfod cyntaf Bwrdd Rhaglen TB.
13. Unrhyw faterion eraill
Nid oedd unrhyw faterion eraill.
14. Sylwadau cloi
Bydd y cyngor ar yr Adweithydd Amhendant yn cael ei anfon at fwrdd y Rhaglen iddynt ei ystyried yn eu cyfarfod cyntaf ar 3 Rhagfyr 2024.
Diolchodd y Cadeirydd a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru i'r aelodau a'r siaradwyr a daeth y cyfarfod i ben.
Dyddiad y cyfarfod nesaf: Dydd Iau 23 Ionawr 2025