Mae Tai ar y Cyd, sy'n gydweithrediad â 23 o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, wedi cynhyrchu llyfr patrymau arloesol a fydd yn helpu i wneud adeiladu cartrefi yng Nghymru yn fwy cynaliadwy, ynni-effeithlon a chost effeithiol.
Mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer 15 math o dai ac 18 amrywiolyn, yn amrywio o fflatiau 1 ystafell wely a thai 4 ystafell wely i fyngalos a fflatiau sy'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae manteision y llyfr patrymau newydd yn cynnwys cartrefi o ansawdd uwch, adfywio economaidd, proses adeiladu gyflymach, defnyddio deunyddiau carbon isel, sicrwydd cost, llai o wastraff, a llai o darfu ar gymunedau.
Mae canllaw dylunio hefyd yn cael ei lansio i gefnogi timau dylunio sy'n defnyddio'r llyfr patrymau gyda dylunio datblygiadau o ansawdd uchel sy'n ategu'r ardal a'r cyd-destun lleol.
Bydd y cartrefi newydd yn defnyddio deunyddiau naturiol, gan gynnwys pren sy'n dod yn fwyfwy o goedwigoedd Cymru ac yn cael eu gweithgynhyrchu mewn ffatrïoedd yng Nghymru lle bo hynny'n bosibl.
Mae'r cartrefi hefyd wedi'u cynllunio i fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru a Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Mae'r dull hwn yn sicrhau bod buddsoddiad mewn cartrefi newydd yn cyfrannu at adfywio economaidd lleol drwy gefnogi busnesau lleol a chreu swyddi gwyrdd a chyfleoedd hyfforddi.
Bydd y llyfr patrymau a'r canllaw dylunio yn cael eu datgelu'n swyddogol ar 15 Ionawr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Abertawe.
Cyn y lansiad, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â Celtic Offsite yng Nghaerffili, menter gymdeithasol o fewn Grŵp United Welsh sy'n gweithgynhyrchu cartrefi pren o'u ffatri.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae Tai ar y Cyd yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi cynaliadwy a fforddiadwy yma yng Nghymru.
Gwyddom fod gwir angen cartrefi o ansawdd da ac ynni effeithlon ar draws ein cymunedau ac mae'r llyfr patrymau arloesol hwn yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar ddatblygwyr iddynt i adeiladu cartrefi'n gyflymach a chyflawni yn erbyn ein targed o adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r gwaith o ddarparu'r adnoddau hyn i gefnogi ein heconomïau lleol, tyfu nifer y swyddi medrus ledled Cymru a chynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy.
Dywedodd Richard Mann, Prif Weithredwr Grŵp United Welsh:
Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'n ffatri fframiau pren, Celtic Offsite.
Bydd y cynlluniau tai safonol gan Tai ar y Cyd yn ein galluogi i fod yn fwy effeithlon yn ein prosesau gweithgynhyrchu, fel y gallwn adeiladu mwy o gartrefi ar gyfradd gyflymach ar gyfer cymdeithasau tai a phartneriaid awdurdodau lleol.
Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r cynlluniau i adeiladu mwy o gartrefi y mae mawr eu hangen i bobl eu mwynhau ledled Cymru.