Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn dweud wrth gynhadledd y bydd ‘bob amser yn sefyll dros ddyfodol teg a chynaliadwy i ffermwyr’.
Wrth siarad yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen 2025 (OFC25), mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi amlinellu sut mae'n rhaid inni weithredu heddiw i baratoi a helpu i sicrhau bod dyfodol y diwydiant yn gadarn ac yn ddiogel.
Mae OFC25 yn canolbwyntio ar ‘Wynebu Newid, Dod o Hyd i Gyfleoedd’, gan dynnu sylw at sut y gall heriau heddiw ym maes amaethyddiaeth sbarduno atebion arloesol. Wrth siarad o OFC25, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Mae amrywiaeth o heriau yn wynebu'r diwydiant, o brisiau ynni i glefydau anifeiliaid a mwy. Ac nid yw'r ffaith bod fy mhortffolio yn cynnwys Materion Gwledig a Newid yn yr Hinsawdd yn gyd-ddigwyddiad. Mae hinsawdd sy'n newid a thywydd eithafol eisoes yn effeithio ar ffermydd Cymru, eu priddoedd, eu cyrsiau dŵr a'u da byw.
Bydd y newidiadau hyn yn dwysáu ac ymhen deg, ugain mlynedd, heb sôn am hanner can mlynedd, a bydd ffermwyr y dyfodol yn wynebu amodau mwy heriol byth. Rhaid inni weithredu heddiw i baratoi ar gyfer yr effeithiau hyn a helpu i sicrhau bod dyfodol y diwydiant yn gadarn ac yn ddiogel.
Bydd y newid i economi wedi'i datgarboneiddio yn her ar gyfer ein cymdeithas gyfan – ac mae hynny'n cynnwys ffermwyr. Ond mae hefyd yn creu cyfleoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â ffermwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny.
Ac i fi, mae'r ymrwymiad hwnnw yn bersonol - mae'n rhan o sut rwy'n gweld y byd. Fel llanc ifanc yn tyfu i fyny yn Ne-orllewin Cymru, byddwn yn edrych o'n tŷ ac yn gweld y gwaith dur a'r tir fferm y tu hwnt fel rhan o'r un dirwedd, a'r un gymuned o bobl a oedd yn byw ac yn gweithio gyda'i gilydd. Mae ffermio yn rhan annatod o Gymru, ein swyddi a'n ffordd o fyw. Rwyf bob amser wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i fod ar ochr pobl sy'n gweithio, ac mae hynny'n cynnwys pobl sy'n gweithio'n galed o ddydd i ddydd, yn gofalu am dir a da byw ac yn cynhyrchu'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta. Dyna pam bydda i bob amser yn sefyll dros ddyfodol teg a chynaliadwy i ffermwyr.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau amlinellol wedi'u diweddaru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ym mis Tachwedd.
Mae'r newidiadau'n ymateb i anghenion ffermwyr Cymru ar yr un pryd â'u helpu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gadw at yr ymrwymiadau mewn perthynas â newid hinsawdd a natur.
Mae partneriaeth wedi bod yn allweddol i ddatblygu cynigion i sicrhau bod y cynllun yn hygyrch ac y gellir ei gyflawni, a diolchodd y Dirprwy Brif Weinidog i randdeiliaid ffermio am eu cyfraniad sylweddol hyd yn hyn. Bydd y penderfyniad ar y Cynllun terfynol yn cael ei wneud nes ymlaen eleni, ar sail rhagor o drafodaethau yn y cyfarfodydd bord gron gweinidogol ac ar sail tystiolaeth, gan gynnwys y dadansoddiad economaidd a'r asesiad effaith.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Mae cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy bob amser wedi bod yn ganolog i gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae'n parhau i fod. Ac mae'n rhaid inni wneud cynnydd ystyrlon o ran lliniaru ac addasu i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Rydyn ni'n benderfynol o ddylunio cynllun sy'n gwneud y ddau; mae'n rhaid inni gymryd camau nawr i ddiogelu ein gallu i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol yng ngoleuni effeithiau'r hinsawdd.
Rydyn ni'n bwriadu cyflwyno'r SFS yn 2026, ac mae llawer i'w ennill gan y diwydiant ffermio yng Nghymru; gallwn greu sector llewyrchus lle mae swyddi a busnesau yn sicr ac yn ddiogel, sy'n helpu i ddiogelu ac adfer yr amgylchedd, ac yn parhau i roi bwyd ar fyrddau aelwydydd ledled y wlad.
Byddwn yn parhau i gydweithio â'r sector ac rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i wrando ar ein rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw. Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn sicrhau diwydiant ffermio llewyrchus a chynaliadwy nawr ac ar gyfer ffermwyr Cymru yn y dyfodol.