Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yr 16eg Gynhadledd Partïon ar gyfer y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD COP16) oedd y cyfarfod cyntaf ers mabwysiadu Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF) yn 2022.
Prif gytundeb COP16 oedd cydnabod rôl Pobl Frodorol a Chymunedau Lleol wrth warchod bioamrywiaeth. Sefydlwyd cronfa fyd-eang, a elwir yn 'Gronfa Cali', hefyd i alluogi diwydiannau sy'n elwa ar ddefnyddio gwybodaeth enetig ddigidol i rannu'r manteision hynny â gwledydd sy'n datblygu a Phobl Frodorol a Chymunedau Lleol.
Yn y gynhadledd fe wnaeth gwledydd hefyd dynnu sylw at yr angen i integreiddio cynlluniau cenedlaethol ar fioamrywiaeth a hinsawdd yn well. Mae ein Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru 2024 yn enghraifft wych o sut rydym yn ymateb i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Drwy gynlluniau fel ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) rydym yn cydweithio â'r diwydiant ffermio i leihau ôl troed carbon y sector amaethyddol, i ddal a storio carbon ac i wella gallu tirweddau naturiol Cymru i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, ochr yn ochr â'r gwaith parhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Yn COP16, mynychodd swyddogion Llywodraeth Cymru yr 8fed Uwchgynhadledd ar gyfer Llywodraethau a Dinasoedd Rhanbarthol fel aelodau o weithgor a rhanbarthau'r Gynghrair Uchelgais Mawr Ranbarthol ar gyfer Natur a Phobl. Yn y gynhadledd, gwnaethom arddangos ein profiad blaenllaw yn y sector mewn perthynas ag adfer afonydd a mawndiroedd, a gwnaethom bwysleisio ymrwymiad Cymru i amddiffyn a rheoli 30% o'i thir a'i moroedd erbyn 2030.
Mae Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni nodau bioamrywiaeth byd-eang. Ochr yn ochr â'n hymrwymiad i dargedau byd-eang, byddwn hefyd yn cyflwyno targedau domestig. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil i’r Senedd a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru, yn sefydlu corff llywodraethu newydd i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus Cymru yn goruchwylio cyfraith amgylcheddol yn gadarn, yn ogystal â chyflwyno fframwaith adfer natur strategol, a fydd yn cynnwys targedau bioamrywiaeth. Mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn torri tir newydd, a bydd yn arwydd o'n hymrwymiad clir bod gweithredu ac arwain wrth fynd i'r afael a'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Rwy'n cydnabod bod angen cymryd camau cryf i'n galluogi i fwrw ymlaen â gweithredu ein cynlluniau bioamrywiaeth ac ysgogi cyllid a buddsoddiadau mewn bioamrywiaeth a natur. Drwy gydweithio â'r llywodraethau datganoledig eraill, ein partneriaid a phobl Cymru gallwn fwrw ymlaen yn gyflym i ysgogi gweithredu ar lefel leol ledled Cymru.
Trown ni at 29ain Gynhadledd Partïon Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, COP29.
Prif gytundeb COP29 oedd i wledydd cyfoethog roi $300bn bob blwyddyn i wledydd sy'n datblygu, gyda tharged cyffredinol o £1.3 triliwn erbyn 2035. Mae hyn yn disodli'r nod blaenorol o $100 biliwn bob blwyddyn ac yn dod yn Gyd-nod Meintiol Newydd ar gyfer cyllid hinsawdd. Pwrpas y cyllid hwn yw helpu gwledydd sy'n datblygu i wella eu gallu i wrthsefyll bygythiadau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, ac i elwa ar y cyfleoedd mae newid i ynni glân yn eu cynnig.
Yn y gynhadledd, cytunodd gwledydd hefyd ar y rheolau ar gyfer marchnad garbon fyd-eang newydd wedi'i chefnogi gan y Cenhedloedd Unedig, gan sicrhau bod masnachu o wlad i wlad a mecanwaith credydu carbon, a gyflwynwyd gyntaf yng Nghytundeb Paris, yn gwbl weithredol. Mae'r rheolau'n cynnig sicrwydd y bydd uniondeb amgylcheddol drwy broses dryloyw o wiriadau ac adroddiadau.
O ran addasu, roedd y ffocws yn COP29 ar y gwledydd lleiaf datblygedig, yn enwedig paratoi'r ffordd i sefydlu rhaglen gymorth i weithredu Cynlluniau Addasu Cenedlaethol.
Yn y ddau gytundeb ar farchnadoedd carbon ac addasu, gwnaed pwysigrwydd clywed llais Pobl Frodorol, ymgysylltu â nhw a cheisio eu cytundeb yn gwbl glir.
Er ei bod yn destun siom na chafwyd cytundeb o safbwynt y nod cyllid a geisiwyd gan wledydd sy'n datblygu, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i fygythiadau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, rwy'n cydnabod ac yn croesawu'r cam ymlaen y cytunwyd arno yn COP29. Mae pob cam ymlaen yn bwysig, a dim ond drwy weithredu gyda'n gilydd, fel gwledydd sy'n gyfrifol yn fyd-eang, y byddwn yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Rwy'n falch o enw da rhyngwladol Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang, gan weithredu gartref a thramor. Gartref byddwn yn parhau i gymryd y camau sydd eu hangen i leihau ein hallyriadau, gan ddod â manteision i bobl, economi ac amgylchedd Cymru drwy dwf gwyrdd a swyddi gwyrdd, wrth inni drosglwyddo i sero net mewn ffordd deg. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi llywodraethau a chymunedau rhanbarthol mewn gwledydd sy'n datblygu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, drwy ein partneriaethau gyda Chynghrair Under2, a Maint Cymru.
Yn COP29, mynychodd Swyddogion Llywodraeth Cymru Gynulliad Cyffredinol Cynghrair Under2, y mae Cymru yn aelod o'r grŵp llywio. O dan y thema 'Uno Arweinwyr, Ysgogi Newid', ac edrych ymlaen at y dyddiad cau i Bartïon y Cenhedloedd Unedig gyflwyno Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol (NDCs) newydd, trafododd y Cynulliad Cyffredinol sut y byddai llywodraethau datganoledig a gwladwriaethol yn defnyddio eu dylanwad gyda Phartïon y Cenhedloedd Unedig, i ysgogi rhagor o uchelgais o ran Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol, a rhyddhau cyllid hinsawdd, i alluogi rhagor o weithredu byd-eang.
Rwy'n croesawu'r arweinyddiaeth a ddangoswyd gan Lywodraethau'r DU a Brasil wrth gyhoeddi Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol uchelgeisiol yn COP29, cyn y dyddiad cau ym mis Chwefror 2025. Wrth inni edrych ymlaen at COP30 ym Mrasil y flwyddyn nesaf, edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wrth inni weithio ar y cyd i ddatblygu ein cynlluniau sero net yn y DU, ac at weithio gyda'n partneriaid rhyngwladol i ddod o hyd i atebion i'r heriau sy'n ein hwynebu ni i gyd.