Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn 2018-19. Mae’r rhain yn cynnwys y dyraniadau cyllid refeniw craidd dros dro ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.
Gan nad yw plismona wedi’i ddatganoli, bydd trefniant tair ffordd i’r cyllid ar gyfer heddluoedd Cymru, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor.
Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei selio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.
Fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref unwaith eto wedi penderfynu defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl setliad gwastadar gyfer 2018-19 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2017-18.
Bydd y cyfanswm cymorth i heddluoedd yng Nghymru yn £349.9 miliwn. O fewn y swm hwn, rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2018-19 yn £140.9 miliwn. Mae cyhoeddiad heddiw’n nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 16 Ionawr 2018. Yn dilyn hyn, gall dyraniadau gael eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.