Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gymru berthynas hir ac agos â Japan ers y buddsoddiadau cyntaf yng Nghymru gan gwmnïau o Japan yn y 1970au.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nawr, bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan heddiw yn lansio ‘Cymru a Japan 2025’, ymgyrch blwyddyn o hyd a’r bumed mewn cyfres o ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar wledydd gan Lywodraeth Cymru.

Nod Cymru a Japan 2025 yw ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad, gan ddod â manteision hirhoedlog iddynt.

Yn ogystal â'r lansiad swyddogol yng Nghaerdydd, a gynhelir gan y Prif Weinidog a Llysgennad Japan, mae digwyddiad lansio hefyd yn cael ei gynnal yn Tokyo heddiw.

‌Mae gan Gymru gysylltiadau economaidd hirsefydlog â Japan, yn bennaf o ganlyniad i'r ffaith bod cwmnïau o Japan yn mewnfuddsoddi yng Nghymru ers y 1970au.

Mi fydd cronfa gelfyddydau gwerth £150,000, sy'n cael ei reoli gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, hefyd yn cael ei lansio er mwyn cynnal gweithgareddau yn Japan eleni. Nod y gronfa yw datblygu cydweithrediadau artistig newydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, tra'n cryfhau partneriaethau presennol.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru'n cael ei chynrychioli yn arddangosfa'r World Expo 2025 yn Osaka rhwng mis Ebrill a mis Hydref eleni. Bwriedir cynnal digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar Gymru, gyda chyfraniadau gan berfformwyr o Gymru, a bydd cyfleoedd economaidd yng Nghymru yn cael eu hyrwyddo.

Meddai'r Prif Weinidog:

"Mae cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a Japan sy'n ymestyn yn ôl i'r 19eg ganrif, pan chwaraeodd arloesedd Cymru ran bwysig yn y broses o lunio rhwydwaith trafnidiaeth Japan. Heddiw, mae'r bartneriaeth honno'n ffynnu mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon.

"Bydd 2025 yn flwyddyn i ddechrau sgyrsiau newydd, datblygu cysylltiadau ac agor pennod newydd ar gyfer twf ar y cyd mewn meysydd allweddol. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o'n blaenau eleni i ddathlu a chryfhau'r cysylltiadau chwaraeon, economaidd, addysgol, a diwylliannol rhwng Cymru a Japan."

Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Bydd Cronfa Diwylliant Japan Cymru gwerth £150,000, wedi ei reoli gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei lansio cyn hir ar gyfer gweithgareddau sy’n cysylltu Cymru a Japan elni. Nod y gronfa yw datblygu partneriaethau artistig newydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â chryfhau partneriaethau sy’n bodoli yn barod."

Mae Cymru a Japan 2025 yn dilyn Cymru yn India 2024, a blynyddoedd eraill blaenorol a fu’n canolbwyntio ar Ffrainc, Canada a'r Almaen.