Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir

Gwnaethom gyhoeddi ein canllawiau statudol yn ddiweddar ar ddysgu 14 i 16 oed o dan y Cwricwlwm i Gymru er mwyn cefnogi ymarferwyr i ddylunio, gweithredu ac adolygu cwricwlwm cynhwysol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 fel rhan o'r cwricwlwm 3 i 16 oed. Mae'r canllawiau'n amlinellu ‘Hawl i Ddysgu 14 i 16’, lle y mae'n rhaid i arlwy cwricwlwm ysgol ym Mlynyddoedd 10 ac 11 ddarparu proffil dysgu a phrofiad eang a chytbwys wedi'u dylunio gan gyfeirio at 4 elfen: 

  • cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
  • cymwysterau i annog ehangder
  • dysgu a phrofiadau ehangach ym mhob rhan o'r cwricwlwm
  • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16

Mae'r canllawiau'n cyfeirio at ‘ecosystem wybodaeth’ ddiwygiedig’ ac yn mynegi ein bwriad am ofynion gwybodaeth cefnogol a threfniadau adrodd sy'n gyson â blaenoriaethau a nodau'r hawl i ddysgu 14 i 16. Gwnaethom ymrwymo i ymgynghori ar y cynigion hyn, gan roi cyfeiriad clir o ran ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio a chyhoeddi data perthnasol ar lefel ysgol.

Mae data a gwybodaeth yn chwarae rhan allweddol mewn prosesau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Fodd bynnag, er mwyn cefnogi gwelliant mewn dysgu yn wirioneddol, rhaid iddynt fod yn briodol i'w defnyddio a chael eu defnyddio'n briodol. Byddwn yn aml yn cyfeirio at y berthynas rhwng beth yw'r data a ddefnyddir a sut y cânt eu defnyddio fel yr ‘ecosystem wybodaeth’.

Rydym yn cydnabod bod angen i Lywodraeth Cymru osod disgwyliadau clir ar gyfer defnyddio data ac unrhyw ofynion penodol. Bydd hyn yn helpu i feithrin ffordd briodol a chymesur o ddefnyddio data ym mhob rhan o'r system ysgolion, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig a ble y gallant gael effaith o ran sbarduno gwelliannau ar gyfer ein dysgwyr a helpu i wireddu ein dyheadau polisi.

Mae gwaith ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd yn llywio ein dull. Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd ar ddechrau 2023, wedi arwain y gwaith o ddatblygu ein cynigion yn ogystal ag ymgysylltu â'n partneriaid.

Ein nod yw hyrwyddo dull cytbwys sy'n defnyddio data meintiol ochr yn ochr â ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys rhai meintiol ac ansoddol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gan bartneriaid ac arbenigwyr, gan ganolbwyntio ar ganfod a deall materion a ffactorau sylfaenol er mwyn diwallu anghenion amrywiol ein dysgwyr a'n hysgolion. Rydym am i ddata a gwybodaeth gael eu defnyddio mewn ffordd sy'n cefnogi ymdrechion i sicrhau'r gorau ar gyfer ein dysgwyr a'n dinasyddion ac sy'n galluogi ein gweithlu. Rydym hefyd am wella dealltwriaeth y cyhoedd o ddysgu drwy lunio darlun mwy ystyrlon a chynhwysfawr o ysgolion, a hynny mewn ffordd hygyrch. Dylai ein ffocws ar ddata gefnogi dealltwriaeth heb roi baich ychwanegol ar y gweithlu. Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru ymwreiddio, rydym am i'n dull diwygiedig o ddefnyddio data a gwybodaeth fod yn gynaliadwy a sicrhau cydbwysedd hirdymor ym mhob rhan o'r system. 

Camau Arfaethedig

Rydym wedi datblygu rhestr o egwyddorion sy'n sail i'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth fel rhan o Ecosystem Wybodaeth ddiwygiedig a, thrwy gymhwyso'r egwyddorion hyn, lluniwyd Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 sy'n amlinellu'r wybodaeth a fydd ar gael yn gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys:

  • yr ymgeisiau, y gwobrau a'r data presenoldeb y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi fel mater o drefn, gan gynnwys pa gymwysterau a sut bydd y wybodaeth yn cael ei chyflwyno a'i chrynhoi
  • y wybodaeth ehangach y bydd disgwyl i ysgolion ei chyhoeddi

Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â'r Hawl i Ddysgu 14 i 16, sy'n cynnwys cymysgedd o wybodaeth am gynlluniau, gofynion a disgwyliadau sy'n berthnasol i bedair elfen Hawl i Ddysgu 14 i 16 a fydd yn cefnogi dealltwriaeth o ehangder, dyfnder, lefel a graddfa dysgu mewn ysgol ac ar draws grwpiau gwahanol o ddysgwyr.

Dyluniwyd y cynigion i wella tryloywder, gan wella dealltwriaeth y rhieni, gofalwyr a dinasyddion drwy lunio darlun mwy ystyrlon a chynhwysfawr o ysgolion, a hynny mewn ffordd hygyrch. 

Mae Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 hefyd yn amlinellu cynlluniau i barhau i adrodd ar setiau data mwy cynhwysfawr ar gyfer ysgolion a chynulleidfaoedd o fewn awdurdodau lleol (ALlau), fel y bydd modd iddynt eu harchwilio ymhellach er mwyn eu helpu i hunanwerthuso a gwella prosesau.

Mae'r cynigion hyn yn integreiddio â'r Rhaglen Lywodraethu, gan gefnogi'r amcan llesiant i ‘barhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi’ yn ogystal ag ymrwymiadau sy'n gysylltiedig â chefnogi ysgolion ac athrawon, gan leihau beichiau diangen a chefnogi rôl yr awdurdodau lleol.

Dyluniwyd y cynigion yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy a'r 5 ffordd o weithio. Yn greiddiol iddynt, mae'r egwyddorion sylfaenol yn sicrhau dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr lle y mae anghenion, cynnydd a llesiant dysgwyr yn arwain pob penderfyniad. Mae hyn yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd ein dull yn cael effaith niweidiol ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.

Mae'r cynigion yn adlewyrchu'r cydweithrediad parhaus â rhanddeiliaid ac yn ystyried yr ymchwil sydd ar gael, gan gynnwys datblygu ymchwil i ddata ac ecosystem wybodaeth newydd. Maent yn integreiddio ag ethos y Cwricwlwm i Gymru a'n Fframwaith Gwella Cenedlaethol ategol, gan gefnogi meysydd polisi strategol eraill hefyd, gan gynnwys ein huchelgeisiau tegwch, Cymraeg 2025 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dyluniwyd y cynigion gan ystyried atal, gyda'r nod o atal rhai o'r goblygiadau anfwriadol a welir mewn elfennau o'r system bresennol. Er enghraifft, maent yn pennu disgwyliadau clir o ran defnyddio data, gan gynnwys ymrwymiad i fod yn ddisgrifiadol, nid Beirniadol yn y defnydd o ddata, a dyluniwyd y dull a amlinellir yn Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 ar gyfer cyhoeddi data canlyniadau arholiadau i gyflawni hyn. Rydym yn datgan yn glir, er bod gwybodaeth yn bwysig er mwyn helpu ysgolion i ddeall eu dysgwyr a chefnogi hunanwerthuso a chydweithio, nad ydym yn dymuno dychwelyd at system berfformiadol a arweinir gan atebolrwydd. Dylai ein ffocws ar ddata gefnogi dealltwriaeth heb roi baich ychwanegol ar y gweithlu.

Ymgynghoriad

Bydd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus i geisio safbwyntiau rhanddeiliaid o ran pa mor dda mae'r cynigion hyn yn gyson â'r nodau polisi amrywiol.

Adran 8: casgliad

8.1 Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Mae Egwyddorion yr Ecosystem Wybodaeth a Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 arfaethedig yn ystyried yr ymchwil i ddatblygu data ac ecosystem wybodaeth newydd ac adeiladu arni. Roedd hyn yn cynnwys ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid drwy gyfuniad o gyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon (sy'n cynnwys i rieni, gofalwyr ac ysgolion) a gweminarau. Er mwyn ymgysylltu â sampl mor gynrychioliadol o ysgolion â phosibl ar gyfer yr ymchwil hon, roedd y gwaith o samplu maen prawf yn cynnwys sector, llywodraethu, cyfrwng Cymraeg/Saesneg, canran y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, cymeriad crefyddol a lleoliad, a ddefnyddiwyd wrth ddylunio pob haen o ymgysylltu ag ysgolion. 

Cafwyd ymgysylltiad parhaus wrth ffurfio egwyddorion lefel uchel a Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16, a'r cam nesaf yw ymgynghori ar y rhain, gan roi cyfle i randdeiliaid roi eu barn. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad dros ddwy fersiwn. Mae'r un cyntaf wedi'i anelu at y rheini sy'n gweithio yn y system ysgolion, fel ymarferwyr, arweinwyr, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a'r partneriaid system ysgol, fel Estyn, Cymwysterau Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Bydd yr ail un yn cynnwys fersiwn fyrrach a mwy hygyrch sydd wedi'i hanelu at y cyhoedd gan gynnwys rhieni a gofalwyr. 

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol? 

Dylid defnyddio'r adran hon i helpu i lenwi adran 6 o’r templed Cyngor Gweinidogol 

Mae'r cynigion yn amlinellu rhestr o egwyddorion sy'n sail i'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth fel rhan o Ecosystem Wybodaeth ddiwygiedig, gan gefnogi uchelgeisiau ein Cwricwlwm i Gymru a'r Canllawiau ar Ddysgu 14 i 16 statudol. Mae'r egwyddorion hyn wedi arwain datblygiad ein Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 arfaethedig sy'n amlinellu'r wybodaeth fydd ar gael yn gyhoeddus mewn perthynas â phedair elfen Hawl i Ddysgu 14 i 16 (Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd, Cymwysterau i annog ehangder, Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm, Myfyrdodau ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16). Wrth gefnogi uchelgeisiau Cwricwlwm i Gymru a'i bedwar diben, mae'r cynigion yn cefnogi llawer o'r effeithiau cadarnhaol a nodwyd yn yr amrywiaeth o asesiadau effaith a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020, mewn perthynas â'r Cwricwlwm i Gymru. 

Er bod llawer o'r cynigion yn rhai lefel uchel, mae disgwyl i'w hegwyddorion a'u dull arwain at effeithiau cadarnhaol ar draws ystod o feysydd a asesir fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig hwn. 

Ar flaen y cynigion hyn mae dull sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr lle mae anghenion, cynnydd a llesiant dysgwyr yn arwain pob penderfyniad. Rydym yn amlinellu disgwyliadau clir ar gyfer defnyddio data a gwybodaeth a ddyluniwyd i helpu i feithrin defnydd priodol a chymesur o ddata ar draws system yr ysgol, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig a lle y gall gael effaith o ran ysgogi gwelliannau ar gyfer ein dysgwyr. Disgwylir i hyn arwain at effaith gadarnhaol ar ddysgwyr, drwy addysgu a dysgu gwell. 

Mae Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 arfaethedig yn gyson â hawl dysgwyr14 i 16 oed, sy'n cwmpasu ystod o ddata a gwybodaeth sy'n berthnasol i bob un o'i bedair cydran lle mae angen i ysgolion sicrhau y gall pob dysgwr ddangos a chyfathrebu eu dysgu, cynnydd a chyflawniadau, pan fyddant yn cwblhau addysg orfodol yn 16 oed.

Dyluniwyd Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 i gefnogi ysgolion i gynnig arlwy cynhwysfawr i ddysgwyr, gan gydbwyso'r ddarpariaeth rhwng yr elfennau heb ganolbwyntio'n ormodol ar un agwedd. Mae hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r materion a welwyd yn nulliau'r gorffennol, lle mae ffocws anghymesur ar un ‘mesur’ penodol, ystod graddau a (neu) bod grŵp o ddysgwyr wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol. 

Rhagwelir effaith gadarnhaol ar gyfer rhieni, gofalwyr a dinasyddion cyfrannog sy'n gysylltiedig â'r dull a amlinellir i gyhoeddi data a gwybodaeth sy'n hygyrch ac yn ddealladwy o ran ei gyd-destun. Y bwriad yma yw darparu tryloywder mewn ffordd deg er mwyn helpu i wneud dewisiadau deallus mewn perthynas ag ysgolion. Mae hyn yn adeiladu ar ddull presennol lle mae gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus drwy wefan Fy Ysgol Leol Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adroddiadau Ystadegau Swyddogol ar llyw.cymru a data ar stats.cymru. Fodd bynnag, yn wahanol i'r dull presennol, mae Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn cadarnhau na fydd y data cymwysterau yn cael eu trosi'n sgôr pwyntiau cyfartalog, nad oes modd eu deall yn hawdd, na dangosyddion cyfansawdd, a all guddio amrywiad. Cynigir hefyd na chaiff data a gwybodaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt eu cyflwyno mewn ffordd sy'n awgrymu llwyddiant neu fethiant, ond byddant yn cael eu cyd-destunoli ac, yn hyn o beth, yn gallu cyfleu ble mae gwerth wedi cael ei ychwanegu at y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr.

Mae disgwyl i broses Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 gynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i bedair elfen yr hawl i ddysgu 14 i 16 arwain at effeithiau cadarnhaol ar draws nifer o feysydd o ran darparu dealltwriaeth well a darparu gwybodaeth berthnasol i gefnogi gwerthuso a gwella parhaus. Er enghraifft, yn gysylltiedig â'r elfen ‘Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd’, mae Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn pennu'r gofynion adrodd ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg, sy'n rhan orfodol o'r cwricwlwm i bob blwyddyn ysgol, gan gynnwys Blynyddoedd 10 ac 11. Mae hyn yn cynnwys adrodd ar ymgeisiau a deilliannau yn Gymraeg, gan gynnwys cyfres cymwysterau Cymraeg Gwneud i Gymru. Mae Saesneg, Mathemateg a Rhifedd hefyd wedi'u cynnwys fel rhan o'r elfen hon.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant, a (neu)

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r cynigion yn integreiddio â'r Rhaglen Lywodraethu, gan gefnogi'r amcan llesiant i ‘barhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi’, yn ogystal â'r ymrwymiadau sy'n gysylltiedig â chefnogi ysgolion ac athrawon, gan leihau beichiau diangen a chefnogi rôl yr awdurdodau lleol. 

Mae'r cynigion yn cyfrannu'n fras at y saith nod llesiant, yn fwyaf penodol tuag at Gymru Lewyrchus a Chymru sy'n Fwy Cyfartal drwy helpu i gefnogi poblogaeth fedrus a hyddysg a chymdeithas sy'n galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial dim ots beth yw eu cefndir na'u hamgylchiadau. Nododd y cynigion ddisgwyliadau clir yn ymwneud â defnyddio data a gwybodaeth a fydd yn helpu i feithrin defnydd priodol a chymesur o ddata ar draws system yr ysgol, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig a lle y gall gael effaith o ran ysgogi gwelliannau ar gyfer ein dysgwyr. Yn y pen draw, mae a wnelo hyn â rhoi'r profiadau a'r deilliannau dysgu gorau posibl, beth bynnag yw eu cefndir neu amgylchiadau, er mwyn rhoi'r cyfleoedd a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud cynnydd a chyflawni eu llawn botensial. 

Mae disgwyl i gamau gweithredu yn hyn o beth arwain at effeithiau cadarnhaol canlyniadol ar feysydd amryfal eraill megis busnes a'r economi, a hynny drwy helpu i greu gweithlu hyddysg, ac o ran y Gymraeg, amrywiaeth, llesiant cymdeithasol ac effeithiau ar ysgolion gwledig. 

Fel yr amlinellwyd yn yr adran flaenorol, dyluniwyd y cynigion gan ystyried atal, dysgu o ganlyniadau anfwriadol ar y ddarpariaeth i unigolion a achoswyd gan ddulliau blaenorol, a chymryd camau i'w hosgoi'n weithredol. Caiff hyn ei ddangos drwy'r egwyddorion sylfaenol ac yn y dull o gyhoeddi gwybodaeth am ysgolion. Er enghraifft, drwy geisio peidio â defnyddio un metrig i ddiffinio ‘llwyddiant’, drwy fod yn ddisgrifiadol, ac nid beirniadol, gan sicrhau bod data a gwybodaeth yn hygyrch ac yn ddealladwy, a hyrwyddo defnydd cymesur a phriodol o ddata i gefnogi gwaith dysgu a gwella. 

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Y cam nesaf yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion. Ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben, byddwn yn ystyried yr ymatebion ac yn cadarnhau'r trefniadau a'r camau nesaf yn ystod tymor yr haf 2025. Yn dilyn hyn, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i fireinio cynigion, cadarnhau'r manylion sylfaenol, a datblygu systemau adrodd i gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwneud data ysgolion yn hygyrch i'r cyhoedd. Byddwn yn rhoi trefniadau diwygiedig ar waith wrth i'r dysgwyr yng ngharfan Blwyddyn 11 gyntaf y Cwricwlwm i Gymru gyrraedd diwedd eu haddysg statudol a phan gaiff y cymwysterau diwygiedig eu dyfarnu am y tro cyntaf.