Cyhoeddi Datganiad am y Weithdrefn Ymchwilio (WGC 013/2024)
Diben y cylchlythyr hwn yn rhoi gwybod ichi bod Datganiad am Weithdrefn Ymchwilio wedi cael ei gyhoeddi o dan A58Z3 o Ddeddf Adeiladu 1984.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y Cylchlythyr: WGC 013/2024
Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2025
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Cyhoeddi Datganiad am y Weithdrefn Ymchwilio
Issued by: Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheolaeth Adeiladu
Wedi'i gyfeirio at:
Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Adrannau Rheolaeth Adeiladu’r Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd
Crynodeb:
Diben y cylchlythyr hwn yn rhoi gwybod ichi bod Datganiad am Weithdrefn Ymchwilio wedi cael ei gyhoeddi o dan A58Z3 o Ddeddf Adeiladu 1984.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Lawr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell Uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.wales
Gwefan: building and planning
Cyflwyniad
1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at y ffaith bod Datganiad am Weithdrefn Ymchwilio wedi'i gyhoeddi ar llyw.cymru.
2. Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at y ddogfen honno ac esbonio'i phwrpas.
Cwmpas y Cylchlythyr hwn
3. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Datganiad am y weithdrefn ymchwilio
4. O dan adran 58Z3(2) o Ddeddf Adeiladu 1984, rhaid i'r awdurdod rheoleiddio baratoi a chyhoeddi datganiad am y weithdrefn y bydd yn ei dilyn wrth ymchwilio i awdurdod neu gymeradwywr o dan yr adran honno (rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys cyfle i'r awdurdod neu'r apelydd gyflwyno sylwadau).
5. Mae'r datganiad wedi cael ei baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar llyw.cymru, ac mae'n amlinellu'r broses y byddwn yn ei dilyn pan fyddwn yn dod i wybod am sefyllfa lle y gallai awdurdod lleol fod wedi gweithredu'n groes i'r Rheolau Safonau Gweithredol.
6. Yn achos ymchwiliad i Gymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu, rydym wedi dynodi'r swyddogaeth honno i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR) ac mae ef wedi cyhoeddi datganiad ar gov.uk.
Ymholiadau
Oes oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech ei hanfon at:
Rheoliadau Adeiladu,
2il Lawr,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu