Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar ôl i Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 gael eu tynnu'n ôl ar 19 Medi 2024, gosodwyd offeryn statudol wedi'i ddiweddaru gerbron y Senedd heddiw.
Bydd Rheoliadau drafft Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 ('y rheoliadau drafft') yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer gan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.
Bydd y rheoliadau drafft yn gymwys i 'awdurdodau perthnasol', fel y'u diffinnir yn adran 10A(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac yn datgymhwyso Deddf Caffael 2023 Llywodraeth y DU mewn perthynas â chaffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y rheoliadau drafft yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025 i gyd-fynd ag amseriad cychwyn diwygiadau ehangach o ran caffael cyhoeddus a gyflwynir gan y Ddeddf Caffael.
Ynghyd â'r rheoliadau drafft, ceir canllawiau statudol a deunyddiau hyfforddi. Mae'r dogfennau hyn ar gael i randdeiliaid er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â'r egwyddorion gweithredol cyn y newidiadau arfaethedig i gaffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru.