Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 1 Tachwedd 2024
Agenda a phapurau cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 01 Tachwedd 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Carys Williams
- Mutale Merrill
- Aled Edwards
- Mike Usher
- Tim Moss
- Tracey Burke
- Sioned Evans
- David Richards
- Nia James
- Dean Medcraft
- Amelia John
- Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur
- Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol
- Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd
Yn mynychu
- Dylan Hughes
- Matt Denham-Jones
- Y Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
- Prif Swyddog Ymchwil - Perfformiad Corfforaetho
- Pennaeth Rhaglen Gwella'r Gymraeg
Ysgrifenyddiaeth
- Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
Ymddiheuriadau
- Judith Paget
- Andrew Slade
1. Croeso/Materion cyfredol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Cafodd cofnodion 20 Medi eu cymeradwyo yn amodol ar fân ddiwygiad.
1.2 Soniodd y Cadeirydd am ei gyfarfod diweddar â chynrychiolwyr cenedlaethol Ochr yr Undebau Llafur.
1.3 Tynnodd y Cadeirydd sylw aelodau'r Bwrdd at Gyfrifon Cyfunol 2023/24 (PTN04). Gofynnodd Carys Williams am sicrwydd ynghylch canlyniadau diffyg cydymffurfio â pholisïau/gweithdrefnau a nodwyd gan archwiliadau o gyrff y GIG y cyfeirir atynt yn y cyfrifon. Ymatebodd Matt Denham-Jones.
1.4 Nododd y Cadeirydd anerchiad diweddar y Prif Weinidog i staff. Tynnodd Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol sylw at bryderon staff ynghylch negeseuon ynglŷn â gweithio hybrid. Atgoffodd Amelia John y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru yn sefydliad gwasgaredig sydd â swyddfeydd ledled Cymru. Nododd cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur y dehongliadau gwahanol o weithio hybrid a'r negeseuon gan Lywodraeth y DU ynglŷn â phresenoldeb yn y swyddfa a'r gwasanaeth sifil.
2. Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd – yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma ac edrych ymlaen at amcan 2050
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dylan Hughes a Phennaeth Rhaglen Gwella'r Gymraeg i'r cyfarfod a'u gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn ystod pedair blynedd gyntaf strategaeth Llywodraeth Cymru ar ei defnydd mewnol o'r Gymraeg, 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd.', a'r dull o baratoi ail gylch 5 mlynedd y strategaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 2025 a 2030.
2.2 Nododd Sioned Evans y berthynas waith dda gyda Chomisiynydd y Gymraeg a dywedodd y dylid bod yn fwy mentrus o ran dyheadau'r sefydliad ar gyfer sgiliau Cymraeg ei staff.
2.3 Gofynnodd Dom Houlihan beth oedd y ffordd orau o gefnogi'r aelodau staff hynny sy'n teimlo na allant ddysgu iaith ychwanegol am resymau personol a nododd y gwrthdaro posibl rhwng gwahanol strategaethau sefydliadol. Roedd Amelia John yn cytuno, gan nodi pryderon a godwyd gan staff ag anableddau. Dywedodd ei bod yn bwysig ystyried hawliau iaith yn rhan o drafodaethau ar gydraddoldebau.
2.4 Gofynnodd Tim Moss i ba raddau y gallai technoleg gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgais a gofynnodd Dom beth oedd y ffordd orau o hybu gwasanaethau cyfieithu'r sefydliad.
2.5 Atgoffodd Aled Edwards y Bwrdd o'r llwybrau deddfwriaethol a oedd wedi arwain at y sefyllfa bresennol ac roedd o blaid ymagwedd fwy cadarnhaol at y Gymraeg gan dynnu sylw at faterion yn ymwneud â chydraddoldebau.
2.6 Diolchodd David Richards i Dylan Hughes am ei waith yn y maes hwn, gan nodi bod hynny ar ben ei rôl fel y Prif Gwnsler Deddfwriaethol.
2.7 Nododd Carys Williams yr her bosibl i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf wrth weithio drwy gyfrwng y Saesneg ac awgrymodd y dylid ystyried y mater hwn.
2.8 Nododd Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol fod y Gymraeg yn rhan o natur groestoriadol y sefydliad a soniodd am frwdfrydedd enfawr aelodau staff dros y Gymraeg a'r adborth cadarnhaol ar yr hyfforddiant a gynigir iddynt.
2.9 Croesawodd Mutale Merrill y papur, gan nodi bod dysgu Cymraeg yn cynnig cyfle i gysylltu â'r gymuned ehangach.
2.10 Soniodd Tracey Burke am sut y mae Llywodraeth Iwerddon yn gweithredu o ran sgiliau yn yr Wyddeleg a'i haelodau staff.
2.11 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a nododd fod y Bwrdd wedi ailddatgan ei ymrwymiad a'i gefnogaeth i'r strategaeth. Nododd y dull a gynigir ar gyfer ail gyfnod y strategaeth, ar y cyd â strategaeth pobl Llywodraeth Cymru.
3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn eu tro i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am faterion allweddol y mae eu Grwpiau yn delio â nhw neu'n disgwyl delio â nhw dros y misoedd nesaf.
3.2 Nododd Aled Edwards her cydbwyso newid cynaliadwy â chyflawni nodau tymor byr a phwysleisiodd yr angen i fod yn ymwybodol o'r risg o ganlyniadau anfwriadol. Nododd Aled y gwaith blaenllaw yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi'r rhai sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.
3.3 Gofynnodd Carys Williams beth yw'r ffordd orau i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol gefnogi Cyfarwyddwyr Cyffredinol a'u timau. Mewn ymateb, nododd Tracy Burke y rôl y mae dod ag eitemau at sylw'r Bwrdd yn ei chwarae o ran rhoi cyfle i GyfarwyddwyrCyffredinol gymryd amser i ystyried materion.
3.4 Pwysleisiodd Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol yr angen am eglurder gan Weinidogion ynglŷn â'u blaenoriaethau.
3.5 Nododd cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur werth y cyfarfodydd Partneriaeth Gymdeithasol o ran rhoi cyfle i gael trafodaethau agored a gonest ar faterion.
4. Cerdyn Sgorio Cytbwys 2024/25 - adroddiad Chwarter 2
4.1 Gwnaeth y Bwrdd ystyried yr adroddiad perfformiad ar fetrigau allweddol yn ystod mis Gorffennaf, mis Awst a mis Medi (Ch2) ym mlwyddyn ariannol 2024/25, sef yr adroddiad perfformiad cyntaf i ddefnyddio'r dull cerdyn sgorio cytbwys newydd.
4.2 Nododd y Bwrdd y meysydd hynny y mae'r Pwyllgor Gweithredol (ExCo) wedi'u nodi ar gyfer gweithredu.
4.3 Croesawodd Mike Usher y cynnydd a wnaed o ran y cerdyn sgorio cytbwys a'r ffocws ar welliant parhaus. Cytunodd Carys a Mutale, gan awgrymu tynnu sylw at lwyddiannau.
4.4 Gwnaeth Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol awgrymu defnyddio Fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel ffynhonnell dangosyddion.
4.5 Diolchodd y Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol i bawb am eu hadborth a nododd fod y cerdyn sgorio cytbwys yn ategu ffynonellau data eraill fel yr Arolwg Pobl blynyddol.
5. Diweddariad ariannol – cyfnod 6
5.1 Rhoddodd Dean Medcraft ddiweddariad i'r Bwrdd am y sefyllfa gyllid yn ystod y flwyddyn yn seiliedig ar ragolygon a gyflwynwyd gan Benaethiaid Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Medi 2024 (cyfnod 6) yn erbyn y cyllidebau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 fel y'u haddaswyd er mwyn i newidiadau cymeradwy gael eu cynnwys mewn cyllideb yn y dyfodol. Nid oedd y diweddariad yn cynnwys unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrennir i Gymru yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar 30 Hydref.
6. Unrhyw fater arall
6.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.